Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Neville Evans ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn gysylltiedig â chais 7.1 - tir ger Glanynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy gan ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith sydd eisoes wedi trafod y datblygiad. Fe wnaeth y Cynghorydd Evans adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.
Fe wnaeth y Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn gysylltiedig â chais 12.3 - Fferm Tŷ Coch, Rhostrehwfa gan ei fod yn ffrindiau gyda’r ymgeisydd a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.
Fe wnaeth y Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn gysylltiedig â chais 7.1 - tir ger Glanynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy gan ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith sydd eisoes wedi trafod y datblygiad. Fe wnaeth y Cynghorydd Roberts adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.
Fe wnaeth y Cynghorydd Robin Williams ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn gysylltiedig â chais 7.1 - tir ger Glanynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy gan ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith sydd eisoes wedi trafod y datblygiad. Fe wnaeth y Cynghorydd Williams adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2026. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2026. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2026 yn gywir.
|
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.3.
|
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2024/228 - Cais llawn i godi cyfleuster gofal ychwanegol a chartref gofal preswyl gyda chyfleusterau cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau, gwaith i wella’r briffordd, dymchwel yr annedd bresennol ar y safle ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir ger Glanynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy.
(Fe wnaeth y Cynghorwyr Neville Evans, Dafydd Roberts a Robin Williams ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn gysylltiedig â’r cais gan eu bod yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith sydd eisoes wedi trafod y datblygiad. Fe wnaeth yr Aelodau adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol)
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi cael ei gyflwyno gan y Cyngor. Yn y cyfarfod ar 4 Mawrth, 2026 argymhellwyd bod ymweliad safle’n cael ei gynnal. Cynhaliwyd yr ymwelid safle ar 18 Mawrth, 2026.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Jamie Bradshaw, yr asiant, o blaid y cais. Dywedodd bod y cais ar safle sydd wedi’i ddynodi ar gyfer 40 o anheddau yn y Cynllun Datblygu Lleol, ac y byddai’n ateb y galw lleol am y math yma o lety gan ddarparu 45 fflat gofal ychwanegol a chartref gofal 26 gwely ynghyd â chyfleusterau cymorth a chaffi a bwyty a swyddfa. Mae’r cais yn dilyn prosiectau llwyddiannus yn Llangefni a Chaergybi ac mae’n dangos ymrwymiad yr Awdurdod i ddiwallu anghenion ei holl drigolion. Ceir mynediad i’r safle drwy Ystâd Tyddyn Mostyn a bwriedir creu mynedfa ac allanfa ar wahân. Mae Asesiad Trafnidiaeth wedi cael ei gwblhau ac mae’n cadarnhau y gall y rhwydwaith priffyrdd lleol ymdopi â’r cynnig heb gael effaith niweidiol ar ei diogelwch a’i gweithrediad. Hefyd, ni fydd yn cael effaith o bwys ar y fynedfa i Ysgol y Bont. Bydd y ddarpariaeth parcio’n ddigonol ar gyfer y datblygiad a bydd hefyd yn rhoi ystyriaeth i hygyrchedd y safle a’r bobl a fydd yn ei ddefnyddio. O ganlyniad, mae’r Swyddogion Priffyrdd yn fodlon yn amodol ar osod rheolaethau ac amodau addas, a darparu Cynllun Trafnidiaeth a Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu. Mae’r datblygiad wedi cael ei gynllunio’n ofalus i barchu mwynderau a phreifatrwydd y cymdogion. Mae’r adeilad wedi cael ei leoli’n ddigon pell oddi wrth yr adeiladau cyfagos a’i ddylunio’n ofalus. Yn gyffredinol bydd gan yr adeilad dri llawr ac mae wedi cael ei ddylunio i gyd-fynd â lefelau’r tir. Wrth edrych ar y datblygiad o Dyddyn Mostyn dim ond dau lawr fydd yn weladwy gan y bydd y llawr isaf ar ran isaf y tir. Bydd y coed a gwrychoedd trwchus ar y tir i'r de o'r safle yn gweithredu fel rhwystr rhwng y safle a’r tai ar hyd Lôn Las a Thyddyn Tô. Bydd y planhigion ar hyd y terfyn yn cael eu cadw lle bo modd a bydd ychwaneg o blanhigion yn cael eu plannu er mwyn cuddio’r datblygiad yn well. Mae’r dyluniad o ansawdd uchel a bydd yr adeilad yn ddeniadol a modern ac yn cyd-fynd â’r safle a’i osodiad. Bydd y deunyddiau’n cael eu dewis yn ofalus a bydd y gwaith tirweddu’n sicrhau bod y datblygiad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 - FPL/2025/9 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a'r strwythurau cyfagos, codi annedd newydd ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd ym Marian, Llanddeusant.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog Perthnasol, yn unol â’r diffiniad yn y cyfansoddiad. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais llawn yw hwn i ddymchwel yr annedd bresennol a'r strwythurau cyfagos, codi annedd newydd ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth newydd. Gan fod y cynnig yn ymwneud ag ailadeiladu annedd, y polisi perthnasol yw TAI 13. Dylid hefyd ystyried yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Canllawiau Cynllunio Atodol - Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad (Medi 2019). Mae’r adeilad y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu ac mae yn y cefn gwlad agored. Mae gan yr eiddo presennol ddefnydd preswyl cyfreithiol, nid yw’n Adeilad Rhestredig ac nid oes ganddo unrhyw werth pensaernïol, hanesyddol neu weledol fyddai’n golygu y dylid ei warchod, o ganlyniad ystyrir bod y cynnig yn cydymffurfio â meini prawf 1 i 3 ym mholisi TAI 13. Mae’r pedwerydd maen prawf yn cadarnhau y caniateir cynigion y tu allan i ffiniau datblygu os nad oes posib cadw'r adeilad presennol trwy ei adnewyddu neu ei ymestyn a/neu os gellir dangos nad yw atgyweirio'r adeilad presennol yn ymarferol yn economaidd; ymhelaethir ar hyn yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad’ sy’n nodi y dylid cyflwyno adroddiad strwythurol gyda phob cais, sy’n nodi addasrwydd yr adeilad ar gyfer ei ailddefnyddio (h.y. fel y gellir asesu’r cynnig yn erbyn maen prawf 4). Dylai unrhyw Adroddiad Strwythurol gael ei gefnogi gan Adroddiad Cymhariaeth Costau sydd yn manylu ar y gost o gynnal gwaith adfer neu addasu’r adeilad o’i gymharu â’r costau fyddai’n gysylltiedig â dymchwel ac ailadeiladu. Nid yw tŷ sydd angen ei foderneiddio yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer dymchwel ac ailadeiladu. Dylai unrhyw gymhariaeth costau gynnwys y costau sy’n gysylltiedig ag atgyweirio'r broblem a ganfuwyd ac ni ddylai costau atgyweirio’r adeilad gynnwys gwaith sydd yn rhan o ddyhead yr ymgeisydd
Derbyniwyd Adroddiad Arolwg Strwythurol gyda’r cais cynllunio sydd wedi cael ei baratoi gan Beiriannydd Strwythurol Siartredig ynghyd ag Adroddiad Cymhariaeth Costau. Mae Ymgynghorydd Siartredig Allanol a benodwyd gan y Cyngor wedi craffu ar yr wybodaeth ac mae’n fodlon â’r wybodaeth a gyflwynwyd. Mae’r gost o adnewyddu’r adeilad presennol yn llawer uwch na’r gost o godi adeilad newydd ac felly ystyrir ei bod hi’n fwy economaidd hyfyw dymchwel yr adeilad a chodi adeilad newydd yn ei le. Felly, mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r pedwerydd maen prawf. Nid yw’r pumed maen prawf yn berthnasol yn yr achos hwn. Mae’r chweched maen prawf yn nodi y dylid lleoli tŷ sydd i’w ailadeiladu oddi mewn i’r un ôl troed â’r adeilad presennol oni bai y gellir dangos bod ei ail leoli o fewn y cwrtil yn lleihau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
|
12.1 – FPL/2025/246 - Stad Ddiwydianol Amlwch
12.2 – FPL/2026/15 - Stad Ddiwydianol Amlwch
12.3 – FPL/2025/223 – Fferm Ty Coch, Rhostrehwfa
12.4 – FPL/2025/294 - Gors Felen, Ffordd Bron Y Felin, Llangefni.
12.5 – FPL/2026/6 – Tir ger Plas Tudur, Llangefni
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2025/246 - Cais llawn i greu basn cadw dŵr wyneb yn Stad Ddiwydiannol Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i leoli ar dir y meddiant yr Awdurdod Lleol a chan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y safle wedi’i leoli ar dir Canolfan Hamdden Amlwch ac Ysgol Uwchradd Ysgol Syr Thomas Jones. Nid oes modd cael mynediad i’r safle o’r briffordd a’r unig ffordd o’i gyrraedd yw drwy’r caeau. Mae’r safle gerllaw Afon Goch, sy’n llifo heibio’r safle o gyfeiriad y de. Mae’r cynnig ar gyfer creu basn cadw dŵr wyneb; bydd y basn yn gysylltiedig â’r datblygiad ar dir i’r gorllewin o’r safle ar gyfer 10 o unedau diwydiannol a gymeradwywyd o dan gais rhif FPL/2023/275. Mae’r basn dŵr wedi cael ei ddylunio ar gyfer achosion o law eithafol 1 mewn 100, yn ogystal â chapasiti ychwanegol i ddelio â mwy o law yn sgil newid hinsawdd. Fodd bynnag bydd y basn hefyd yn llenwi’n naturiol â dŵr glaw a bydd yn llecyn isel naturiol fel rhan o’r dirwedd. Bydd y basn yn cael ei adeiladu i ddal uchafswm o 1m o ddŵr ac isafswm o 100mm a bydd dŵr hefyd yn cael ei golli drwy ddulliau naturiol. Er mwyn annog pob math o blanhigion dŵr bwriedir plannu gorchudd cychwynnol. Bydd y rhan sych a’r llethrau’n cael eu hadu i greu dôl blodau gwyllt. Bydd ffens yn cael ei chodi o amgylch y safle at ddibenion iechyd a diogelwch. Rhaid cyflwyno gwybodaeth fanwl am y ffens i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a derbyn cadarnhad ysgrifenedig ganddo, cyn dechrau gweithio ar y safle.
Aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymlaen i ddweud bod newidiadau wedi cael eu gwneud i’r cynnig ers cyhoeddi rhaglen y cyfarfod yn dilyn sylwadau’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Mae’r basn dŵr wedi cael ei symud ychydig i’r gorllewin, a’i leihau o 685m² i 563m² ac nid oes angen ei gysylltu ag Afon Goch erbyn hyn. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid cael caniatâd unrhyw drydydd parti. Mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r holl bolisïau perthnasol yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd y cynnig yn sicrhau mwy o welliannau bioamrywiaeth na’r hyn sydd ar y safle ar hyn o bryd a bydd yn sicrhau bod dŵr o’r unedau diwydiannol, sydd eisoes wedi cael eu cymeradwyo, yn cael ei ddraenio’n ddigonol. Mae’r holl ymgyngoreion yn cefnogi’r cais yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Gan nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun blaenorol, argymhellir awdurdodi’r Swyddogion i benderfynu ar y cais ar ôl ymgynghori â chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ar y newidiadau. Gan fod y basn yn llai a chan nad oes angen ei gysylltu ag Afon Goch, rhagwelir na fydd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig. Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol ei fod yn cefnogi’r cais. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylai’r cais gael ei gymeradwyo yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
13.1 – DEM/2026/2 – Craig y Don, Amlwch
13.2 – DEM/2026/3 – Maes Llwyn, Amlwch
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 DEM/2025/2 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai yng Nghraig y Don, Amlwch
Nodwyd bod y cais wedi cael ei ganiatáu o dan Ran 31 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995.
13.2 DEM/2026/3 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai ym Maes Llwyn, Amlwch
Nodwyd bod y cais wedi cael ei ganiatáu o dan Ran 31 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995.
|