12. Gweddill y Ceisiadau
PDF 4 MB
12.1 – FPL/2025/108 – Canolfan Penrallt, Plas Arthur, Llangefni
12.2 – LBC/2025/24 – Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi
12.3 – CAC/2025/3 – 97 Stryd y Farchnad, Caergybi
12.4 – ADV/2025/7 – 91-97 Stryd y Farchnad, Caergybi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 FPL/2025/108 – Cais llawn ar gyfer ailddatblygu Canolfan Penrallt yn westy bwtîc 13 ystafell wely a lleoliad priodas ynghyd â gwaith addasu ac ehangu yng Nghanolfan Penrallt, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12. 2 LBC/2025/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod plac ym Mhlas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar dderbyn caniatâd adeilad rhestredig gan Adain Gynllunio Llywodraeth Cymru gan fod y tir ym meddiant y Cyngor.
12.3 CAC/2025/3 - Cais Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel yr adeilad a chodi palis dros dro ynghyd â chreu man cyhoeddus newydd yn cynnwys tirlunio caled a meddal, systemau draenio cynaliadwy ac isadeiledd a gwaith ategol yn 97 Stryd y Farchnad, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar dderbyn caniatâd gan Adain Gynllunio Llywodraeth Cymru gan fod y cais mewn ardal gadwraeth a chan ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.
12.4 ADV/2025/7 - Cais i osod paneli hysbysebu dros dro mewn perthynas ag ail ddatblygu'r safle yn 91-97 Stryd y Farchnad, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.