Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Wedi’i Ffrydio’n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i’r cyhoedd fynychu)

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn dechrau busnes y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd a oedd yn siarad ar ran aelodau'r Pwyllgor i Mrs Nia Jones, y Rheolwr Rheoli Datblygu gynt a oedd yn gadael y Cyngor i ymgymryd â swydd gydag Arolygiaeth Gynllunio Cymru, am ei gwaith drwy gydol ei hamser yn rôl y Rheolwr gan gynnwys y gefnogaeth a'r arweiniad yr oedd wedi'u darparu i'r Pwyllgor a werthfawrogwyd yn fawr. Estynnodd ei dymuniadau gorau ar ei rhan ei hun a'r Pwyllgor i Mrs Jones yn bersonol ac yn broffesiynol yn ei swydd newydd.

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb a nodwyd eu bod fel y rhestrir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Kenneth Hughes ddatgan diddordeb personol ac un oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.8 ar yr agenda fel aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Bodedern.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 328 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle cynllunio rhithwir a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad rhithwir â’r safle a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofrestrwyd wyth Siaradwr Cyhoeddus i siarad mewn cysylltiad â cheisiadau 7.2, 7.3, 12.4, 12.6, 12.9 a 12.10.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 928 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2019/338 – Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y terfyn yn Cerrig, Penmon

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Gorffennaf 2021, penderfynwyd bod angen ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 21 Gorffennaf, 2021.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y Swyddog Achos Cynllunio wedi cadarnhau yn ystod yr ymweliad rhithwir â’r safle fod cynlluniau diwygiedig wedi'u derbyn mewn cysylltiad â'r cais. Argymhellir felly y dylid gohirio gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais er mwyn caniatáu i'r cynlluniau diwygiedig gael eu hystyried a chynnal ymgynghoriad pellach.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 FPL/2020/165 – Cais llawn ar gyfer addasu’r adeilad allanol i fod yn uned wyliau ynghyd â thorri tair coeden sydd wedi’u gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed a phlannu coed yn eu lle yn Adeilad Allan 1, Lleiniog, Penmon

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Gohiriwyd penderfynu ar y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 7 Gorffennaf 2021 er mwyn disgwyl i gynlluniau diwygiedig gael eu derbyn i ddangos y gwaith cynllunio oedd angen ei wneud o ganlyniad i'r bwriad i symud 3 coeden sydd wedi'u gwarchod ar hyn o bryd gan orchymyn cadw coed. Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig ar 7 Gorffennaf, 2021 ac yn dilyn hynny cyhoeddwyd ymgynghoriadau diwygiedig a hysbyswyd cymdogion gyda'r dyddiad diweddaraf ar gyfer cyflwyno sylwadau ar 29 Gorffennaf, 2021.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Cadnant Planning i gefnogi'r cais gan dynnu sylw at y ffaith bod Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer addasu'r adeilad allanol yn uned wyliau eisoes wedi'i roi a bod adroddiad y Swyddog yn cadarnhau bod yr egwyddor o addasu adeiladau allanol yn llety gwyliau wedi'i sefydlu o dan bolisi TWR2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae'r cais yn cydymffurfio â'r meini prawf a gyflwynir o dan Bolisi TWR 2 gan ei fod yn defnyddio safle addas a ddatblygwyd yn flaenorol; mae'n briodol o ran maint ac nid yw'n niweidio cymeriad preswyl yr ardal yn sylweddol. Mae'r cais hefyd mewn lleoliad cynaliadwy sydd o fewn pellter cerdded i safle bysiau a phentref Llangoed ar droed neu ar feic. Ystyrir bod y mynediad o'r briffordd sy'n arwain at Benmon yn dderbyniol gyda mân welliannau yn ogystal â'r cynlluniau o safbwynt treftadaeth. Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â'r hyn a allai fod yn fanteision economaidd i'r ardal o ddatblygiad o'r fath, yn enwedig gan nad yw'r datblygwr yn lleol. Mewn ymateb i'r Pennaeth Gwasanaeth, mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau bod Amos Leisure hyd yma wedi buddsoddi £4m ar draws tri safle yn Ynys Môn a'i fod yn cyflogi pedwar aelod lleol o staff yn uniongyrchol. Hefyd, mae'r cwmni'n cyflogi wyth is-gontractwr lleol yn llawn amser ac yn defnyddio tri ar ddeg o gontractwyr lleol eraill i wneud gwahanol agweddau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Cais am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 455 KB

11.1 LUP/2021/1 - Gweithdy, Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I1yhZUAR/lup20211?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    LUP/2021/1 – Cais am Dystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer y defnydd arfaethedig o’r gweithdy presennol fel anheddau (C3) yn Gweithdy, Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gysylltiedig â swyddog perthnasol. Mae Swyddog Monitro'r Cyngor wedi craffu ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio fod caniatâd cynllunio i addasu'r gweithdy yn dri annedd wedi'i roi ac yn dilyn hynny cymeradwywyd cais i amrywio'r caniatâd (VAR/2020/74) i gynnwys dau bortsh. Mae sylfeini'r ddau bortsh bellach wedi'u hadeiladu o dan y caniatâd hwn a'r mater dan sylw yw p’un ai a yw'r caniatâd cynllunio VAR/2020/74 wedi dechrau'n gyfreithlon. Dylid nodi nad yw polisïau cynllunio yn berthnasol i benderfynu ar gais am Dystysgrif Cyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad Arfaethedig (CLPUD); mae ystyriaethau'r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â cheisiadau o'r fath wedi'u seilio'n gyfan gwbl ar asesiad o'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd i benderfynu a yw'r datblygiad sy'n ddarostyngedig i'r cais yn gyfreithlon o dan y ddeddf gynllunio. Yn unol â'r cyngor cyfreithiol a ddarperir fel yr amlinellir yn yr adroddiad, barn y Swyddog yw bod y baich profi wedi'i gyflawni yn ôl yr hyn sy’n debygol ac felly'r argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, ac eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 5 MB

12.1 FPL/2021/92 – Graianbwll, Llanddaniel

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OK4VsUAL/fpl202192?language=cy

 

12.2  FPL/2021/147 – Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKlv8UAD/fpl2021147?language=cy

 

12.3 FPL/2021/86 - The Old Abbey & Abbey Lodge, Ffordd Ravenspoint, Bae Trearddur

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OJvQMUA1/fpl202186?language=cy

 

12.4 FPL/2020/215 – Lôn Lwyd, Pentraeth

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NACNJUA5/fpl2020215?language=cy

 

12.5 HHP/2021/166 – 21 Stâd Ravenspoint, Bae Trearddur

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKNlXUAX/hhp2021166?language=cy

 

12.6 FPL/2021/111 – Fferm Penmynydd, Caergeiliog

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKKzQUAX/fpl2021111?language=en_GB

 

12.7 MAO/2021/21 – Sŵn y Gwynt, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKtRCUA1/mao202121?language=cy

 

12.8 FPL/2021/112 – Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKKzgUAH/fpl2021112?language=cy

 

12.9 FPL/2020/234 - 8 Stâd Ddiwydiannol Mona, Mona

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAnonUAD/fpl2020234?language=cy

 

12.10  FPL/2019/251/EIA – Cae Mawr, Llanerchymedd

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Jt7imUAB/fpl2019251eia?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    FPL/2021/92 – Cais llawn i godi adeilad amaethyddol newydd ar gyfer storio ac ŵyna ar dir ger Graianbwll, Llanddaniel

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod yr Aelod Lleol wedi bod mewn cysylltiad â hi i gadarnhau, er ei fod wedi galw'r cais i mewn oherwydd pryderon lleol, ei fod o'r farn bod adroddiad y Swyddog yn deg a bod y cais bellach yn dderbyniol wrth ychwanegu'r ddau amod tirlunio fel yr amlinellwyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio mai barn y Swyddog yw bod y safle'n addas ar gyfer y sied amaethyddol fel y cynigiwyd, sydd mewn lleoliad isel gyda bryniau'n codi/gostwng o'r ddau gyfeiriad. O ystyried y lleoliad, rhaid i’r gwaith sgrinio presennol a'r sgrinio ychwanegol fod yn unol â’r amodau yn y cais a wnaed gan y Cynghorydd Tirwedd a'r Cynghorydd Ecolegol ar gyfer y mesurau lliniaru ychwanegol. Ystyrir mai bach iawn yw'r effeithiau gweledol. Hefyd ystyrir bod dyluniad a lliw'r sied arfaethedig yn dderbyniol ac felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad.

 

12.2 FPL/2021/147 – Cais llawn ar gyfer tynnu’r adeilad ystafell ddosbarth symudol presennol, gosod adeilad ystafell ddosbarth symudol newydd, codi ffens ynghyd â gwaith tirlunio caled arall yn Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a'r perchennog tir.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio y bydd yr ystafell ddosbarth newydd arfaethedig yn cael ei gosod yn yr un lleoliad â'r ystafell ddosbarth bresennol ond y bydd yr ôl troed ychydig yn fwy. Bydd yr uchder yn dal i fod tua 3.6m er mwyn i’r ystafell ddosbarth newydd integreiddio â’i hamgylchedd. Eir i'r afael â phryderon preifatrwydd a godwyd gan berchennog yr eiddo cyfagos drwy godi ffens rhwyll 2m o uchder ar hyd ffin orllewinol buarth yr ysgol a fydd yn diogelu preifatrwydd tir yr ysgol a'r eiddo cyfagos.  Mae Dŵr Cymru bellach wedi cadarnhau cymeradwyaeth amodol ac mae Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau ar y cais. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais yn amodol na chodir unrhyw faterion newydd cyn i'r cyfnod ymgynghori a chyhoeddusrwydd ddod i ben ar 29 Gorffennaf 2021.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd dirprwyo’r cam o gymeradwyo’r cais i’r Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol â’r argymhelliad a’r adroddiad gyda’r amodau cynlluniau a gynhwysir yn yr adroddiad ac ar yr amod hefyd na chodir unrhyw faterion newydd cyn y daw’r cyfnod cyhoeddusrwydd i ben.

 

12.3 FPL/2021/86 - Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau, ail-adeiladu wal gerrig ar y terfyn ynghyd â chodi giât gysylltiedig yn The Old Abbey ac Abbey  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.