Mater - cyfarfodydd

Materion Eraill

Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 13)

13 Materion Eraill pdf eicon PDF 1 MB

13.1 – DEM/2022/3 - Ffordd Corn Hir, Pennant, Llangefni.

          DEM/2022/3

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

13.1  DEM/2022/3 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai yn Ffordd Corn Hir, Pennant, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cofnodion:

  13.1 DEM/2022/3 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai yn Ffordd Corn Hir, Pennant, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir sydd ym meddiant y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer dymchwel tri bloc o fodurdai domestig i gerbydau sydd wedi dechrau mynd â’u pen iddynt yn Ffordd Corn Hir, Llangefni. Nid oes angen am y modurdai bellach, ac nid oes modd eu datblygu oherwydd bod ganddynt doeau asbestos bregus.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac  eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.