Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Trefor Lloyd Hughes, MBE ac Alwen Watkin.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol oedd yn rhagfarnu o ran cais 7.3 ar yr agenda ar sail cysylltiad personol â'r grŵp sy'n gwrthwynebu'r cynnig. 

 

Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol oedd yn rhagfarnu o ran cais 12.3 ar yr agenda fel Llywodraethwr Ysgol Llanfawr ac am fod ei ferch wedi'i chyflogi fel athrawes yn yr ysgol. Os caiff cais 12.3 yn cael ei gymeradwyo, byddai'n ofynnol i'r datblygwr wneud cyfraniad ariannol o £110,313 tuag at gyfleusterau yn Ysgol Llanfawr.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Robin Williams hefyd ddatgan diddordeb oedd yn rhagfarnu o ran cais 12.3 ar yr agenda ar y sail bod mater y datblygiad wedi cael ei ystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor Gwaith y mae'n aelod ohono.

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 472 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion agynhaliwyd ar 5 Hydref, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2022 a chawsant eu cadarnhau fel rhai cywir.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 337 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio rhithiol a gynhaliwyd ar 19 Hydref, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd 19 Hydref, 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus o ran ceisiadau 7.1 and 7.3

 

6.

Cesiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceidiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 HHP/2022/46 - Tan Yr Allt Bach, Llanddona

 

HHP/2022/46

 

7.2  VAR/2022/48 - Madryn House, Pen Dref Street, Niwbwrch

 

VAR/2022/48

 

7.3  HHP/2022/171 - Awel Y Bryn, Trigfa, Moelfre

 

HHP/2022/171

 

7.4  FPL/2022/66 – Porth Wen, Llanbadrig

 

FPL/2022/66

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 HHP/2022/46 – Cais llawn ar gyfer dymchwel, addasu ac ehangu yn Tan yr Allt Bach, Llanddona

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllun a'r Gorchmynion ar gais y tri Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 5 Hydref, 2022 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle; cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 19 Hydref, 2022.

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan Mr Richard Sandbach o JAR Architecture i gefnogi'r cais a amlygodd sut yr oedd y cleientiaid wedi bod yn rhan o’r broses gynllunio trwy ymgymryd â'r materion a godwyd gan yr ymateb i’r ymgynghoriad a gwneud addasiadau i'r cynnig yn unol â hynny; natur gymedrol y cynnig o ran graddfa, ffurf a pherthnasedd er mwyn lleihau unrhyw effaith weledol niweidiol ar y cyd-destun lleol, a phwrpas y gwaith adnewyddu a’r gwelliannau er mwyn diwallu anghenion teuluoedd a gwneud yr adeilad presennol yn ddiogel, yn gynaliadwy a bod modd byw ynddo y tu hwnt i'r hyn oedd modd gwneud ar hyn o bryd.

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y prif ystyriaethau cynllunio fel y manylir yn adroddiad y Swyddog Achos mewn perthynas â lleoliad a dyluniad y cynnig a'i effaith o ran dynodiadau Awyr Dywyll ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dywedodd, ar sail barn y Swyddog, fod y cynnig yn dderbyniol yn nhermau cynllunio defnydd tir, ei fod yn llai na’r eiddo presennol mewn perthynas â graddfa a maint ac nad yw'n dominyddu'r drychiad gwreiddiol ac fe'i hystyrir yn briodol i'r annedd a'r ardal gyfagos. Yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.

 

Wrth siarad fel Aelodau Lleol, mynegodd y Cynghorwyr Alun Roberts a Carwyn Jones bryderon niferus yr ardal a'r Cyngor Cymuned am leoliad, graddfa a dyluniad y cynnig a fyddai, yn eu barn nhw, yn cael effaith andwyol ar gymeriad y pentref ac effaith weledol negyddol ar y dirwedd a'r ardal gyfagos, yn enwedig yr AHNE yn ogystal â chreu llygredd golau o bosibl. Roedd pryderon hefyd am faterion priffyrdd ac adeiladu gan fod safle’r cais wedi’i leoli ar ben bryn ger y ffordd gul a serth i lawr i draeth Llanddona.  Roedd y Cynghorydd Carwyn Jones o'r farn nad oedd yr agweddau yma wedi eu hystyried yn ddigonol yn yr ymweliad safle rhithiwr a gafodd ei gynnal. Materion yn ymwneud â defnydd posibl fel cartref gwyliau/llety gosod; Codwyd hefyd y mater o greu dau annedd gyda chysylltiad gwydr a diffyg tai cynaliadwy i bobl leol.

 

Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelodau Lleol a chadarnhaodd y canlynol - y byddai caniatâd cynllunio yn amodol ar gyflwyno cynllun rheoli traffig; bod hwn yn gais ar gyfer dymchwel yr estyniad uPVC presennol a chodi estyniad un llawr gwydr cysylltiedig, nid dau annedd;  bod Strategaeth Awyr Dywyll wedi'i chyflwyno i liniaru a mynd i'r afael ag effeithiau golau a bod Strategaeth Dirwedd arfaethedig hefyd wedi'i chyflwyno mewn ymateb i sylwadau a chyngor a roddwyd gan y Swyddog Tirwedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor, er ei fod yn cydymdeimlo â phryderon y gymuned ac Aelodau Lleol, fod yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau sy'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 4 MB

12.1 DIS/2022/68 – Llain 9 (rhan dwyreiniol) Parc Cybi, Caergybi

 

DIS/2022/68

 

12.2  FPL/2022/189 – Bilash, Dew Street, Porthaethwy

 

FPL/20220/189

 

12.3 FPL/2022/53 – Cae Braenar, Penrhos, Caergybi

 

FPL/2022/53

 

12.4  HHP/2022/230 – Dinas Bach, 5 Y Fron, Aberffraw

 

HHP/2022/230

 

12.5  VAR/2022/41 - 1 Clos Dwr Glas, Bae Trearddur.

 

VAR/2022/41

 

12.6  DIS/2022/63 - Hen Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi

 

DIS/2022/63

 

12.7 – FPL/2022/225 – Cae Mawr, Trefor

 

FPL/2022/225

 

12.8 – FPL/2022/172 – Eirianallt Goch, Carmel

 

FPL/2022/172

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 DIS/2022/68 - Cais i ryddhau amod (07) (cynllun arwyddion) o ganiatâd cynllunio FPL/202/65 (cadw maes parcio HGV a gwaith cysylltiedig am gyfnod dros dro o 12 mis) ym Mhlot 9 (rhan ddwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi 

 

Adroddwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar gyfer rhyddhau amod a osodwyd gan y Pwyllgor o dan gais cynllunio rhif FPL/2022/65 ar gyfer cadw ardal barcio HGV a gwaith cysylltiedig am gyfnod dros dro o 12 mis ym Mhlot 9 (hanner dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin,  2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, fod yr amod (07) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd roi manylion am bob arwydd y tu mewn a’r tu allan i'r safle. Pwrpas hyn yw diogelu a chynnal y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg. Daeth manylion i law gan yr ymgeisydd yn cadarnhau y bydd y cynllun arwyddion yn ddwyieithog. Mae'r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda'r wybodaeth a ddarparwyd ac ystyrir ei bod yn ddigonol i ryddhau'r amod yn llawn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; roedd y Pwyllgor yn cefnogi'r cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad.

 

12.2 FPL/2022/189 – Cais ôl-weithredol i gadw defnydd fflat yn Bilash, Dew Street, Porthaethwy

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Wrth siarad fel Aelod Lleol, cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid ymweld â'r safle oherwydd pryderon lleol ynglŷn ag edrychiad y cynnig mewn ardal gadwraeth. Eiliodd y Cynghorydd Geraint Bebb y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3 FPL/2022/53 – Cais llawn ar gyfer codi 22 annedd marchnad agored ac 1 annedd fforddiadwy, addasu'r fynedfa bresennol, creu ffordd fynediad fewnol yn ogystal â gwaith cysylltiedig ar dir ger Cae Braenar, Caergybi.

 

Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Ar ôl datgan diddordeb oedd yn rhagfarnu o ran y cais, ymneilltuodd y Cynghorwyr Glyn Haynes a Robin Williams o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Cododd y Cynghorydd Jeff Evans faterion yn ymwneud â’r cais ar sail fod y datblygiad eisoes wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a'r goblygiadau yn ogystal â chynnwys y wybodaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith o'i gymharu â'r cais a gyflwynwyd i'r Pwyllgor hwn, yn benodol y gostyngiad yn nifer y cartrefi fforddiadwy ac a fyddai'r Pwyllgor Gwaith wedi dod i'r penderfyniad i gymeradwyo'r datblygiad (cwestiynwyd y geiriad o ystyried mai'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion sydd ag awdurdodaeth dros geisiadau cynllunio o fewn y broses ddemocrataidd), pe bai wedi'i gyflwyno gyda'r cais yn ei ffurf bresennol.

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, cyn belled â bod y Swyddogion Cynllunio yn gallu cadarnhau na ymyrrwyd â’u hasesiad, eu casgliad na'u hargymhelliad mewn perthynas â'r cais, yna nid oes pryder o safbwynt cynllunio bod corff arall o fewn y Cyngor wedi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.