Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 7fed Mehefin, 2023 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorwyr Jackie Lewis ac Alwen Watkin.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Liz Wood ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.4.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 319 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·         3 Mai, 2023

·         23 Mai, 2023 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn a chadarnhawyd eu bod yn gofnod cywir –

 

·        3 Mai 2023

·         27 Mai 2023 (ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd)

 

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 40 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2023 fel cofnod cywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd siaradwyr cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 898 KB

6.1  HHP/2023/51 – Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

HHP/2023/51

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 HHP/2023/51 – Cais llawn i ddymchwel y modurdy presennol ynghyd â chodi anecs deulawr yn Lancefield, Ffordd Cynlas, Benllech

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol oherwydd ei fod yn orddatblygiad o’r safle ac yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r cymdogion.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymwelwyd â safle’r cais ar 17 Mai, 2023, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 3 Mai, 2023 i gynnal ymweliad safle. Derbyniwyd cynlluniau ychwanegol a diwygiadau i’r cynlluniau arfaethedig yn ymwneud â’r cais ar 15 Mai, 2023 a chawsant eu dosbarthu i Aelodau Lleol ac i aelodau'r Pwyllgor yn ystod yr ymweliad safle. Cynhaliwyd ail ymgynghoriad ar 17 Mai, 2023 ac, felly, yr argymhelliad oedd gohirio’r cais yn ystod y cyfnod ymgynghori a chyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod Gorffennaf, 2023 o’r Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 3 MB

Adroddiad Gweithredu Newid Defnydd

 

Adroddiad Cychwyn y Gwaith a Gymeradwywyd

 

7.1  46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

46C427L/COMP

 

7.2  COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

COMP/2021/1

 

7.3 S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

S106/2020/3

 

7.4  FPL/2022/256 – Crown Street, Gwalchmai

 

FPL/2022/256

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 46C427L/COMP – Cyflwyno Cynllun Grŵp Cyswllt Cymunedol i gydymffurfio â Thelerau'r Cytundeb fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 7 a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus Penrhos (PPALS) fel y nodir yn Atodlen 8, Adran 13.1 y Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio cyfeirnod 46C427K/TR/EIA/ECON yn Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn ymwneud â chyflawni rhwymedigaethau Cytundeb Adran 106 ynghlwm wrth ganiatâd cais yr oedd Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol wedi’i amgáu gydag o. Felly, fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor iddo benderfynu arno, yn unol â pharagraff 3.5.3.10 Cyfansoddiad y Cyngor. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mai, 2023, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan ei fod o’r farn nad oedd yn glir a oedd y caniatâd gwreiddiol (cais cyfeirnod 46C427K/TR/EIA/ECON) wedi’i weithredu’n gyfreithlon am ddau reswm, sef -

 

  • A yw'r gwaith yr ymgymerwyd ag o (dan gais cynllunio RM/208/6) yn waith dechrau perthnasol ac
  • A oedd y newid defnydd i Dŵr y Beilïaid wedi dechrau cyn diwedd y pum mlynedd o ddyddiad y caniatâd gwreiddiol (sef 19 Ebrill, 2016).

 

Hefyd wedi’u cyflwyno er gwybodaeth i’r Pwyllgor oedd adroddiad Gweithredu Newid Defnydd Pentref Hamdden Penrhos Land and Lakes (Ebrill 2021) ac adroddiad Parc Arfordirol Penrhos ar Ddechrau Gwaith a Gymeradwywyd (Ebrill, 2021).

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor a oedd yn dymuno ystyried tri chais Land and Lakes (7.1, 7.2 a 7.3 ar yr agenda) fel cais cyfansawdd fel yn ei gyfarfod blaenorol. Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid ystyried y tri chais gyda'i gilydd fel un cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John I. Jones.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ddarllen yn gyhoeddus lythyr gan Lisa Black, Grŵp Achub Penrhos. Dyma oedd yn y llythyr —

 

“Ar ôl y cyfarfod cynllunio diwethaf ynglŷn â Phenrhos, roeddwn wedi fy nychryn o glywed nad oedd ein cynghorwyr cynllunio yn gyfarwydd â’r dogfennau oedd yn ymwneud â’r gwaith yr ymgymerwyd  ag o a olygai bod yna ddechreuad perthnasol a arweiniodd yn y pen draw at ddiogelu’r cais cynllunio am byth. Ac eto, gofynnwyd i’n cynghorwyr bleidleisio ar faterion nad oeddent yn gwbl ymwybodol ohonynt. Daeth yn amlwg bod angen ateb llawer o gwestiynau.

 

Gyda chymorth ymgynghorydd cynllunio annibynnol, bu i ni ofyn am adroddiad, a’i dderbyn, lle'r oedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn ymddangos yn rhywbeth y dylid ei rannu gyda'n cynghorwyr ar y mater hwn.

 

Mae rhannau o'r ddogfen hon yn cynnwys Adran 56 y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref sy'n rhagnodi gweithgareddau sy'n gyfystyr â chydymffurfiaeth y cyfeirir ati fel gwaith perthnasol a ddiffinnir fel unrhyw waith adeiladu yn ystod gwaith codi adeilad; dymchwel adeilad; cloddio ffos sydd i gynnwys sylfaen neu ran o sylfeini adeilad; gosod unrhyw brif bibell neu bibell dan y ddaear i sylfeini adeilad, neu ran o sylfeini adeilad; unrhyw waith yng nghwrs gosod allan neu adeiladu ffordd neu ran  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 958 KB

11.1  HHP/2023/53 – 48 Cae Braenar, Caergybi

 

HHP/2023/53

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 HHP/2023/53 – Cais llawn i addasu ac ehangu yn 48 Cae Braenar, Caergybi

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i un o weithwyr Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro, fel oedd yn ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr - Rheoli Datblygu fod y cais yn cynnig codi estyniad ports unllawr dan y strwythur to bach presennol i greu ports mynediad newydd. Ystyriwyd bod yr estyniad arfaethedig ar raddfa fach ac er bod deiliaid yr eiddo cyfagos wedi gwrthwynebu oherwydd colli golau'r haul, ni ystyrid bod yr effaith yn cyfiawnhau gwrthod y cais. Roedd nifer o dai ar y stad wedi creu ports tebyg dan eu strwythurau to presennol. Roedd y bwriad yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac argymhellwyd caniatáu'r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans ganiatáu’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geraint Bebb.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 899 KB

12.1  FPL/2023/108  - Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

FPL/2023/108

 

12.2  FPL/2023/66 – Hen Blas, Bethel, Bodorgan

 

FPL/2023/66

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 FPL/2023/108 – Cais llawn i osod amryw o ffensys 2.2 medr, 2.9 medr, a 3.2 medr o uchder, gyda giatiau i gyd-fynd â nhw, yn Ysgol Syr Thomas Jones, Pentrefelin, Amlwch.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y tir yn eiddo i’r Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr - Rheoli Datblygu mai cais i osod amrywiol ffensys a giatiau 2.2m, 2.9m a 3.2m mewn sawl lleoliad o amgylch yr ysgol oedd hwn. Byddai’r ffensys yn ffensys diogelwch galfanedig o ansawdd uchel gyda gorchudd polyester gwyrdd Fortex. Roedd angen y ffensys a'r giatiau i ddiogelu'r safle; byddent wedi eu lleoli ar dir yr ysgol ac ni fyddent yn rhwystro gwelededd o'r mynedfeydd cerbydau presennol. Roedd y bwriad yn cydymffurfio â'r holl bolisïau perthnasol ac ni ystyrid y byddai'n cael effaith negyddol ar yr ardal, ar osodiad adeilad rhestredig Gradd II yr ysgol nac ar unrhyw eiddo cyfagos. Yr argymhelliad, felly, oedd caniatáu’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb ganiatáu’r cais, yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geraint Bebb,.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 FPL/2023/66 – Cais llawn i leoli 120 o baneli Solar 35.4KW ar dir yn Hen Blas, Bethel, Bodorgan

 

Adroddwyd bod y cais wedi’i alw i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol oherwydd y byddai pryder yn lleol.

Adroddodd y Rheolwr - Rheoli Datblygu fod y bwriad yn ymwneud â gosod 120 o baneli solar a gâi eu trefnu mewn dau fanc yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ac yn cynhyrchu 35kw o drydan ar gyfer tŷ preswyl yr ymgeisydd. Byddai’r paneli ar lefel y ddaear ac yn cael eu gosod ar ffrâm ddur yn gorchuddio arwynebedd cyfan, yn ymestyn i 194m2. Er ei fod mewn cefn gwlad agored, roedd y safle wedi'i guddio'n dda o'r briffordd gan wrychoedd a choed aeddfed, ac eithrio rhan fechan lle'r oedd bwlch yn y gwrych er mwyn gwneud lle i weld y fynedfa i'r safle. Roedd y golygfeydd o'r bwlch hwn yn fyr ac ni fyddent yn cael effaith aruthrol ar gymeriad yr ardal. Cynigid cryn dipyn o dirlunio yn rhan o'r cais fyddai’n sgrinio'r olygfa yma dros amser. Roedd y cefn gwlad y lleolid y bwriad ynddo wedi ei ddatblygu'n wasgaredig gyda'r eiddo cyfagos agosaf 100m i'r gogledd orllewin a'r eiddo agosaf yn wynebu blaen y paneli dros 330m i ffwrdd. Byddai oes o 20 i 25 mlynedd i’r paneli ac, ar ôl hynny, gellid eu hadnewyddu, os ceid caniatâd cynllunio, neu eu tynnu, yn unol â'r cynllun adfer ac ôl-ofal a gyflwynid fel rhan o'r cais. Ychydig iawn o effaith y bydd y ffordd y câi’r paneli eu gosod ar y ddaear yn ei chael a byddai’n fodd i'r tir ddychwelyd i'w gyflwr blaenorol ar ddiwedd oes weithredol y paneli. Roedd y Swyddogion yn fodlon bod y cynllun yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.