Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn ei fod yn gwneud y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a nodir ym mharagraff 3.3.1 yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) a'r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) er sylw'r Pwyllgor Gwaith. ‘Roedd yr adroddiad yn nodi'r newidiadau y mae angen eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn adlewyrchu gofynion Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygiad) 2017, a Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 (y Rheoliadau). Daeth y Rheoliadau i rym ar 5 Mai, 2017, gan osod gofynion ar Gynghorau, fel yr Awdurdodau Cynllunio Lleol, mewn perthynas â maint a chyfansoddiad Pwyllgorau Cynllunio Awdurdodau Lleol ac mewn perthynas ag aelodau dirprwyol a'r cworwm ar gyfer Pwyllgorau.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd fod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn eisoes yn cydymffurfio â'r rhan fwyaf o'r Rheoliadau; ‘roedd y newidiadau sydd angen eu gwneud i'r Cyfansoddiad er mwyn cwrdd â gofynion y Rheoliadau wedi'u nodi ym mharagraff 3.3.1 yr adroddiad ac maent yn ymwneud â darpariaethau mewn perthynas â chworwm y Pwyllgor a pheidio â chaniatáu aelodau dirprwyol.
Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn ei fod yn gwneud y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a nodir ym mharagraff 3.3.1 yr adroddiad.
Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor Gwaith cyn yr Etholiad Llywodraeth Leol ar 4 Mai 2017, ‘roedd y Cynghorydd H. Eifion Jones a'r Cynghorydd Alwyn Rowlands, a oedd ill dau yn ymddeol fel Aelodau Etholedig, yn dymuno diolch i'r Cadeirydd am ei arweinyddiaeth o’r Cyngor yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac ‘roeddent yn credu bod yr arweinyddiaeth honno wedi gosod y Cyngor ar sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Diolchodd y Cynghorydd Jones a'r Cynghorydd Rowlands hefyd i'r Swyddogion am eu cymorth a’u harweiniad gan ychwanegu eu bod wedi mwynhau gweithio gyda'u cyd-Aelodau er budd y Cyngor. Dymunodd y ddau lwyddiant parhaus i’r Cyngor a’i staff ar gyfer y dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd yn ei dro i’r Cynghorwyr H. Eifion Jones ac Alwyn Rowlands am eu gwaith fel Aelodau ac fel Aelodau Portffolio dros gyfnod y Cyngor hwn. Cydnabu hefyd y cyfraniadau a wnaed gan yr holl Aelodau Etholedig yn ogystal â gwaith y Swyddogion yn ystod y cyfnod hwn, ac yn arbennig y cymorth a roddwyd i'r Pwyllgor Gwaith a’r Weinyddiaeth gan staff y Gwasanaethau Democrataidd.