8 Cynllun Gostyngiadau Dewisol yn y Dreth i Fusnesau’r Stryd Fawr am Gyfnod Dros Dro 2017/18 PDF 5 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Bod yr Awdurdod yn defnyddio ei bwerau dewisol i ganiatau dan Adran 47 Deddf Llywodraeth Leol 1988 gweithredu cynllun dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer “Gostyngiadau yn Nhrethir’r Stryd Fawr”. Rhoddir y gostyngaid yn unol â dogfen Llywodraeth Cymru – “Canllawiau Trethi Annomestig – Gostyngiadau yn Nhrethi’r Stryd Fawr” 19 Ebrill, 2017 fel y gwelir yn Atodiad A i’r adroddiad.
· Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 dan Gynllun Dirprwyo’r Cyngor i Swyddogion (rhan 3.5.3.5.19 y Cyfansoddiad) yn gwenud trefniadau priodol i weinyddu a phenderfynu ar geisiadau dan y Cynllun “Gostyngiadau yn Nhrethi Annomestig y Stryd Fawr.”
Cofnodion:
Cyflwynwyd er ystyriaeth, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog 151 yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ddefnyddio ei bwerau dewisol i ganiatáu gostyngiad dan Adran 47 Deddf Llywodraeth Leol Cymru 1988 i weithredu cynllun gostyngiadau dros dro yn y dreth fusnes.
Wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorwyr R.G. Parry, OBE, FRAgS ac Ieuan Williams y cyfarfod ac nid oeddent yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater hwn.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu gostyngiadau yn nhrethi annomestig y stryd fawr am flwyddyn yn unig o 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018. Mae’r gostyngiad wedi’i dargedu tuag at adwerthwyr stryd fawr yng Nghymru, a bydd yn darparu dwy haen o ostyngiadau ar gyfer trethi annomestig ar gyfer adwerthwyr cymwys ar y stryd fawr sydd mewn eiddo â gwerth ardrethol o £50,000 neu lai ym mlwyddyn ariannol 2017/18, yn amodol ar gyfyngiadau cymorth gwladol. Rhaid llenwi ffurflen gais i ymgeisio am y cymorth hwn. Mae mwy o fanylion am y meini prawf cymhwyster ac eithriadau yn Atodiad A yr adroddiad.
Penderfynwyd –
• Bod yr Awdurdod yn defnyddio ei bwerau dewisol i ganiatáu dan Adran 47 Deddf Llywodraeth Leol 1988 gweithredu cynllun dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer “Gostyngiadau yn Nhrethi’r Stryd Fawr”. Rhoddir y gostyngiad yn unol â dogfen Llywodraeth Cymru - “Canllawiau Trethi Annomestig - Gostyngiadau yn Nhrethi’r Stryd Fawr” 19 Ebrill, 2017 fel y gwelir yn Atodiad A i’r adroddiad.
• Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 dan Gynllun Dirprwyo’r Cyngor i Swyddogion (rhan 3.5.3.5.19 y Cyfansoddiad) yn gwneud trefniadau priodol i weinyddu a phenderfynu ar geisiadau dan y Cynllun “Gostyngiadau yn Nhrethi Annomestig y Stryd Fawr.”