Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu’r Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yng nghais 7.3 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
· Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Mai, 2025; · Cofnodion Ethol Cadeirydd a’r Is-gadeirydd a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-
· Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd 7 Mai, 2025; · Cofnodion Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd 20 Mai, 2025. |
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd 21 Mai, 2025 fel cofnod cywir yn amodol ar gynnwys enw’r Cynghorydd Dafydd Roberts ar y rhestr ymddiheuriadau. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw siaradwyr cyhoeddus |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
7.1 HHP/2024/169 - The Old Crown, Moelfre
7.2 HHP/2025/7 - 39 Parc Tyddyn Bach, Caergybi
7.3 FPL/2024/360 - Ty Coch Farm, Rhostrehwfa
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 7.1 HHP/2024/169 – Cais llawn ar gyfer codi anecs atodol yn The Old Crown, Moelfre.
7.2 HHP/2025/7 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasiadau ac estyniadau ynghyd â chodi balconi yn 39 Parc Tyddyn Bach, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.
7.3 FPL/2024/360 - Cais llawn i ddymchwel yr annedd presennol a chodi annedd newydd yn ei le ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol, gosod cyfleuster trin carthion a gwaith cysylltiedig yn Fferm Tŷ Coch, Rhostrehwfa.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
12.1 VAR/2025/18 – Uned 2a Gwasanaethau Herron, Glanhwfa Road, Llangefni
12.2 VAR/2024/35 – Y Tithe Barn, Llangristiolus
12.3 FPL/2023/81 – Shire Hall, Ffordd Glanhwfa, Llangefni
12.4 FPL/2025/84 – Adeilad Terfynell Morol, Porth Amlwch, Amlwch
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 VAR/2025/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (gwerthu nwyddau difwyd yn unig) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (Cais ôl-weithredol ar gyfer isrannu uned manwerthu sengl yn 2 uned manwerthu ar wahân) er mwyn caniatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a, Herron Services, Ffordd Glanhwfa, Llangefni.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd fod y cais yn groes i bolisïau cynllunio MAN 3 a MAN 7.
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei ohirio i’r cyfarfod nesaf yn awtomatig er mwyn caniatáu i Swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.)
12.2 VAR/2024/35 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) caniatâd cynllunio cyfeirnod FPL/2022/134 (Cais llawn i drosi adeilad allanol yn llety gwyliau 2 ystafell wely yn) er mwyn diwygio'r dyluniad yn The Tithe Barn, Llangristiolus.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad.
12.3 FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol â chais yr ymgeisydd er mwyn caniatáu mwy o amser i sicrhau cynnydd gyda’r cytundeb cyfreithiol A106.
12.4 FPL/2025/84 – Cais i wneud gwaith adnewyddu ac addasu, ynghyd â gwaith tirweddu cysylltiedig, yn yr hen Derfynfa Forol, Porth Amlwch.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio o fewn yr adroddiad. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |