Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 7fed Hydref, 2026 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu’r Cynghorydd Neville Evans ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1 - Parc Solar Traffwll, Llanfihangel yn Nhowyn gan ei fod yn gwrthwynebu lleoli ffermydd solar ar dir amaethyddol.   Fel yr Aelod Lleol, cyflwynodd sylwadau Cyngor Cymuned Bryngwran i’r Pwyllgor a gadawodd y cyfarfod yn dilyn hynny tra cynhaliwyd y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu’r Cynghorydd Kenneth P Hughes ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1 - Parc Solar Traffwll, Llanfihangel yn Nhowyn gan ei fod yn gwrthwynebu lleoli ffermydd solar ar dir amaethyddol a’i fod wedi llunio barn ymlaen llaw.   Yn dilyn cyngor cyfreithiol, gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Bu’r Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1 - Parc Solar Traffwll, Llanfihangel yn Nhowyn gan ei bod yn gwrthwynebu lleoli ffermydd solar ar dir amaethyddol a’i bod wedi llunio barn ymlaen llaw.   Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 214 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Medi, 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Medi, 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cafwyd Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 12.1.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohiro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 440 KB

7.1 – FPL/2026/34 – Ty Llwyd, Llanfaelog

FPL/2026/34

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 7.1  FPL/2026/34 – Cais ôl-weithredol i gadw'r adeilad presennol fel llety gwyliau yn Tŷ Llwyd, Llanfaelog.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n gwyro pdf eicon PDF 632 KB

10.1 – FPL/2025/258 – Marianfa, Marianglas

FPL/2025/258

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – FPL/2025/291 – Parc Solar Traffwll, Llanfihangel yn Nhowyn

FPL/2025/291

 

12.2 – FPL/2026/41 – Plas Penlan, Ffordd Bron y Felin, Llangefni

FPL/2026/41

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1 FPL/2025/291 - Cais llawn ar gyfer gosod ceblau tanddaearol sy'n gysylltiedig â Pharc Solar Traffwll ar dir yn Llanfihangel yn Nhowyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

 

12.2 FPL/2026/41 – Cais llawn i ailddatblygu’r safle i ddarparu 10 tŷ fforddiadwy a chyfleuster gofal gyda phedair ystafell wely a chyfleusterau gofal ategol ar y llawr isaf a 2 fflat hunangynhwysol ar y llawr cyntaf, ynghyd ag addasu’r fynedfa i gerbydau a gwaith cysylltiedig ym Mhlas Penlan, Ffordd Bron y Felin, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.