Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim un ymddiheuriad wedi ei dderbyn.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:-

 

Y Cynghorydd W.T.Hughes ar gyfer cais 7.2 (diddordeb personol)

Y Cynghorydd John Griffith ar gyfer cais 7.3 (diddordeb personol).

Y Cynghorydd Victor Hughes ar gyfer cais 13.1

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes, a Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol ar y sail bod maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys pwyntiau mewn perthynas â thyrbinau gwynt ond dweud y byddant yn rhoi sylw i bob cais yn ôl eu rhinweddau cynllunio.

 

Gwnaeth y Cynghorydd J Arwel Roberts, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.3, er nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor.

 

3.

Cofnodion Cyfarfod 4ydd Medi, 2013 pdf eicon PDF 293 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4ydd Medi, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Medi 2013, gyda’r newidiadau a ganlyn:

 

·         Yn y fersiwn Gymraeg o’r cofnodion, bod y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts wedi datgan diddordeb oherwydd cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru ond dywedwyd y byddent yn ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun.

·         Y nodir bod y Cynghorydd Ann Griffith wedi atal ei phleidlais ar gais 34C638A.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 18ed Medi, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2013

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Rhoes y Cadeirydd wybod i’r Pwyllgor y byddai siaradwyr cyhoeddus ar gyfer ceisiadau 7.3 a 12.6.

 

6.

Ceisiadau Fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 1 MB

6.1  30C713 – Bryn Mair, Llanbedrgoch

 

6.2 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

 

6.3 39C285D – Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

6.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol

Cofnodion:

6.1 30C713 - Codi un tyrbin gwynt 10KW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 15.5m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 7.5m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 19.25m ar dir ger Bryn Mair, Llanbedr-goch

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygu tyrbinau gwynt.  Argymhelliad y swyddog oedd ymweld â’r safle.

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

6.2 35C553A -Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffyrdd a seilwaith cysylltiol yn ‘Ty’n Coed’, Llangefni.

Roedd y cais yn un oedd yn tynnu’n groes ac yn un yr oedd y swyddogion o blaid ei ganiatáu.

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor bod y swyddog yn argymell gohirio’r cais fel bod modd ymgynghori ymhellach ynghylch ffigurau cyflenwadau tai a chael cyfraniad yr adran addysg.

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

6.3 39C285D – Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymwelwyd â’r safle ar 19 Rhagfyr a bod gwaith ystyried y cais wedi ei ohirio am wahanol resymau yng nghyfarfodydd dilynol o’r Pwyllgor tan y penderfynwyd, yn y pen draw, i dynnu’r cais oddi ar y rhestr hyd oni cheid argymhelliad.  Oherwydd bod aelodau newydd ar y pwyllgor yn sgil yr etholiadau lleol ym mis Mai, ni fuasai digon o aelodau newydd o’r Pwyllgor Cynllunio wedi ymweld â’r safle i fedru gwneud penderfyniad.

Penderfynwyd ailymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

6.4  44C294B – Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 20kw gydag uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn ‘Plas Newydd’, Rhos-y-bol.

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygu tyrbinau gwynt.  Argymhelliad y swyddog oedd ymweld â’r safle.

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 3 MB

7.1 22C211C – Yr Orsedd, Llanddona

 

7.2 38C219C – Cae Mawr, Llanfechell

 

7.3 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

 

7.4 47LPA966/CC – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Cofnodion:

7.1  22C211C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder i’r hwb o 25m, diametr rotor o 19.24m ac uchafswm uchder o 34.37m ar dir yn ‘Yr Orsedd’, Llanddona

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygu tyrbinau gwynt. 

 

Cafodd aelodau’r pwyllgor eu hatgoffa gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gohiriwyd gwneud penderfyniad ar y cais yng nghyfarfod blaenorol y pwyllgor ar gais yr ymgeisydd fel bod modd iddo gyflwyno gwybodaeth mewn ymateb i resymau’r swyddog dros argymell gwrthod y cais.  Dywedodd y swyddog nad oedd mwy o wybodaeth wedi ei derbyn am y cais hyd yn hyn er ei fod yn ymwybodol bod trafodaeth ar y gweill.  Unwaith eto, roedd yr ymgeisydd wedi gofyn am gael gohirio er mwyn cael cyflwyno gwybodaeth ychwanegol.  Fodd bynnag, o ran y swyddog, ni fy newid o bwys yn y sefyllfa ac erys yr argymhelliad fel un o wrthod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. Mater i’r ymgeisydd oedd cyflwyno cais newydd pe byddai’n dymuno gwneud hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod o’r farn bod yr ymgeisydd wedi cael digon o amser i gyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol yng nghyswllt y cais ac, felly, cynigiodd dderbyn argymhelliad y swyddog, sef gwrthod. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn cydymdeimlo gyda’r ymgeisydd oedd yn ennill ei fywoliaeth fel ffarmwr llaeth ac oedd yn ceisio manteisio ar bolisïau ynni adnewyddol y Llywodraeth a dywedodd nad oedd yn gwrthwynebu tyrbin gwynt ar gowt y ffarm at ddibenion busnes.  Fodd bynnag, ni allai gefnogi’r cais fel y’i cyflwynwyd ac roedd o’r farn bod raid iddo fod yn gyson yn ei safiad gan ei fod eisoes wedi gwrthod codi anemomedr ar safle gwyrdd.  Roedd yn gwrthwynebu’r cais hwn oherwydd yr effaith yr oedd yn ei gael ar yr ardal o gofio bod dau fast arall eisoes yn yr ardal; ei effaith ar sustemau naturiol ac ar adar oedd yn mudo, ei effaith ar y tirlun oedd yn ffinio ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ei effaith ar dwristiaeth, ei effaith ar sustemau cyfathrebu radio’r Heddlu a, hefyd, oherwydd bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cynnig.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

(Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ar y cais gan na fu ar yr ymweliad safle).

7.2  38C219C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt 10kW gydag uchder hwb hyd at 15m, diamedr rotor hyd at 9.7m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 19.5m ar dir yn ‘Cae Mawr’, Llanfechell

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan y penderfynwyd na fyddid yn defnyddio pwerau dirprwyedig yng nghyswllt datblygu tyrbinau gwynt. 

 

Roedd y Cynghorydd W T Hughes wedi datgan diddordeb personol ond nid rhagfarnus yn y cais hwn ac arhosodd yn y cyfarfod trwy gydol y drafodaeth a phleidleisiodd ar y cais.

 

Cafodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw gais economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau Tai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw gais am dai fforddiadwy yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw gais oedd yn groes i bolisi yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 351 KB

11.1 16C119B – Pen yr Orsedd, Engedi

Cofnodion:

11.1 16C119B - Cais llawn ar gyfer codi adeilad ar gyfer darparu gweithdy a swyddfa yn ‘Pen yr Orsedd’, Engedi

 

  Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol ac     oherwydd bod yr ymgeisid yn perthyn i Gynghorydd.

    Anerchodd y Cynghorydd R G Parry OBE y Pwyllgor fel Aelod Lleol gan ddweud nad oedd modd gweld safle’r cais o’r A55 gan ei fod mewn dyffryn.  Cais oedd hwn am weithdy bychan i gadw tŵls, garej  a manion eraill y cartref - nid oedd cyfleuster storio ym Mhen yr Orsedd ar hyn o bryd.  Dyn ifanc oedd yr ymgeisydd ac roedd hefyd yn Saer ac yn grefftwr ac yn gweithio ar hyn o bryd o garej ei hen gartref.  Roedd yn arbenigo mewn gwaith coed.  Bwriad ei dad oedd dymchwel y garej gan olygu na fuasai gan yr ymgeisydd, o’r herwydd,  unrhyw le i gadw ei dŵls gwaith.  At hyn, buasai’r gweithdy yn ei gwneud yn bosib i’r ymgeisydd gadw ei fan dan do.  Dywedodd y Cynghorydd Parry nad oedd o’r farn bod yr adeilad arfaethedig yn fawr (oddeutu 10m wrth 10m wrth 4m) a phe bai’r cais wedi bod yn un am garej ddwbl, ni fuasai wedi bod  yn broblem o gwbl.  Roedd yr ymgeisydd wedi bod yn onest ynghylch ei fwriadau ar gyfer yr adeilad.  Nid oedd yr ymgeisydd yn medru fforddio rhentu uned ar stad ddiwydiannol a buasai medru gweithio yn agos i’w gartref o fantais fawr iddo.  Tynnodd y Cynghorydd Parry sylw at y ffaith bod sied ieir fawr yn y cyffiniau a bod cynnig am sied fawr i’r chwith o safle’r cais wedi ei ganiatáu.  At hyn, roedd iard adeiladu a ffarm gydag amrywiaeth o adeiladu nid ymhell o’r safle.  Ni fuasai’r datblygiad arfaethedig yn sefyll allan.  Dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod o’r farn y ceid llai o draffig gan na fuasai raid i’r ymgeisydd deithio yn ôl ac ymlaen i’w waith. Nid oedd yr ymgeisydd yn bwriadu defnyddio’r safle at ddibenion gwerthu.  Gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi’r cais gan saer ifanc oedd yn dymuno aros yn ei gymuned i wneud ei waith.

Gofynnodd y Cynghorydd Victor Hughes a fuasai’r sied arfaethedig yng nghefn y tŷ.  Eglurodd y Cynghorydd R G Parry y buasai’r adeilad arfaethedig yn yr ardd ac nid yn sownd yn y tŷ.

Nododd y Cynghorydd Jeff Evans bod y bwriad i’w weld yn adeilad mawr iawn i sied a gofynnodd ai’r bwriad oedd ei ddefnyddio fel sied gwaith coed - os dyma’r achos, buasai’n hapus ei gefnogi fel busnes lleol.  Tynnodd y Cynghorydd Evans sylw at y ffaith bod yr adroddiad, fodd bynnag, yn dweud, bod y wybodaeth a roddwyd yn dangos y buasai’r gweithdy arfaethedig yn cael ei ddefnyddio’n rhannol at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r tŷ ac yn rhannol mewn cysylltiad â busnes gwaith coed yr ymgeisydd.  O’r herwydd, gofynnodd ai sied ynteu estyniad i’r tŷ oedd y datblygiad a dywedodd ei fod yn ceisio dychmygu beth oedd y bwriad a beth fuasai  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 12C266N/FR – Penrhyn Safnas, Biwmares

 

12.2 20C290A/FR/RE – Towyn, Cemaes

 

12.3 22LPA987/CC – Eglwys Sant Iestyn, Llanddona

 

12.4 39C541 – Toiledau Cyhoeddus, Ffordd Cynan, Porthaethwy

 

12.5 42C114A – Tai’n Coed, Pentraeth

 

12.6 46C147D – Tan y Graig, Trearddur

 

12.7 46C523 – Bodfair, Ffordd Ravenspoint, Trearddur

Cofnodion:

12.1 12C266N/FR – Cais llawn ar gyfer codi adeilad mwynderau ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor am y cais gan ei fod ar dir y mae’r  Cyngor yn berchen arno.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

(Fel Aelod Lleol ni phleidleisiodd y Cynghorydd Lewis Davies ar y cais).

12.2 20C290A/FR/RE – Cais llawn ar gyfer y llwybr ceblau arfaethedig a’r is-orsaf yng nghyswllt ‘Anglesey Skerries Tidal Array’ yn ‘Towyn’, Cemaes

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais oherwydd bod rhan o’r safle (maes parcio a’r traeth) ym mherchenogaeth / dan reolaeth y  Cyngor.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

(Fel Aelodau Lleol ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Richard Owain Jones a W T Hughes ar y cais).

12.3 22LPA987/CC – Newid defnydd tir er mwyn creu estyniad i’r fynwent bresennol yn Eglwys Sant Iestyn, Llanddona

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais gan iddo gael ei wneud gan yr Awdurdod Lleol.

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

(Fel Aelod Lleol ni phleidleisiodd y Cynghorydd Lewis Davies ar y cais).

  12.4 39C541 - Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o fod yn doiled cyhoeddus i fod yn garej breifat yn Nhoiledau Cyhoeddus, Ffordd Cynan, Porthaethwy

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais oherwydd bod yr adeilad ym mherchenogaeth y Cyngor.

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor bod y Cyngor Tref yn cefnogi’r bwriad.

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans a fyddid wedi caniatáu codi garej breifat ar y safle hwn dan unrhyw amgylchiadau eraill.

Ceisiodd y Cynghorydd John Griffith eglurhad pam  oedd y cais yn cael ei gyflwyno rŵan pan mai 16 Hydref oedd y dyddiad cau ar gyfer sylwadau.

Eglurodd  y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod rhaid ei ystyried o fewn yr amserlen statudol o wyth wythnos gan ei fod yn gais oedd yn ymwneud ag adeilad ym mherchenogaeth y Cyngor.  Yng nghyswllt a fyddai’r cais wedi cael ei ganiatáu dan amgylchiadau eraill, rhaid oedd ymdrin â’r cais fel y’i cyflwynir.

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.5 42C114A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod tanc septig yn ‘Tai’n Coed’, Pentraeth

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor ei fod yn argymell gohirio ystyried y cais oherwydd iddo dderbyn llythyr hwyr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 885 KB

13.1 42C321 – Y Sidings, Pentraeth

 

13.2 47LPA969B/CC – Llwyn yr Arth, Llanbabo

Cofnodion:

13.1 42C231 – Cais llawn i godi tair annedd newydd ar ddeg ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir yn ‘The Sidings’, Pentraeth

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais hwn gan ei fod yn tynnu’n groes i’r Polisi Cynllunio Lleol ond bod modd ei ganiatáu dan y Cynllun Datblygu Unedol.

Gan fod y Cynghorydd Victor Hughes wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod wedi ymweld â’r safle a bod y cyfarfod ar 4 Medi, 2013 wedi penderfynu caniatáu’r cais unwaith y buasai dyddiad cau sylwadau cymdogion wedi dod i ben ac ar yr amod na fuasai materion ychwanegol yn cael eu codi mewn unrhyw ohebiaeth a fuasai’n dod i law.  Yn sgil derbyn mwy o lythyrau, y gred oedd y dylai’r cais gael ei gyflwyno eto fel bod modd cynnwys yr holl bwyntiau a godwyd.  Eglurodd y Swyddog y codwyd un mater newydd yng nghyswllt anghenion tai Pentraeth.  O’r herwydd,  ymgynghorwyd â’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ynghylch y mater hwn ac roedd yr Uned Bolisi wedi ymateb gyda’r wybodaeth bod arolwg o dai ym Mhentraeth dros y deg mlynedd diwethaf yn dangos bod llawer llai o dai wedi eu codi yn y pentref nag y byddid wedi eu disgwyl ar gyfer pentref o’r maint hwnnw dros gyfnod y Cynllun Datblygu.  Felly, ni fuasai caniatáu’r datblygiad hwn yn arwain at orddatblygu tai yn yr ardal.  O’r herwydd, nid oedd rheswm dros wrthod y cais ar y sail honno.

Rhoes y Cynghorydd Vaughan Hughes wybod i Aelodau ei fod wedi cael cais gan wrthwynebydd i gyflwyno ei bwyntiau gwrthwynebu i’r Pwyllgor a bod y wybodaeth wedi ei gosod yn fanwl ac yn faith.  Gofynnodd i’r Cadeirydd am ganiatâd i gyflwyno’r pwyntiau.

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mai ofer, o bosib, fyddai cyflwyno dadleuon y gwrthwynebydd oni buasai’r Pwyllgor yn dymuno ailagor y drafodaeth ar rinweddau’r cais hwn.

Cafodd aelodau’r pwyllgor eu hatgoffa gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio eu bod wedi ystyried nifer o ffactorau wrth ddod i’w casgliad yn y cyfarfod blaenorol ac nad oed dim wedi newid ers y cyfarfod hwnnw ac eithrio gwybodaeth am nifer y tai a godwyd yn y pentref dros y deg mlynedd diwethaf.  O’r herwydd, buasai’n disgwyl i’r Pwyllgor ddod i’r un casgliad ag y gwnaeth yn y cyfarfod diwethaf, a hynny’n seiliedig ar yr un ystyriaethau.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

(Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Kenneth Hughes, Raymond Jones a Richard Owain Jones ar y cais gan na fuont ar yr ymweliad safle).

13.2 47LPA969B/CC – Rhybudd o fwriad i ddymchwel cyn annedd (‘Bryn Eglwys’) yn Llwyn yr Arth, Llanbabo

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor y penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol i’r datblygiad uchod a’i fod yn ddatblygiad a ganiateir.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.