Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddaeth yr ymddiheuriadau i law.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 7.1 - Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre, ar sail cysylltiad personol gyda’r grŵp sy’n gwrthwynebu’r cais.

 

Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 7.3 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi, am ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Llanfawr, ac mae ei ferch yn athrawes yn yr ysgol honno. Os cymeradwyir y cais, gofynnir i’r datblygwr wneud cyfraniad ariannol gwerth £110,313 tuag at gyfleusterau yn Ysgol Llanfawr.

 

Bu i’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.3 – Cae Brenar, Penrhos, Caergybi ar y sail bod y mater o ran y datblygiad wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, y mae’n aelod ohono, yn flaenorol.

 

Bu i’r Swyddog Pwyllgor, Mrs Mairwen Hughes, ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 7.3 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi, am ei bod yn byw ar ystâd Cae Braenar, ac wedi gwrthwynebu’r cais.

 

Bu i’r Cynghorydd John I Jones ddatgan diddordeb ynghylch cais 12.1.

 

Bu i’r Cadeirydd, y Cynghorydd Neville Evans, ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 12.6 am ei fod yn perthyn i’r ymgeisydd, ac mae ei frawd yn gweithio i’r ymgeisydd hwnnw.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y newidiadau a ganlyn:-

 

·           Cais 7.3 – Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre – Dylid dileu’r paragraff olaf yn natganiad Mr Peter J Hogan.

 

·           Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at y materion a gododd mewn perthynas â chais 12.3 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi gan nodi nad oedd ei sylwadau wedi eu hadlewyrchu yn y cofnodion yn cynnwys ei ddymuniad i ohirio’r cais, cyfeiriad y Swyddog Cynllunio at eiriad amhriodol y datganiad wrth gyfeirio at gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2022, a’r ffaith bod tudalen 50 yn yr adroddiad yn cyfeirio at godi 22 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ond bod tudalen 51 yn cyfeirio at godi 23 tŷ fforddiadwy.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 276 KB

·           Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safleoedd cynllunio rhithiol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2022.

·           Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·           Cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gynhaliwyd 16 Tachwedd, 2022.

·           Cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd 30 Tachwedd, 2022.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.3, 7.5, 7.6, 7.8, 12.3. a 12.4.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 5 MB

7.1 – HHP/2022/171 - Awel Y Bryn, Trigfa, Moelfre

HHP/2022/171

 

7.2 – DIS/2022/63 - Hen Safle Roadking,Parc Cybi, Caergybi

DIS/2022/63

 

7.3 – FPL/2022/53 – Cae Braenar, Penrhos, Caergybi

FPL/2022/53

 

7.4 – HHP/2022/46 - Tan Yr Allt Bach, Llanddona

HHP/2022/46

 

7.5 – VAR/2022/41 - 1 Clos Dwr Glas, Bae Trearddur.

VAR/2022/41

 

7.6 – HHP/2022/230 – Dinas Bach, 5 Y Fron, Aberffraw

HHP/2022/230

 

7.7 – FPL/2022/189 – Bilash, Dew Street, Porthaethwy

FPL/20220/189

 

7.8 – FPL/2022/172 – Erianallt Goch, Carmel

FPL/2022/172

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  HHP/2022/171 –  Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu hefo balconis Juliet yn Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre

 

(Gadawodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais, ar ôl datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu)

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 5 Hydref, 2022, cytunodd y Pwyllgor i ymweld â’r safle a chynhaliwyd ymweliad safle rhithiol ar 19 Hydref, 2022. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 2 Tachwedd, 2022, cytunodd y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Credwyd bod y cais yn mynd yn erbyn polisi cynllunio PCYFF2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd oherwydd yr effaith ar amwynder eiddo preswyl cyfagos o ran sŵn ac aflonyddwch, yn sgil y cynnydd yn nifer yr ystafelloedd gwely/preswylwyr ynghyd â gor-ddatblygiad yr eiddo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datganiad cyfiawnhad gan yr ymgeisydd yn nodi nad oes bwriad i newid defnydd yr annedd, a bydd y tŷ’n cael ei ddefnyddio gan deulu a ffrindiau. Cyfeiriwyd at y lefelau sŵn fydd yn cael eu cynhyrchu o’r annedd, fodd bynnag, mae lefelau sŵn gwahanol yn deillio o bob eiddo o fewn yr ystâd. Mae’r estyniad dormer yn debyg i’r rheiny sydd i’w gweld ar yr ystâd. Gellir adeiladu estyniad yng nghefn yr annedd, a gymeradwywyd yn 2010, dan ddatblygiad a ganiateir heb ganiatâd cynllunio. Aeth ymlaen i ddweud nad yw’n bosibl herio’r egwyddor o ystafelloedd gwely ychwanegol, fodd bynnag, mae’n rhaid ystyried ystyriaethau perthnasol eraill. Mae nifer o estyniadau dormer i’w gweld ar yr ystâd, a bydd cymeriad yr annedd yn gyffelyb i eiddo eraill o fewn yr ystâd. Dywedodd nad yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthod y cais. Cyflwynwyd diagram parcio fel rhan o’r datganiad cyfiawnhad, sy’n nodi bod lleoedd parcio ar gyfer 5 car yn nhu blaen yr eiddo.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Margaret M Roberts ac Ieuan Williams fel Aelodau Lleol i fynegi eu pryderon ynghylch y cynnig o ran nifer y preswylwyr y byddai’n gallu eu lletya, a’r posibilrwydd i’w ddefnyddio fel Airbnb, ac i letya cymaint ag sy’n bosibl yn yr annedd. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei bod o’r farn fod y cynnig yn groes i bolisi cynllunio TWR 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd oherwydd ei or-ddatblygiad. Dywedodd y Cynghorwyr Margaret M Roberts ac Ieuan Williams ei fod yn amlwg yn ystod yr ymweliad safle mai ffordd bengaead fach o anheddau sydd yma, a byddai creu lle i 5 car y tu blaen i’r annedd yn amhosibl. Yn wreiddiol, byngalo 2 lofft oedd yr eiddo, a byddai creu lle i’r cerbydau ychwanegol ar yr ystâd yn creu problemau i’r cymdogion. Cyfeiriodd y Cynghorydd Williams at bolisi cynllunio PCYFF 2, sy’n nodi y dylid gwrthod cais cynllunio os yw’n cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch a mwynder trigolion lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd John I Jones fod y cynnig yn amlwg yn mynd yn erbyn polisi cynllunio PCYFF 2, a chynigiodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau sy'n gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 1 MB

11.1 – HHP/2022/239 – 10 Lon y Wylan, Llanfairpwll

HHP/2022/239

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 11.1  HHP/2022/239 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu ac ehangu yn 10 Lôn y Wylan, Llanfairpwll

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 – FPL/2022/60 – Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen y Dref, Niwbwrch

FPL/2022/60

 

12.2 – VAR/2022/69 – Bryn Meurig, Llangefni

VAR/2022/69

 

12.3 – VAR/2022/52 – Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

VAR/2022/52

 

12.4 – FPL/2022/247 – Parc Gwledig Henblas, Bethel, Bodorgan

FPL/2022/247

 

12.5 – FPL/2022/195 – Pendref, Llanfairynghornwy

FPL/2022/195

 

12.6 – FPL/2022/215 – Capel Bach, Rhosybol

FPL/2022/215

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref Street, Niwbwrch

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 

12.2  VAR/2022/69 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynllun sydd wedi ei ganiatáu) a (08) (Draenio dŵr wyneb) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/7 (Codi ysgol gynradd newydd) er mwyn caniatáu i ddŵr wyneb ddraenio i un pwynt cyswllt y garthffos gyhoeddus yn Bryn Meurig, Llangefni

 

Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.

 

12.3  VAR/2022/52 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a ganiatawyd), (03)(Oriau Gweithredu), (04)(Oriau Dosbarthu) a (05)(Oriau Gwirio Gwesteion) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/317 (Cais llawn i ddymchwel adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod a chyfleuster chwaraeon dŵr ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig) er mwyn caniatáu amodau gweithredu/agor diwygiedig yn Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Nick Smith, a oedd yn cefnogi’r cais, fod caniatâd cynllunio wedi rhoi gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf, 2022, ar gyfer adeiladu adeilad tri llawr sy’n cynnwys 10 ystafell westy, gyda bwyty a dau fflat. Roedd amodau sy’n rheoli amser gweithredu’r bwyty, dosbarthu ac amser cyrraedd gwesteion wedi’u hatodi i’r caniatâd. Mae’r amodau presennol yn gorfodi’r bwyty i gau am 8pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a 9pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae hyn yn gyfyngiad afresymol, ac yn gwbl ddiangen ar gyfer sicrhau bod y datblygiad yn dderbyniol. Mae’r cais yn ceisio diwygio amodau ar y caniatâd cynllunio blaenorol drwy ganiatáu’r bwyty i weithredu am 2 awr ychwanegol gyda’r nos, sy’n cynnwys dan 10pm rhwng dydd Sul a dydd Iau a dan 11pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

 

Byddai amser cyrraedd i westeion hefyd yn cael ei ddiwygio i gyd-fynd â’r oriau gweithredu hyn. Ni fyddai’r oriau ychwanegol arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar fwynder eiddo cyfagos. Fel y nodwyd, mae cymysgedd o eiddo masnachol, gan gynnwys tafarndai a bwytai, yn agos at y safle, sy’ cael gweithredu tan amser hwyrach gyda’r nos na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y cais hwn. Nid oes gan y caniatâd cynllunio presennol unrhyw hawl dros ddefnyddio ardal eistedd allanol. Ar hyn o bryd, mae’r ardal eistedd allanol yn cael ei defnyddio dim ond yn ôl yr oriau agor sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer y bwyty. Cynigir amod ychwanegol i reoli’r defnydd o’r ardal  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.