Mater - cyfarfodydd

2016/17 Capital Budget Monitoring Report - Quarter 4

Cyfarfod: 12/06/2017 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Adroddiad Monitro Cyllideb Gyfalaf 2016/17 - Chwarter 4 pdf eicon PDF 631 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd 

 

·        Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2016/17 a fydd yn destun archwiliad.

·        Cymeradwyo dwyn £4.677m ymlaen i 2017/18 oherwydd tanwariant ar y rhaglen yn sgil llithriad. Dygir ymlaen y cyllid ar gyfer y swm hwn hefyd i 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn amlinellu canlyniadau dros dro y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2016/17.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Cyllid at y tabl ym mharagraff 2.1 yr adroddiad sy’n rhoi crynodeb o wariant cyfalaf hyd at 31 Mawrth 2017. Adroddodd bod y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol yn £38.665m a gwariwyd £28.033m hyd at 31 Mawrth 2017, sef 73% o’r gyllideb. Y prif resymau dros y tanwariant oedd y tanwariant mawr yn erbyn y cyllidebau ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif, y Cynlluniau Isadeiledd Strategol ar gyfer Caergybi a Llangefni a’r Cynllun Priffyrdd Newydd i Wylfa Newydd. Gellir dwyn cyllid ar gyfer y prosiectau hyn ymlaen i 2017/18. Rhoddir manylion am wariant yr holl gynlluniau cyfalaf yn erbyn y gyllideb yn Atodiad B yr adroddiad. Cynigir bod £4.677m yn cael ei ddwyn ymlaen i 2017/18 yn sgil llithriad yn y cynlluniau cyfalaf na chafodd eu cwblhau erbyn diwedd Mawrth 2017.

 

Cafodd y rhaglen gwella mân-ddaliadau ei hymestyn am flwyddyn. O gymryd i ystyriaeth y diffyg o £1.281m a ddygwyd ymlaen o 2015/16, cyfanswm derbyniadau cyfalaf o £2.854m ar ddiwedd y flwyddyn a gwariant o £1.226m, mae gwarged o £0.307m erbyn hyn. Bydd gwarged net o werthu mân-ddaliadau a’r rhaglen wella yn cael ei glustnodi i’w ddefnyddio’n benodol ac yn unig ar gyfer gwneud gwelliannau i fân-ddaliadau yn y dyfodol.

 

Ar y cyfan, roedd 2016/17 yn flwyddyn ariannol lwyddiannus o ran derbyniadau cyfalaf a derbyniwyd dros £5m.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2016/17 a fydd yn destun archwiliad.

  Cymeradwyo dwyn £4.677m ymlaen i 2017/18 oherwydd tanwariant ar y rhaglen yn sgil llithriad. Dygir ymlaen y cyllid ar gyfer y swm hwn hefyd i 2017/18.