Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Bu i’r Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.7 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Bu i’r Cynghorydd Douglas Fowlie (fel Aelod Lleol) ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.6 a gadawodd y cyfarfod ar ôl cyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor fel Aelod Lleol.
Bu i'r Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Ebrill, 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Ebrill, 2025 yn gywir.
|
|
Ymweliad Safleoedd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hystyried yn ystod y cyfarfod hwn.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 10.1, 12.6 a 12.7.
|
|
Ceisiadau fy yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
10.1 – FPL/2025/11 – Maes Merddyn, Brynsiencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 FPL/2025/11 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd marchnad agored ac 19 annedd fforddiadwy ynghyd â gwaith datblygu cysylltiedig ar dir ger Maes Merddyn, Brynsiencyn
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod elfen marchnad agored y cynllun yn gwyro oddi wrth y Cynllun Datblygu ar y Cyd gan ei fod y tu allan i’r ffin ddatblygu, fodd bynnag mae sefyllfa y gellir disgyn yn ôl arni ac felly mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn y dylid ei gymeradwyo.
Siaradwr Cyhoeddus
Dywedodd Mr Jamie Bradshaw, asiant y cais, wrth gefnogi'r cais, mai cynnig yw hwn ar gyfer cynllun o dai fforddiadwy yn bennaf i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i ddiwallu angen tai a nodwyd ym Mrynsiencyn. Mae'r cynllun yn darparu cymysgedd o gartrefi fforddiadwy 'traddodiadol' a thai marchnad agored cost isel. Mae hyn yn dilyn datblygiad blaenorol a gymeradwywyd ar y safle ar gyfer 13 tŷ, dim ond 4 ohonynt fyddai'n fforddiadwy, a gyda'r mwyafrif yn gartrefi mawr sengl. Dechreuwyd y caniatâd hwnnw gan berchennog blaenorol y safle ac felly mae'n dal yn weithredol, neu'n bodoli, a gellid ei gwblhau ar unrhyw adeg. Mae'r cynnig ar gyfer 20 tŷ ac 8 fflat, gyda 19 o'r rhain yn gartrefi fforddiadwy traddodiadol, a 9 yn dai marchnad agored cost isel. Mae'r safle yn cael ei ddatblygu ar gyfer Clwyd Alyn, a fyddai'n cynnig y tai i bobl leol sydd angen tai fforddiadwy. Yn bwysig iawn, mae angen clir ar gyfer yr anheddau sy'n cael ei gadarnhau gan y dystiolaeth yng nghofrestri Tai Cymdeithasol a Tai Teg, ac felly byddai'r datblygiad yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y rhan hon o'r Ynys; mae'r Swyddogion Cynllunio a Thai yn gwbl fodlon bod angen clir am y cynllun. Mae'r cynnig yn cynnwys mynediad o ansawdd da i'r A4080, a lle parcio oddi ar y ffordd ar y safle ar gyfer yr anheddau a'r ymwelwyr. Mae capasiti yn y rhwydwaith ffyrdd lleol i ddarparu ar gyfer y datblygiad, ac yn enwedig felly pan fydd y caniatâd presennol ar y safle yn cael ei ystyried, ac nid yw'r Swyddogion Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r cynnig. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn gynllun o ansawdd uchel, wedi’i dirweddu’n dda a fyddai'n gweddu’n dda o fewn yr ardal. Byddai'n ddeniadol a byddai hefyd yn darparu mesurau lliniaru ecoleg ar gyfer ei effeithiau cyfyngedig ac yn sicrhau gwelliannau. Cadarnheir hyn gan gefnogaeth y Swyddogion Cynllunio ac Ecoleg i'r cynllun a safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cais. Cynigir cynllun draenio addas ar gyfer dŵr wyneb, a fydd yn cael ei osod yn gyfan gwbl o fewn y safle; byddai dŵr draenio budr yn cysylltu â'r garthffos yn y ffordd. Mae Dŵr Cymru yn ogystal â'r Swyddogion perthnasol yn gwbl fodlon â'r cynllun draenio. Nid oes unrhyw ymgyngoreion statudol arall wedi gwrthwynebu'r cynllun. Fodd bynnag, nodir bod rhai pryderon gan breswylwyr lleol ynglŷn â’r effaith ar eu preifatrwydd a'u hamwynder, ond mae pellter digonol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 – HHP/2025/42 – Ael y Bryn, Rhostrehwfa
12.2 – LBC/2025/6 – Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch
12.3 – HHP/2024/169 – The Old Crown, Moelfre
12.4 – HHP/2025/20 – 38 Parc Tyddyn Bach, Holyhead
12.5 – HHP/2025/7 - 39 Parc Tyddyn Bach, Holyhead
12.6 – VAR/2025/10 – 7 Marine Terrace, High Street, Rhosneigr
12.7 – FPL/2024/360 - Ty Coch Farm, Rhostrehwfa Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 HHP/2025/42 – Cais llawn i ddymchwel garej ynghyd ag addasiadau ac estyniadau yn Ael y Bryn, Rhostrehwfa, Llangefni
(Bu i’r Cynghorydd Geraint Bebb ddatgan buddiant personol yng nghais 12.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais)
(Bu i’r Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu yng nghais 12.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais)
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol yn unol â’r diffiniad yn y Cyfansoddiad. Craffwyd ar y cais cynllunio gan y Swyddog Monitro.
Adroddodd Arweinydd y Tîm fod y cynnig yn cynnwys dymchwel garej to fflat a chodi estyniad to fflat unllawr wedi’i gysylltu â’r ystafell fyw bresennol a bydd yn darparu ystafell amlbwrpas fach, ystafell ymolchi a chegin/ardal fwyta a fydd yn arwain at batio a fydd yn ardal yr ardd gefn. Mae'r cynnig yn cael ei ystyried yn dderbyniol o ran dyluniad ac edrychiad ac mae'n cyd-fynd â'r eiddo a'r math cyffredinol o ddatblygiad yn yr ardal ac mae o ansawdd uchel. Felly, mae'r cynnig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio PCYFF3. Ni fydd unrhyw goed na gwrychoedd yn cael eu tynnu o ganlyniad i'r datblygiad ac mae gwelliannau ecolegol wedi'u cynnwys - gosodir 2 flwch adar a blwch ystlumod. Ystyrir y bydd y blychau adar ac ystlumod yn gwella bioamrywiaeth ac yn cydymffurfio â Pholisi Strategol PS19, Polisi AMG5 a'r cyngor a geir yn Argraffiad 12 Polisi Cynllunio Cymru. Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig ac maent yn fodlon â'r Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu a gyflwynwyd gyda'r cais. At hyn, dywedodd na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar yr eiddo cyfagos i'r de o'r safle a’i fod yn cydymffurfio â'r pellter gofynnol o 8 Perth y Paen a Ceris. Ni ystyrir y bydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar amwynderau eiddo cyfagos ac mae’n cydymffurfio â'r pellteroedd a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd John Ifan Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig i’w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12. 2 LBC/2025/6 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer adnewyddu toiledau’r genethod yn Ysgol Syr Thomas Jones, Tanybryn, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Ysgol Syr Thomas Jones yn adeilad rhestredig Gradd II* a'r ysgol gyfun gyntaf a ddyluniwyd yn bwrpasol yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Cais yw hwn am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer adnewyddu prif floc toiledau’r genethod. Oherwydd ei gyflwr, rhagwelir y byddai parhau i ddefnyddio bloc toiledau’r genethod yn gallu arwain at broblemau hylendid a diogelwchd. Ar ôl ystyried yr holl opsiynau, gan gynnwys atgyweirio ac ail-orchuddio'r terazzo presennol, cytunodd y Swyddog Cadwraeth ac Arolygydd Adeiladau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|