Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 27/07/2022 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 1 MB

10.1 – FPL/2022/116 – Gallt y Mwg (Wylfa) Ty Croes, Pencarnisiog

FPL/2022/116

 

10.2 – FPL/2020/149 – Stad y Felin, Llanfaelog

FPL/2020/149

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 10.1  FPL/2022/116 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio dyluniad a ganiatawyd o dan apêl cyfeirnod APP/L6805/A/11/2158396 ) yn Gallt y Mwg (Wylfa), Pencarnisiog, Tŷ Croes

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  FPL/2020/149 – Cais llawn ar gyfer codi 8 annedd fforddiadwy ynghyd â chreu mynedfa cerbydau newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir yn Stad y Felin, Llanfaelog

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r pŵer i’r Swyddogion gymeradwyo’r cais ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad yn adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad hwnnw a bod tai fforddiadwy’n cael eu sicrhau drwy amod yn hytrach na rhwymedigaeth cynllunio.

Cofnodion:

10.1  FPL/2022/116 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio dyluniad a ganiatawyd o dan apêl cyfeirnod APP/L6805/A/11/2158396 ) yng Ngallt y Mwg (Wylfa), Pencarnisiog, Tŷ Croes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r argymhelliad yw ei gymeradwyo er ei fod yn groes i bolisi PCYFF1 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod gan y safle ganiatâd sydd wedi ei ddiogelu ar gyfer annedd newydd i gymryd lle annedd sy’n bodoli’n barod, a

dderbyniodd ganiatâd cynllunio o dan gais rhif 28C108D ac mae

wedi cael ei ddiogelu trwy ddechrau gwaith perthnasol gan olygu fod y caniatâd yn ddilys am byth. Mae’r cais ar gyfer newid dyluniad yr annedd; mae’r caniatâd sydd wedi’i ddiogelu ar gyfer codi byngalo 1.5 llawr ac mae’r cynnig yn ceisio derbyn caniatâd ar gyfer eiddo 2 lawr gyda tho llai. Bydd arwynebedd llawr yn cynyddu o 120m2 i 165m2 a chynigir defnyddio gorffeniadau mwy modern. Ar ôl ystyried y cynllun yn erbyn y caniatâd a ddiogelwyd a pholisïau perthnasol yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol, bernir bod y cynnig yn dderbyniol gan ei fod yn gweddu â’r eiddo cyfagos a chymeriad yr ardal ac yn welliant ar y caniatâd sy’n bodoli’n barod. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  FPL/2020/149 – Cais llawn ar gyfer codi 8 annedd fforddiadwy ynghyd â chreu mynedfa cerbydau newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir yn Stad y Felin, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r argymhelliad yw ei gymeradwyo er ei fod yn groes i bolisi TAI 16 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Cadnant Planning, o blaid y cais a dywedodd bod llwyddiant y cynllun gwreiddiol yn Stad y Felin wedi annog Grŵp Cynefin i edrych ar ymestyn y stad i ddarparu ragor o gartrefi fforddiadwy i bobl leol sydd mewn angen. Grŵp Cynefin sydd berchen ar y tir a’r bwriad yw gosod y tai ar rent cymdeithasol, tebyg i’r tai eraill ar y safle. Mae adeiladu tai cymdeithasol yn galluogi i Grŵp Cynefin ymgeisio am grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu a chadw rhenti’n fforddiadwy ar hyd oes y tai. Yn sgil hyn, mae’r cynllun yma wedi ei gynnwys yn rhaglen datblygu tai fforddiadwy Ynys Môn, sy’n cael ei weinyddu gan y Tîm Strategol Tai, gyda chyllid wedi’i glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cynllun wedi derbyn adborth cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru o ran ei ddyluniad - sydd yn gorfod cwrdd â’r gofynion ansawdd datblygu ar gyfer cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol (2021). Fodd bynnag mae Bryn Du wedi’i ddynodi’n setliad clwstwr sydd yn groes i ddarpariaethau polisi Cynllunio TAI 16. Mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10