Mater - cyfarfodydd

Applications Arising

Cyfarfod: 27/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 7)

7 Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 3 MB

7.1 – FPL/2021/349 - Caerau, Llanfairynghornwy

FPL/2021/349

 

7.2 - FPL/2022/7 - Parc Carafanau Mornest, Pentre Berw

FPL/2022/7

 

7.3 - FPL/2022/63 - Ocean's Edge, Lon Isallt, Bae Treaddur

FPL/2022/63

 

7.4 – FPL/2021/266 - Ffordd Garreglwyd, Caergybi

FPL/2021/266

 

7.5 - FPL/2021/336 - Canolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

FPL/2021/336

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 7.1  FPL/2021/349 –Cais llawn ar gyfer creu manège marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol i fod yn safle gwersylla trwy'r flwyddyn yn Caerau, Llanfairynghornwy, Cemaes

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  FPL/2022/7 –Cais llawn i ail ddatblygu’r maes carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i gynnwys carafanau teithiol, ynghyd â chodi bloc toiledau/cawodydd ym Mharc Carafanau Mornest, Pentre Berw

 

PENDERFYNWYD gwrthod cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar y safle gan fod y cynnig yn groes i ddarpariaethau Polisi Cynllunio TWR 3 yn y Cynllun Datblygu lleol ar y Cyd ac yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

7.3  FPL/2022/63 - Cais llawn ar gyfer codi ciosg gwerthu bwyd a diod ar gyfer hufen iâ, wafflau a diodydd meddal yn Ocean's Edge, Lôn Isallt, Bae Trearddur

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4  FPL/2021/2022 –Cais llawn ar gyfer codi 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu ffordd newydd ar y safle ynghyd â thirlunio caled a meddal ar dir ger Ffordd Garreglwyd, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ymrwymiad cynllunio i sicrhau tai fforddiadwy.

 

7.5  FPL/2021/336 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan iechyd, adeiladu mannau parcio newydd ynghyd â thirlunio meddal yng Nghanolfan Feddygol Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Cofnodion:

7.1  FPL/2021/349 - Cais llawn ar gyfer creu manège marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol i fod yn safle gwersylla trwy'r flwyddyn yng Nghaerau, Llanfairynghornwy, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol a fynegodd bryder y byddai’r cynllun yn gyfystyr â gor-ddatblygu'r safle.  Yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin, 2022 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad safle rhithiol ar 29 Mehefin, 2022.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022, penderfynodd yr aelodau ohirio’r cais er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ailymweld â’r cais a’i gymharu â chais rhif FPL/2019/223.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Marc Whyatt, a oedd yn siarad o blaid y cais, bod rhai o’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y gwrthwynebwyr yn ffeithiol anghywir, camarweiniol ac yn peri dryswch. Roedd yn dymuno cael cyfle i fynd i’r afael ag unrhyw ddryswch neu ansicrwydd a achoswyd yn sgil y sylwadau hyn a allai arwain at wneud y penderfyniad anghywir yn anfwriadol. Roedd yn gobeithio bod aelodau’r pwyllgor wedi cael digon o amser erbyn hyn i wneud penderfyniad proffesiynol a theg ac o safbwynt cynllunio. Cyflwynwyd y cais ym mis Hydref y llynedd, 9 mis yn ôl, a dywedodd ei fod wedi gweithio’n agos  gyda staff y cyngor i ddelio â’r meysydd pryder. Cyn cyflwyno’r cais, crëwyd 2 fan pasio ar y ffordd ac mae’r rhain wedi’u cymeradwyo, eu derbyn  a’u mabwysiadu gan y cyngor erbyn hyn - roedd y gwaith hwn yn rhan o gais blaenorol. Cynhaliwyd arolwg traffig yn ogystal, ar draul yr ymgeisydd - yn unol ag argymhelliad y cyngor - er mwyn bodloni unrhyw bryderon yn ymwneud â llif traffig ar y ffyrdd. Cododd y Cynghorydd Llinos Medi bryder ynglŷn â’r lefelau traffig yn sgil ceisiadau blaenorol sydd heb gael eu datblygu eto. Fel teulu lleol gyda phlant ifanc sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg lleol, dywedodd yr ymgeisydd bod lefelau traffig hefyd yn ei boeni yntau.  Cadarnhaodd bod yr arolwg traffig boddhaol yn cynnwys y llif traffig ar gyfer yr holl geisiadau - nid dim ond y safle gwersylla.  Mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor ar 6 Gorffennaf, dywedwyd bod y cais yn “gopi carbon” o gais a wrthodwyd yn ddiweddar a arweiniodd at y syniad y dylid gwrthod y cais hwn am yr un rheswm. Ni ellir cymharu’r cais cynllunio y cyfeiriwyd ato â’r cais hwn. Yn wahanol i gais rhif FPL/2019/223, mae’r datblygiad dan sylw wedi cael ei ystyried gan yr awdurdodau perthnasol a nodir mewn adroddiadau proffesiynol na fydd yn niweidiol i’r AHNE. Lluniwyd  yr adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cynllunio a’r Uwch Swyddog Tirwedd a Choed. Rheswm arall dros wrthod cais rhif FPL/2019/223 oedd ei effaith negyddol ar yr eiddo preswyl gyferbyn a gerllaw’r datblygiad. Unwaith eto, ni ellir ei gymharu â’r cais dan sylw gan nad oes eiddo preswyl yn agos at y safle gwersylla.   Mae’r cais cynllunio a gyflwynwyd yn bodloni’r pryderon a godwyd gan y pwyllgor lleol, yn wahanol i gais rhif FPL/2019/223. Holwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7