Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 7fed Medi, 2022 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddaeth yr un ymddiheuriad i law.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 514 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd 27 Gorffennaf 27, 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Awst, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod safle rhithwir a gynhaliwyd 17 Awst, 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwr cyhoeddus ar gyfer cais 12.8.

 

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion hwn.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 685 KB

7.1  FPL/2022/51 – Plas Rhianfa, Glyn Garth, Porthaethwy

 

FPL/2022/51

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

cysylltiedig ym Mhlas Rhianfa, Glyngarth, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai'r adeilad arfaethedig ar safle'r cwrt tennis segur presennol yng ngardd addurniadol gwesty Plas Rhianfa. Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol am lety deulawr, wyth ystafell wely atodol ond fe’i diwygiwyd oherwydd pryderon a godwyd gan rai yr ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â dyluniad, graddfa ac effaith y bwriad ar gymeriad ac edrychiad yr adeilad rhestredig cyfagos a'r ardal leol. Mae'r bwriad diwygiedig sydd ar gyfer adeilad unllawr chwe ystafell wely bellach yn amlwg yn eilradd o ran uchder a graddfa. Mae diwygiadau eraill, hefyd, wedi’u gwneud sy’n mynd i’r afael â phryderon yr Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch talcen arfaethedig cychwynnol yr estyniad, sef y brif olygfa o’r gerddi ac yr ystyriwyd ei fod yn llwm ei olwg ac yn anghydnaws â thir yr ardd addurniadol Fictoraidd. Mewn perthynas â'r rhai yr ymgynghorwyd â nhw, mae CADW yn fodlon â'r cynnig diwygiedig ac mae'r Awdurdod Priffyrdd, yn yr un modd, yn fodlon gyda'r trefniadau parcio arfaethedig lle ceir 65 o leoedd parcio ar y safle ar gyfer 36 ystafell wely, sydd bron ddwywaith y nifer sy'n ofynnol yn ôl safonau parcio. Ystyrir, hefyd, bod y ddarpariaeth barcio yn ddigonol o ystyried anghenion staff ac anghenion parcio eraill. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu i liniaru unrhyw effeithiau ar y briffordd yn ystod y cyfnod adeiladu a sicrhau diogelwch priffyrdd. Er bod pryderon hefyd wedi’u codi ynghylch posibilrwydd o olau’n gollwng, o ystyried natur israddol yr adeilad arfaethedig, y ffaith ei fod ynghlwm wrth adeilad tri llawr ac wedi’i amgylchynu gan goed, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru na Chynghorydd Tirwedd yr Awdurdod wedi codi unrhyw fater ynghylch hyn. Yr argymhelliad, felly, yw caniatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, ei fod yn falch y rhoddwyd sylw i bryderon a godwyd ganddo yn yr ymweliad safle rhithwir a chan drigolion lleol ynghylch traffig, llygredd golau, cadwraeth coed a'r cynnig gwreiddiol oedd yn fwy. Croesawodd y ffaith y câi amodau eu rhoi ar sefyllfa draffig, gan ddweud bod y briffordd ger safle'r cais yn brysur a bod damweiniau wedi digwydd, yn enwedig lle mae dwy ffordd o Landegfan yn ymuno; gyferbyn â Gwesty Plas Rhianfa. Dywedodd fod ganddo rai pryderon o hyd ynghylch parcio ar y ffordd yng nghyffiniau'r Gwesty, yn enwedig o ran ei effaith ar welededd ond roedd yn gobeithio y câi hyn ei liniaru trwy amod pan roddir caniatâd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad pellach ynghylch y sefyllfa draffig ar safle'r cais ac o'i amgylch ac ymatebodd Peiriannydd Grŵp Priffyrdd iddo drwy gadarnhau bod Lôn y Mawr a Lôn Bryn Teg yn cydgyfarfod ger y safle, gyda'r naill yn briffordd gofrestredig a'r llall yn lôn nad yw ar gael i'w defnyddio’n briffordd gyhoeddus. Tra bod drych traffig yn helpu modurwyr sy'n gadael mynedfeydd presennol, ystyrir mai cynllun y ffordd yn hytrach na pharcio sy'n gwneud gweld  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion hwn.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion hwn.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion hwn.

 

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 1 MB

11.1  FPL/2022/93 – Cysgod y Plas, Llanddeusant

 

FPL/2022/93

 

11.2  FPL/2022/151 – Rhyd Goch, Llanfaethlu

 

FPL/2022/151

 

11.3  HHP/2022/172 – Bryn Parys, Amlwch

 

HHP/2022/172

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 FPL/2022/93 – Cais llawn i godi newydd sydd bellach yn rhannol ôl-weithredol (estyniad ochr unllawr a chyntedd blaen), garej ar wahân, mynedfa newydd i gerbydau ac estyniad i fynwent yng Nghysgod y Plas, Llanddeusant

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y bwriad yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu eu caniatáu. Mae’r ymgeisydd hefyd yn perthyn i “swyddog perthnasolfel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro, fel sy'n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu mai cais yw hwn i godi eiddo preswyl newydd i'r gogledd-ddwyrain o Landdeusant. Mae dipyn o waith datblygu wedi’i wneud ar yr annedd y gwneir y cais ar ei chyfer. Cyfeiriodd at hanes cynllunio'r safle, yn benodol caniatadau blaenorol oedd yn arbennig o berthnasol oedd yn cynnwys caniatâd cynllunio amlinellol 47C153 i godi annedd gyda manylion llawn y fynedfa gerbydol ynghyd ag estyniad i'r fynwent bresennol ym mis Ebrill, 2017. Wedi hyn, cyflwynwyd cais RM/2020/1 ar gyfer gweddill y materion a gadwyd yn ôl ac a gyflwynwyd ac a gymeradwywyd ym mis Mawrth, 2020. Cyflwynwyd a chymeradwywyd cais VAR/2020/48 i amrywio amod (1) RM/2020/1 yn ddiweddarach yn 2020. Diwygiodd hyn leoliad y datblygiad arfaethedig i'r dwyrain o'r lleoliad a ganiatawyd yn flaenorol. Ym mis Tachwedd, 2020 cyflwynwyd cais FPL/2020/225 i godi annedd a garej ynghyd â chreu mynedfa gerbydol ar dir Cysgod y Plas, Llanddeusant. Gan na chyflwynodd yr ymgeisydd fwy o wybodaeth i ddilysu'r cais, agorwyd ymholiad gorfodaeth a dangosodd ymchwiliadau fod gwaith wedi cychwyn ar y safle. Yn dilyn arolwg annibynnol o'r safle canfuwyd bod y datblygiad wedi ei adeiladu o fewn ffin cais y caniatâd sy'n bodoli a bod lleoliad y yn unol â'r manylion a gymeradwywyd dan ganiatâd VAR/2020/48. Er bod y datblygiad arfaethedig, a’r un sydd wrthi’n cael ei adeiladu, yn cynnwys estyniad ochr, porth blaen, modurdy a mynedfa, mae, fel arall, yn cyd-fynd â'r cynlluniau a gymeradwywyd yn wreiddiol. O ganlyniad, ystyrir bod y caniatadau blaenorol wedi'u gweithredu a'u bod yn sefyllfa wrth gefn ddilys.

 

Fodd bynnag, yn yr amser ers y caniatâd gwreiddiol, mae polisïau wedi newid gyda mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd). Gan fod y bwriad y tu allan i’r ffin datblygu fel y’i nodir yn y CDLl ar y Cyd ac nad yw’n cwrdd â pholisïau’r Cynllun, mae’n rhaid ei ystyried yn erbyn y sefyllfa wrth gefn, sef a oes tebygolrwydd y bydd y caniatâd presennol yn cael ei weithredu ac a yw’n debygol bod newidiadau/ychwanegiadau i'r caniatâd yn welliant ar y cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol. Cadarnhaodd y Swyddog fod y caniatadau perthnasol y cyfeiriwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 4 MB

12.1  FPL/2021/159 – Stâd Maes Derwydd, Llangefni

 

FPL/2021/159

 

12.2  FPL/2022/14 – Green Bank, Amlwch

 

FPL/2022/14

 

12.3  FPL/2021/201/EIA – Morglawdd, Caergybi

 

FPL/2021/201/EIA

 

12.4  S106/2022/4 – Hen Ysgol Gynradd Llanfachraeth

 

S106/2022/4

 

12.5  FPL/2022/66 – Porth Wen, Llanbadrig

 

FPL/2022/66

 

12.6  FPL/2022/33 - Bodhenlli, Bodorgan

 

FPL/2022/33

 

12.7  VAR/2022/44 – Coleg Menai, Llangefni

 

VAR/2022/44

 

12.8  FPL/2022/124 – Bryn Maelog, Rhosneigr

 

FPL/2022/124

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 FPL/2021/59 – Cais llawn i godi 50 o dai, 12 fflat, creu mynedfa a ffordd newydd i geir, creu gorsaf pwmpio dŵr budr ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled yn Stad Maes Derwydd, Llangefni 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y ddau Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr Geraint Bebb a Nicola Roberts, fel Aelodau Lleol, am ymweld â safle'r cais oherwydd nifer o bryderon lleol gan gynnwys mynediad, draeniad a seilwaith gan gredu y byddai'r Pwyllgor yn cael gwell dealltwriaeth o'r pryderon hynny o ymweld â'r safle. Wrth wneud hynny dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn dymuno datgan bod merch yng nghyfraith yr ymgeisydd wedi sefyll yn ei herbyn yn ward Cefni yn yr etholiad lleol ym mis Mai, 2022 a’i bod wedi cael gwybod nad oedd hynny’n cael effaith ar ei sefyllfa.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Taylor ymweliad safle ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John I. Jones.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelodau Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2 FPL/2022/14 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd a’r garej bresennol a chodi annedd newydd ynghyd ag addasu’r fynedfa i gerbydau yn Green Bank, Ffordd Porth Llechog, Amlwch

 

Adroddwyd bod y cais wedi’i alw i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch dyluniad y safle a’r gorddatblygiad honno.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Aled M. Jones, Aelod Lleol, am gael ymweld â safle'r cais oherwydd pryderon ynghylch dyluniad y cynnig a'i effaith bosibl ar adeiladau cyfagos.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robert Ll Jones ganiatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a nodwyd.

 

12.3 FPL/2021/201/EIA – Cais llawn i ailwampio / trwsio strwythur y morglawdd ynghyd â ffurfio man gwaith creu concrid dros dro i adeiladu, creu a storio unedau concrid durol ym Morglawdd / Ynys Halen, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn ddatblygiad Asesiad o Effaith Amgylcheddol.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio ac Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig fod y cais yn ymwneud ag atgyweirio strwythur y Morglawdd, adeilad rhestredig Gradd II* dynodedig ac yn cynnwys gosod tetrapodau concrit ar hyd y cyfan o ochr y Morglawdd tua'r môr ac atgyfnerthu'r unedau concrit siâp Z fel nad ydynt yn symud; ailosod craig i ledu'r twmpath rwbel presennol i ben crwn y Morglawdd ynghyd â gosod blociau tetrapod a siâp Z. Roedd, hefyd, yn ymwneud ag adfer y twmpath rwbel trwy osod matres goncrit gymalog (ACBM) ar rannau o'r ochr gysgodol ynghyd â gosod wal gynnal greigiog lle mae amodau'n gwahardd gosod yr ACBM. Mae'r gwaith yn angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â difrod tonnau dros amser. Mae’r materion cynllunio allweddol yn ymwneud â thymor hir a thymor byr y bwriad ac i raddau amrywiol, fydd yn cael effaith ar sawl agwedd ar yr ardal leol, fel y nodir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion hwn.