Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Wedi’i Ffrydio’n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i’r cyhoedd fynychu)

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorwyr Eric Jones a Dafydd Roberts ddatgan cysylltiad personol ac un oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.2 ar yr agenda.

 

Bu i’r Cynghorydd Aled Morris Jones (ddim yn aelod o’r Pwyllgor) ddatgan cysylltiad mewn perthynas â chais 12.3 ac fe eglurodd fod cwyn mewn cysylltiad â’r cais wedi ei dderbyn gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ond fod y cwyn bellach wedi ei gollwng. Cadarnhaodd ei fod wedi trafod y mater gyda’r Swyddog Monitro a'i fod, o dan yr amgylchiadau, wedi cael caniatâd i drafod y cais.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 594 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·         5 Mai, 2021

·         18 Mai, 2021 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mai, 2021 ac ar 18 Mai, 2021 (ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd) ac fe gadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 422 KB

Cyflywno cofnodion yr ymweliad safle rhithwir a gynhaliwyd ar 19 Mai, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 19 Mai, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd dau Siaradwr Cyhoeddus wedi cofrestru i siarad mewn cysylltiad â chais 12.1,12.2 a 12.5.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 726 KB

7.1  FPL/2021/10 – Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgwKXUAZ/fpl202110?language=cy

 

7.2  FPL/2020/98 – Cae Prytherch, Llanfairpwll

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgQp8UAF/fpl202098?language=cy

 

7.3  FPL/2021/38 – Gwel y Môr, Bae Trearddur

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCsEOUA1/fpl202138?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/10 – Cais ôl weithredol ar gyfer codi modurdy ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am y cais gan ei fod wedi'i alw i mewn gan Aelod Lleol oherwydd pryderon y gymuned leol ynghylch graddfa, lleoliad a dyluniad y garej. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2021, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle cyn penderfynu ar y cais. Cynhaliwyd arolygiad safle rhithwir wedyn ar 21 Ebrill, 2021. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mai 2021, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei fod o'r farn y byddai'r cynnig yn effeithio ar amwynder yr eiddo cyfagos sy'n groes i bolisi cynllunio PCYFF 2.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Llinos Medi, Aelod Lleol, nad oedd gwrthwynebiad i'r annedd sydd wedi'i chymeradwyo ac sy'n cael ei hadeiladu, a bod trigolion Bron Castell yn falch y mai teulu lleol fydd yn byw yno. Mae'r pryderon yn canolbwyntio ar ail-leoli'r garej a'r cynnydd o ran ei raddfa. Gan gyfeirio at adroddiad y Swyddog ar y mater, dywedodd yr Aelod Lleol, er bod yr amodau ar gyfer gwrthod datblygiad arfaethedig o dan faen prawf 7 Polisi CYFF 2 wedi'u rhestru, teimlai nad oedd digon o gydnabyddiaeth o'r effaith andwyol y byddai'r datblygiad dan sylw yn ei chael ar breifatrwydd deiliaid Bron Castell yn ogystal â'i effaith gysgodol. Er bod yr adroddiad yn cydnabod y bydd rhan o'r ardd ym Mron Castell yn cael ei gysgodi rywfaint yn ystod y dydd nid yw'n ystyried bod yr ardd ar lethr, a bod y gwrthwynebydd wedi ceisio cyfleu hynny yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor, ac felly nid yw'n adlewyrchu'r sefyllfa wirioneddol yn llawn. Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi ei bod yn gwerthfawrogi bod yr adroddiad yn cyfeirio at y materion a godwyd gan Aelodau fel ystyriaethau cynllunio dilys ac ychwanegodd fod y mater yn achos tristwch gan fod y cais am annedd wedi'i gymeradwyo gyda chefnogaeth lawn i'r ymgeiswyr fel teulu lleol ond bod ail-leoli'r garej heb ei gymeradwyo wedi cael effaith andwyol ar deulu arall na chafodd y cyfle arferol i leisio'u gwrthwynebiadau oherwydd na ddilynwyd y weithdrefn gynllunio. Gofynnodd i'r Pwyllgor gadw at ei benderfyniad blaenorol i wrthod y cais.    

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i wrthod gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Mai 2021 yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd bod yr Aelodau o'r farn y byddai'r garej fel y mae wedi'i lleoli ar hyn o bryd yn cael effaith andwyol annerbyniol ar amwynderau deiliaid Bron Castell. Mae adroddiad y Swyddog yn ymdrin â'r rheswm dros wrthod y cais ac  o'r farn nad yw effaith y cynnig yn cyfiawnhau gwrthod a bod pryderon am yr effaith ar gymdogion wedi'u lliniaru fel rhan o'r cais. Mae llythyr i gefnogi'r cais wedi'i gyflwyno gan yr ymgeisydd. Argymhelliad y Swyddog o hyd yw cymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith aelod Lleol ac aelod o'r Pwyllgor, wrth gytuno â'r Cynghorydd Llinos Medi, fod gwahaniaethau sylweddol rhwng y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Forddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 773 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1    FPL/2021/47 Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd yn flaenorol dan gais amlinellol rhif 34C716 a chais materion a gadwyd yn ôl rhif RM/2020/9 ar dir ger Pen Bryn, Rhosmeirch

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais ydyw i ddiwygio dyluniad annedd a gymeradwywyd fel annedd marchnad agored o dan bolisïau cynllunio blaenorol. Mae'r cynnig yn groes i Bolisi TAI 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd lle nodir Rhosmeirch fel clwstwr lle bydd anheddau newydd yn cael eu cymeradwyo ar yr amod bod angen fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig hyd yma er bod y cyfnod cyhoeddusrwydd yn rhedeg tan 23 Mehefin 2021. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi'r diwygiadau dylunio arfaethedig ac yn cadarnhau bod y dyluniad diwygiedig o ansawdd uwch na'r caniatâd a gymeradwywyd yn flaenorol ac na fydd yn cael mwy o effaith ar amwynder eiddo preswyl cyfagos na'r ardal ehangach. Gan fod y manylion a gyflwynir gyda'r cais cynllunio yn cael eu hystyried yn dderbyniol ac o ystyried y sefyllfa wrth gefn, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn y dyddiad y daw'r sylwadau i ben.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ar eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn diwedd y cyfnod cyhoeddusrwydd ar 23 Mehefin, 2021.

 

10.2    VAR/2021/14 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (03) (Mannau pasio) (05) (Adar nythu) o ganiatâd cynllunio rhif 29C8J (Addasu adeilad allanol yn 2 uned gwyliau ac annedd) er mwyn cyflwyno manylion ar ôl i'r datblygiad gychwyn a newid amod (03) i'r angen i ddarparu 1 man pasio yn lle 2 man pasio yn Stabl Bach, Llanfaethlu

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn rhannol groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor o addasu'r adeiladau allan yn 2 uned wyliau ac 1 annedd breswyl eisoes wedi'i sefydlu o dan gais cynllunio 29C8J. Er bod y gwaith o addasu  un uned yn annedd breswyl wedi'i gwblhau a'i bod yn cael ei defnyddio, ni chyflawnwyd amod (03) (mannau pasio) ac amod (05) (Adar Sy'n Nythu) cyn i'r datblygiad ddechrau. Fodd bynnag, cynhaliodd Ecolegydd y Cyngor archwiliad o’r adeilad allanol i weld a oedd adar yn nythu ynddo a chadarnhaodd nad oedd yr adeilad allanol a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1  HHP/2020/253 – Plot H Lleiniog, Penmon

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAFcQUAX/hhp2020253?language=cy

 

12.2  FPL/2020/165 – Adeilad Allanol 1, Lleiniog, Penmon

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpaUAF/fpl2020165?language=cy

 

12.3  VAR/2021/27 – Christ Church, Rhosybol

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I28EkUAJ/var202127?language=cy

 

12.4  FPL/2021/78 - Parc Gwledig Morglawdd, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OJcVOUA1/fpl202178?language=cy

 

12.5  FPL/2021/71 – Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I2AJgUAN/fpl202171?language=cy

 

12.6  HHP/2021/35 – 54 Pennant, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCnVPUA1/hhp202135?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 HHP/2020/253 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau ym Mhlot H, Lleiniog, Penmon

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol fod y datblygiad wedi bod yn destun llawer o bryder lleol a'i fod felly'n gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir â’r cais er mwyn cael gwell gwerthfawrogiad o natur y datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE, ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams, y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.2 FPL/2020/165 – Cais llawn ar gyfer addasu adeilad allanol i fod yn uned gwyliau yn Adeilad Allan1, Lleiniog, Penmon

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, ei fod, fel gyda'r cais blaenorol, yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir gan fod y cynnig ar yr un safle a'i fod yn destun pryder lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol.

 

12.3 VAR/2021/27 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd) a (03) (Mynedfa a man parcio) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/322 (newid defnydd eglwys i annedd gydag adeiladu mynedfa cerbydau newydd) er mwyn diwygio'r man parcio i hepgor darparu lle troi yn Eglwys Crist, Rhosybol, Rhosybol, Amlwch

 

Daeth y cais i sylw'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw gan Aelod Lleol oherwydd materion priffyrdd ac effaith ar y dirwedd o amgylch yr eglwys.

 

Wrth nodi bod pryder mawr yn lleol am y cais hwn, cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol at ohebiaeth dyddiedig 3 Mawrth, 2021 gan y Parch Kevin Ellis i'r Adran Gynllunio. Darllenodd yr ohebiaeth a oedd yn nodi amheuon yr awdur ynglŷn â'r cais ar y pryd ar y sail bod y gweithredoedd y gwerthiant yn atal unrhyw newidiadau i wal a maint y giât (nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi'i thynnu i lawr), agosrwydd y lle troi arfaethedig at y beddau a thystiolaeth bod plant marw-anedig yn cael eu gosod i orffwys ar ymyl y fynwent. Er bod cais blaenorol yn y cyfarfod heddiw yn ymdrin â phwysigrwydd preifatrwydd, tynnodd y Cynghorydd Jones sylw at bwysigrwydd parchu'r meirw. Er y cynigir yn awr y dylid hepgor y lle troi, mae'r fynwent yn amgylchynu’r eglwys a chladdedigaethau yn dal i gael eu derbyn. Hoffai i'r Pwyllgor ystyried gwneud yr amodau cynllunio ar y caniatâd yn fwy cadarn, ond yn gyntaf roedd am ofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle rhithwir pellach fel y gall aelodau weld effaith y wal  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.