Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd John Griffith ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 12.7 – Coleg Menai, Llangefni.

 

Datganodd y Cynghorydd K P Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 12.7 – Coleg Menai, Llangefni.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 391 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 2 Medi, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Medi 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Ni chafwyd unrhyw ymweliad safle.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd yr un ymweliad.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd sylwadau eu hanfon mewn perthynas â cheisiadau 12.3 a 12.6 ac fe’u darllenwyd yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n codi pdf eicon PDF 673 KB

7.1 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafach, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod atodiad i'r Asesiad Trafnidiaeth wedi’i gyflwyno sy'n cynnig bod Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer stryd unffordd yn ei gwneud yn ofynnol bod cerbydau’n teithio tua'r gogledd yn unig ar hyd Ffordd Porthdafarch o gyffordd Stryd Arthur i'r gyffordd â'r B4545 Ffordd Kingsland. Ymgynghorir ar y mater ar hyn o bryd a rhoddir cyhoeddusrwydd iddo fel rhan o'r cais.  Daw'r dyddiad ar gyfer y cyfnod ymgynghori i ben ar 8 Hydref 2020.  Yr argymhelliad yw gohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn caniatáu i'r Awdurdod Priffyrdd ymateb a derbyn unrhyw sylwadau gan y cyhoedd mewn perthynas â'r cynnig.

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a nodwyd.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w ei hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy

 

12.2 – DEM/2020/4 - Hen Ysgol Gynradd Niwbwrch

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiM6HUAV/dem20204?language=cy

 

12.3 – 47C1515B – Ty’n Ffordd, Elim

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzhSsEAJ/47c151b?language=cy

 

12.4 – FPL/2020/92 – 3 Bronallt, Ffordd Cambria, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgBp6UAF/fpl202092?language=cy

 

12.5 – FPL/2020/45 – Talli Ho, Prys Iorweth Uchaf, Bethel, Bodorgan

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MJaAuUAL/fpl202045?language=cy

 

12.6  - HHP/2020/168 – Tyn Lon, Llaneilian

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MhcIcUAJ/hhp2020168?language=cy

 

12.7 – MAO/2020/16 – Coleg Menai, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MhHkPUAV/mao202016?language=cy

 

12.8 – FPL/2020/105 – Ffordd Tudur, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgW2AUAV/fpl2020105?language=cy

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Ystâd Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais wedi'i wneud i Lywodraeth Cymru i alw'r cais i mewn.  Dywedodd hefyd fod gohebiaeth wedi dod i law Swyddogion gan Lywodraeth Cymru yn gwahardd yr Awdurdod Lleol rhag rhoi caniatâd ar gyfer y cais er mwyn rhoi cyfle i drafod a ddylid anfon y cynnig at Weinidogion Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniad arno.  Felly, yr argymhelliad yw gohirio gwneud penderfyniad ar y cais.

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2 DEM/2020/4 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel y cyn ysgol yn Ysgol Gynradd Niwbwrch, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir sy'n eiddo i'r cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cael ei wneud i ddymchwel hen Ysgol Gynradd Niwbwrch sydd bellach ar gau.  Dywedodd fod gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol 28 diwrnod i ymateb i wybodaeth ecolegol, gofynnwyd i'r Pwyllgor roi pŵer i weithredu i'r Swyddogion gymeradwyo’r cais ar ôl derbyn gwybodaeth ecolegol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar dderbyn y wybodaeth ecolegol berthnasol.

 

12.3 47C151B – Cais llawn ar gyfer codi chwech o lifoleuadau 5 medr o uchder i'r ‘ménage’ yn Nhŷ’n Ffordd, Elim, Llanddeusant

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod llythyr wedi dod i law gan Ms Paula Bond, yn gwrthwynebu’r cais.  Darllenwyd y llythyr i'r cyfarfod fel a ganlyn:-

 

'I'r rheini ohonoch sydd heb gael cyfle i ymweld ag Elim a chartref yr ymgeisydd Tŷ’n Ffordd, roeddwn yn credu y gallai fod yn ddefnyddiol disgrifio ein pentref, Elim. Ailenwyd Elim ar ôl cyfeiriad yn y Beibl at y lleoliad lle'r oedd yr Israeliaid yn gwersylla'n agos at ffynhonnau a choed datys – lle perffaith.  I fynd i Elim, mae angen i chi groesi pont garreg dros yr Afon Alaw.  Mae Elim yn fach iawn, nid oes gwasanaethau cyhoeddus, siopau nac yn wir gysylltiadau trafnidiaeth yno.  Mae'r rhan fwyaf o'r bythynnod yn dyddio i 1800 ac o bosibl yn gynharach.  Mae ffordd un trac drwy'r pentrefan ac nid oes marciau ffordd arni. Fe'i defnyddir yn bennaf gan drigolion a cherbydau fferm gan ein bod wedi'n hamgylchynu gan dir fferm.

Mae Tŷ’n Ffordd yng nghanol Elim ac mae wedi'i amgylchynu ar dair ochr gan adeiladau preswyl.  Daliad bach ydoedd yn wreiddiol yn cynnwys bwthyn,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.