Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb gan Gadeirydd y Pwyllgor. Estynnodd y Cynghorydd R.O.Jones, a oedd yn gwasanaethu fel Cadeirydd y cyfarfod hwn, ei ddymuniadau gorau ef a'r Pwyllgor i'r Cynghorydd Nicola Roberts am wellhad buan.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 498 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Hydref, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfod Rhithiol yr Ymweliad Safleoedd a gafwyd ar 21 Hydref, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad rhithwir â safle a gynhaliwyd ar 21 Hydref, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darllenwyd sylwadau a wnaed gan wrthwynebydd a chefnogwr mewn perthynas â chais 7.4 yn llawn yn y cyfarfod.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 – FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy

 

7.2 – 47C151B – Ty’n Ffordd, Elim

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzhSsEAJ/47c151b?language=cy

 

7.3 – FPL/2020/45 – Talli Ho, Prys Iorweth Uchaf, Bethel, Bodorgan

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MJaAuUAL/fpl202045?language=cy

 

7.4 – FPL/2020/92 – 3 Bronallt, Ffordd Cambria, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgBp6UAF/fpl202092?language=cy

 

7.5 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2019/217 – Cais cynllunio llawn ar gyfer codi 17 annedd fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd i gerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir ger Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod dau o'r Aelodau Lleol wedi galw'r cais i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y gohiriwyd rhoi sylw i'r cais  yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Hydref, 2020 ar ôl derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn gwahardd y Pwyllgor rhag cymeradwyo'r cais hyd nes y byddai penderfyniad wedi ei wneud gan y Gweinidog ynghylch a ddylid ei alw i mewn ai peidio yn dilyn cais a gyflwynwyd i'r perwyl. Cadarnhaodd y Swyddog mai dyna'r sefyllfa o hyd a bod yr argymhelliad felly'n parhau i fod yn un o ohirio.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi sylw i'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 47C151B - Cais llawn i godi chwech o lifoleuadau 5 metr o uchder ar gyfer y manège yn Ty'n Ffordd, Elim

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl i Aelod Lleol ei alw i mewn oherwydd pryderon am y goleuadau arfaethedig mewn cysylltiad ag anheddau preswyl cyfagos. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2020, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar sail effaith y cynnig ar yr eiddo cyfagos, ar yr ardal o’i gwmpas ac ar yr Awyr Dywyll.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod adroddiad y Swyddog yn mynd i’r afael â’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor. O ran yr effaith ar eiddo cyfagos ac ar y mwynderau cyfagos, dywedodd y bydd y manège yn cael ei ddefnyddio fel cyfleuster preifat bob amser ac mai diben y llifoleuadau yw sicrhau y gellir defnyddio'r cyfleuster yn ystod misoedd y gaeaf. Byddai unrhyw ganiatâd cynllunio yn amodol ar gyfyngu'r defnydd o'r llifoleuadau i'r oriau rhwng 17.00 a 20.00 yn ystod y misoedd o fis Tachwedd hyd at ddiwedd mis Chwefror; ar ben hynny, byddai'n ofynnol i'r llifoleuadau bob amser bwyntio tuag at y manège i leihau unrhyw ollyngiadau golau ymwthiol a thrwy hynny liniaru unrhyw effaith ar fwynderau a'r Awyr Dywyll. Mae amod arall yn nodi bod rhaid codi ffens er budd mwynderau. Ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau gan ymgyngoreion ac maent yn cynghori y dylid rhoi caniatâd gydag amodau. Mae’r argymhelliad felly’n parhau i fod yn un o gymeradwyo.

 

Sylwodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y bydd y cynnig, gan ei fod wedi'i leoli yng nghanol y pentrefan,  yn cael effaith ar fwynderau preswylwyr a’i fod yn ystyried bod hynny’n annerbyniol, ac ar y sail honno cynigiodd y dylid ailgadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig.

 

Atgoffodd y Cynghorydd John Griffith y Pwyllgor o gymeriad arbennig Elim fel pentrefan gwledig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 198 KB

10.1 – VAR/2020/49 – Bron Heli, Lon Ganol, Llandegfan

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUoLUAV/var202049?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 VAR/2020/49 - Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (01) cyfeirnod caniatâd cynllunio 17C278A (codi annedd) er mwyn diwygio dyluniad yr annedd yn Bron Heili, Lôn Ganol, Llandegfan

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod egwyddor codi annedd eisoes wedi'i sefydlu yn y lleoliad hwn o dan ganiatadau cynllunio blaenorol. Diogelir y caniatâd cynllunio yn rhinwedd y ffaith bod y datblygiad wedi cychwyn ac felly'n bodoli. Ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, mae Llandegfan wedi'i nodi fel Pentref Lleol gyda ffin ddatblygu ddiffiniedig o dan Bolisi TAI 4 y CDLlC. Mae'r safle datblygu y tu allan i'r ffin ddatblygu ac felly mae yn y cefn gwlad agored lle mae'n rhaid i unrhyw annedd newydd gydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6 sy'n golygu bod rhaid dangos bod gwir angen annedd menter wledig. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa wrth gefn, sef bod y caniatâd cynllunio a roddwyd eisoes wedi ei weithredu, ac o gofio bod y dyluniad diwygiedig yn dderbyniol ac yr ystyrir ei fod yn welliant ar y cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol ac na fydd yn cael unrhyw effaith andwyol ar gymeriad na golwg  yr ardal nac ar fwynderau eiddo cyfagos, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd John Griffith, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda'r amodau a restrir ynddo.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 281 KB

12.1 – FPL/2020/154 – Eglwys St Cybi, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiKOtUAN/fpl2020154?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 FPL/2020/154 – Cais llawn i godi grisiau dur a llwyfan gwylio ar y tŵr gogledd- ddwyreiniol yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn oedd yn ei gyflwyno.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cynnig yn golygu gosod grisiau a phlatfform dur cor-ten annibynnol er mwyn caniatáu i ymwelwyr weld y gaer Rufeinig a'r ardal ehangach. Er bod y cynnig wedi'i leoli mewn lleoliad hanesyddol bwysig, fe'i dyluniwyd fel ei fod yn cael yr effaith leiaf bosib ar adeiladwaith strwythur y tŵr ei hun. Wrth gyflwyno'u sylwadau ar y cais, nid yw'r ymgyngoreion wedi codi unrhyw wrthwynebiadau i'r datblygiad ac ni chyflwynwyd unrhyw wrthwynebiadau trwy'r broses ymgynghori cyhoeddus a chyhoeddusrwydd. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad pellach ynghylch perthynas y cynnig â'r ardal o'i amgylch, yn benodol o ran y posibilrwydd o edrych dros eiddo y tu ôl i 3 a 4 Land's End. Yn ogystal, amlygodd y Cynghorydd Glyn Haynes, wrth gefnogi'r cynnig, y gwyddys fod defnydd gwrthgymdeithasol yn cael ei wneud o'r fynwent a'r eglwys gerllaw'r tŵr a'i fod yn teimlo y byddai angen cadw llygad ar hynny.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod ystyriaeth lawn wedi'i rhoi i fwynderau preswyl deiliaid eiddo preswyl cyfagos wrth ddatblygu'r cynnig. Mae'r ardal fwynderau sydd y tu cefn i 4 Land's End yn gyfyngedig iawn gan ddarparu mynediad i gefn yr eiddo yn hytrach na gwasanaethu fel gardd neu ardal fwynderau. Mae agosrwydd, gwahaniaeth uchder sylweddol ac ongl unrhyw olygfeydd sydd ar gael o'r llwyfan tuag at yr anheddau yn 3 a 4 Land's End yn golygu y byddai edrych dros gefn yr eiddo yn gyfyngedig. O ran gweithgaredd gwrthgymdeithasol yn yr ardal, dywedodd y Swyddog fod y Gwasanaeth Cynllunio yn ymwybodol o bryderon o'r fath yn lleol; y gobaith yw y bydd hyrwyddo defnydd o'r Tŵr gan ymwelwyr yn lliniaru ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn arwain at ddefnydd mwy priodol o amgylch yr eglwys a'r fynwent.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda'r amodau a restrir ynddo.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.