Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddaeth yr ymddiheuriadau i law.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 7.1 - Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre, ar sail cysylltiad personol gyda’r grŵp sy’n gwrthwynebu’r cais.
Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 7.3 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi, am ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Llanfawr, ac mae ei ferch yn athrawes yn yr ysgol honno. Os cymeradwyir y cais, gofynnir i’r datblygwr wneud cyfraniad ariannol gwerth £110,313 tuag at gyfleusterau yn Ysgol Llanfawr.
Bu i’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.3 – Cae Brenar, Penrhos, Caergybi ar y sail bod y mater o ran y datblygiad wedi’i ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, y mae’n aelod ohono, yn flaenorol.
Bu i’r Swyddog Pwyllgor, Mrs Mairwen Hughes, ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 7.3 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi, am ei bod yn byw ar ystâd Cae Braenar, ac wedi gwrthwynebu’r cais.
Bu i’r Cynghorydd John I Jones ddatgan diddordeb ynghylch cais 12.1.
Bu i’r Cadeirydd, y Cynghorydd Neville Evans, ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu ynghylch cais 12.6 am ei fod yn perthyn i’r ymgeisydd, ac mae ei frawd yn gweithio i’r ymgeisydd hwnnw.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y newidiadau a ganlyn:-
· Cais 7.3 – Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre – Dylid dileu’r paragraff olaf yn natganiad Mr Peter J Hogan.
· Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at y materion a gododd mewn perthynas â chais 12.3 - Cae Braenar, Penrhos, Caergybi gan nodi nad oedd ei sylwadau wedi eu hadlewyrchu yn y cofnodion yn cynnwys ei ddymuniad i ohirio’r cais, cyfeiriad y Swyddog Cynllunio at eiriad amhriodol y datganiad wrth gyfeirio at gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2022, a’r ffaith bod tudalen 50 yn yr adroddiad yn cyfeirio at godi 22 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ond bod tudalen 51 yn cyfeirio at godi 23 tŷ fforddiadwy.
|
|
· Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safleoedd cynllunio rhithiol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2022. · Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd, 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol:-
· Cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gynhaliwyd 16 Tachwedd, 2022. · Cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd 30 Tachwedd, 2022.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.3, 7.5, 7.6, 7.8, 12.3. a 12.4. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
7.1 – HHP/2022/171 - Awel Y Bryn, Trigfa, Moelfre
7.2 – DIS/2022/63 - Hen Safle Roadking,Parc Cybi, Caergybi
7.3 – FPL/2022/53 – Cae Braenar, Penrhos, Caergybi
7.4 – HHP/2022/46 - Tan Yr Allt Bach, Llanddona
7.5 – VAR/2022/41 - 1 Clos Dwr Glas, Bae Trearddur.
7.6 – HHP/2022/230 – Dinas Bach, 5 Y Fron, Aberffraw
7.7 – FPL/2022/189 – Bilash, Dew Street, Porthaethwy
7.8 – FPL/2022/172 – Erianallt Goch, Carmel
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 HHP/2022/171 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu hefo balconis Juliet yn Awel y Bryn, Trigfa, Moelfre
(Gadawodd y Cynghorydd Jackie Lewis y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais, ar ôl datgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu)
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 5 Hydref, 2022, cytunodd y Pwyllgor i ymweld â’r safle a chynhaliwyd ymweliad safle rhithiol ar 19 Hydref, 2022. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 2 Tachwedd, 2022, cytunodd y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Credwyd bod y cais yn mynd yn erbyn polisi cynllunio PCYFF2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd oherwydd yr effaith ar amwynder eiddo preswyl cyfagos o ran sŵn ac aflonyddwch, yn sgil y cynnydd yn nifer yr ystafelloedd gwely/preswylwyr ynghyd â gor-ddatblygiad yr eiddo.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datganiad cyfiawnhad gan yr ymgeisydd yn nodi nad oes bwriad i newid defnydd yr annedd, a bydd y tŷ’n cael ei ddefnyddio gan deulu a ffrindiau. Cyfeiriwyd at y lefelau sŵn fydd yn cael eu cynhyrchu o’r annedd, fodd bynnag, mae lefelau sŵn gwahanol yn deillio o bob eiddo o fewn yr ystâd. Mae’r estyniad dormer yn debyg i’r rheiny sydd i’w gweld ar yr ystâd. Gellir adeiladu estyniad yng nghefn yr annedd, a gymeradwywyd yn 2010, dan ddatblygiad a ganiateir heb ganiatâd cynllunio. Aeth ymlaen i ddweud nad yw’n bosibl herio’r egwyddor o ystafelloedd gwely ychwanegol, fodd bynnag, mae’n rhaid ystyried ystyriaethau perthnasol eraill. Mae nifer o estyniadau dormer i’w gweld ar yr ystâd, a bydd cymeriad yr annedd yn gyffelyb i eiddo eraill o fewn yr ystâd. Dywedodd nad yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthod y cais. Cyflwynwyd diagram parcio fel rhan o’r datganiad cyfiawnhad, sy’n nodi bod lleoedd parcio ar gyfer 5 car yn nhu blaen yr eiddo.
Siaradodd y Cynghorwyr Margaret M Roberts ac Ieuan Williams fel Aelodau Lleol i fynegi eu pryderon ynghylch y cynnig o ran nifer y preswylwyr y byddai’n gallu eu lletya, a’r posibilrwydd i’w ddefnyddio fel Airbnb, ac i letya cymaint ag sy’n bosibl yn yr annedd. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei bod o’r farn fod y cynnig yn groes i bolisi cynllunio TWR 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd oherwydd ei or-ddatblygiad. Dywedodd y Cynghorwyr Margaret M Roberts ac Ieuan Williams ei fod yn amlwg yn ystod yr ymweliad safle mai ffordd bengaead fach o anheddau sydd yma, a byddai creu lle i 5 car y tu blaen i’r annedd yn amhosibl. Yn wreiddiol, byngalo 2 lofft oedd yr eiddo, a byddai creu lle i’r cerbydau ychwanegol ar yr ystâd yn creu problemau i’r cymdogion. Cyfeiriodd y Cynghorydd Williams at bolisi cynllunio PCYFF 2, sy’n nodi y dylid gwrthod cais cynllunio os yw’n cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch a mwynder trigolion lleol.
Dywedodd y Cynghorydd John I Jones fod y cynnig yn amlwg yn mynd yn erbyn polisi cynllunio PCYFF 2, a chynigiodd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau sy'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 HHP/2022/239 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu ac ehangu yn 10 Lôn y Wylan, Llanfairpwll
Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.
|
|
12.1 – FPL/2022/60 – Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen y Dref, Niwbwrch
12.2 – VAR/2022/69 – Bryn Meurig, Llangefni
12.3 – VAR/2022/52 – Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
12.4 – FPL/2022/247 – Parc Gwledig Henblas, Bethel, Bodorgan
12.5 – FPL/2022/195 – Pendref, Llanfairynghornwy
12.6 – FPL/2022/215 – Capel Bach, Rhosybol
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2022/60 – Cais llawn i godi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig ar safle cyn Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref Street, Niwbwrch
Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.
12.2 VAR/2022/69 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynllun sydd wedi ei ganiatáu) a (08) (Draenio dŵr wyneb) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/7 (Codi ysgol gynradd newydd) er mwyn caniatáu i ddŵr wyneb ddraenio i un pwynt cyswllt y garthffos gyhoeddus yn Bryn Meurig, Llangefni
Ni chafod y cais hwn ei ystyried gan nad oedd cworwm. Bydd y cais yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod gohiriedig a fydd yn cael ei drefnu maes o law.
12.3 VAR/2022/52 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau a ganiatawyd), (03)(Oriau Gweithredu), (04)(Oriau Dosbarthu) a (05)(Oriau Gwirio Gwesteion) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/317 (Cais llawn i ddymchwel adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod a chyfleuster chwaraeon dŵr ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig) er mwyn caniatáu amodau gweithredu/agor diwygiedig yn Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Siaradwr Cyhoeddus
Dywedodd Mr Nick Smith, a oedd yn cefnogi’r cais, fod caniatâd cynllunio wedi rhoi gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf, 2022, ar gyfer adeiladu adeilad tri llawr sy’n cynnwys 10 ystafell westy, gyda bwyty a dau fflat. Roedd amodau sy’n rheoli amser gweithredu’r bwyty, dosbarthu ac amser cyrraedd gwesteion wedi’u hatodi i’r caniatâd. Mae’r amodau presennol yn gorfodi’r bwyty i gau am 8pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a 9pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Mae hyn yn gyfyngiad afresymol, ac yn gwbl ddiangen ar gyfer sicrhau bod y datblygiad yn dderbyniol. Mae’r cais yn ceisio diwygio amodau ar y caniatâd cynllunio blaenorol drwy ganiatáu’r bwyty i weithredu am 2 awr ychwanegol gyda’r nos, sy’n cynnwys dan 10pm rhwng dydd Sul a dydd Iau a dan 11pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Byddai amser cyrraedd i westeion hefyd yn cael ei ddiwygio i gyd-fynd â’r oriau gweithredu hyn. Ni fyddai’r oriau ychwanegol arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar fwynder eiddo cyfagos. Fel y nodwyd, mae cymysgedd o eiddo masnachol, gan gynnwys tafarndai a bwytai, yn agos at y safle, sy’ cael gweithredu tan amser hwyrach gyda’r nos na’r hyn sy’n cael ei gynnig yn y cais hwn. Nid oes gan y caniatâd cynllunio presennol unrhyw hawl dros ddefnyddio ardal eistedd allanol. Ar hyn o bryd, mae’r ardal eistedd allanol yn cael ei defnyddio dim ond yn ôl yr oriau agor sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer y bwyty. Cynigir amod ychwanegol i reoli’r defnydd o’r ardal ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|