Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 394 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2020 yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim ymweliadau safle wedi eu cynnal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd yr un ymweliad safle.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd llythyr gyda sylwadau gan yr ymgeisydd mewn perthynas â chais 12.1 ac fe’i darllenwyd yn llawn yn y cyfarfod.

6.

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio

 

 Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd yr un cais o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

 7.1 – FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy

 

7.2 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

7.3 – FPL/2020/92 – 3 Bronallt, Ffordd Cambria, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgBp6UAF/fpl202092?language=cy

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/217 -Cais llawn i godi 17 annedd fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd i gerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir ger Stad  Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl i ddau o'r Aelodau Lleol ei alw i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i ohirio yng nghyfarfodydd y Pwyllgor ar 7 Hydref, 2020 a 4 Tachwedd, 2020 ar ôl derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn gwahardd y Pwyllgor rhag cymeradwyo'r cais hyd nes y byddai'r Gweinidog wedi penderfynu a oedd am ei alw i mewn ai peidio gan fod cais wedi'i gyflwyno i'r perwyl hwnnw. Cadarnhaodd y Swyddog mai dyna'r sefyllfa o hyd a bod yr argymhelliad felly'n parhau i fod yn un o ohirio.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

7.2 19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn mynediad a chynllun ar dir ger stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch Caergybi

 

Roedd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE wedi gwneud datganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â'r cais, ond cymerodd ran yn y drafodaeth fel aelod lleol, ond ni phleidleisiodd.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl i Aelodau Lleol ei alw i mewn.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 2 Medi, 2020 yn dilyn cadarnhad gan yr Awdurdod Priffyrdd ei fod wedi tynnu ei wrthwynebiadau i'r cais yn ôl yn amodol ar gael Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) ar gyfer  system unffordd. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2020 gwrthododd y Pwyllgor y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y Swyddog, oherwydd pryderon ynghylch effaith y cynnig ar draffig ac am na fyddai'r GRhT ar gyfer system unffordd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r problemau traffig yn yr ardal.  Dywedodd y byddai angen proses ymgynghori ar gyfer y GRhT mewn perthynas â'r system unffordd arfaethedig ac os oedd y canlyniad yn erbyn gwneud y GRhT yna ni allai'r datblygiad fynd yn ei flaen. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach fod canllawiau cynllunio yn glir na ddylai Awdurdodau Cynllunio oedi datblygiad sy'n dderbyniol gan fod y tir wedi'i ddynodi ar gyfer datblygu tai o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac y gallai amodau cynllunio a osodir ganiatáu i'r datblygiad gael ei gymeradwyo.  

 

      Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, er nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch y datblygiad ar y safle, y byddai'r system unffordd trwy Stryd Arthur  yn achosi problemau aruthrol pe bai cerbydau mawr angen mynediad.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod yn cytuno â sylwadau’r aelod lleol ac na fyddai system unffordd yn yr ardal yn datrys materion traffig. Dywedodd fod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

 

 Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd yr un yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau a Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd yr un yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd yr un yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd yr un yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 900 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2020/166 – Cais llawn i droi'r adeiladau allanol yn 4 uned wyliau yn Cymunod, Bryngwran

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan yr ymgeiswyr i gefnogi eu cais.

 

Carem roi gwybodaeth ychwanegol ger eich bron er mwyn cryfhau ein cais ac egluro'r rhesymau arbennig ar gyfer ein cynlluniau i drosi adeiladau allanol yng Nghymunod, Caergeiliog yn unedau gwyliau sy'n darparu ar gyfer pobl a phlant anabl. Cawsom ein geni a’n magu yma ym Môn. Fel teulu, rydym wedi rhedeg sawl busnes ar yr ynys dros yr 80 mlynedd ddiwethaf; Bysiau OR Jones, Llanfaethlu; Moduron Maethlu, ac yn fwy diweddar Holyhead Truck Services ym Mharc Diwydiannol Mona. Mae’r busnesau hyn yn cyflogi bron i 50 o bobl yr ynys ac mae’r ddau ohonom yn gyfarwyddwyr ar y busnesau hyn.

 

Hen ffermdy ydy Cymunod sy’n cynnwys nifer o adeiladau allanol sydd wedi dirywio dros y blynyddoedd yn sgil esgeulustod y perchnogion blaenorol. Rydym yn y broses o adnewyddu’r tŷ ac erbyn hyn yn teimlo bod angen i ni ystyried y defnydd o'r adeiladau allanol gan eu bod yn dirywio’n sydyn iawn. Creda’r ddau ohonom y byddai’n siom enfawr eu gweld nhw’n dirywio i’r graddau ble fydd yr adeiladau wedi diflannu’n gyfan gwbl. Yn seiliedig ar hyn a’n profiadau blaenorol o redeg busnesau a magu mab anabl, cawsom y syniad o geisio darparu cyfleusterau gwyliau ar gyfer pobl a phlant anabl. Mae’r syniad wedi deillio o brofiadau personol o fynd â’n mab anabl ar wyliau dros y blynyddoedd. Cafodd ein mab ei ddiagnosio gyda'r cyflwr Freidreich’s Ataxia pan oedd yn 10 oed. Mae’r anabledd yma yn gyflwr genynnol prin iawn sy'n amharu ar holl gyhyrau'r corff ac yn ddirywiol. Erbyn heddiw, mae’n 28 oed ac nid yw’n gallu gwneud dim drosto’i hun. Dros y 7 mlynedd diwethaf, mae wedi byw yn annibynnol yn ei gartref yng Nghemaes sydd wedi cael ei addasu i’w anghenion gyda gofal llawn amser.

 

Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn mynd a’n mab ar wyliau ac wrth i’w gyflwr waethygu, mae cael hyd i lety ar ei gyfer yn profi’n broses anodd iawn. Nid yw rhan fwyaf o’r gwestai rydym wedi eu defnyddio dros y blynyddoedd yn addas i’w anghenion nac yn darparu digon ar gyfer anghenion unrhyw berson gydag anabledd corfforol difrifol.

 

Yn sgil y profiadau hyn, penderfynom ein bod eisiau darparu cyfleusterau gwyliau i bobl ag anabledd difrifol. Ar ol ymchwilio sylweddolom fod gap yn y farchnad am gyfleusterau angenrheidiol hyn ar yr ynys. Bydd addasu'r fath yma o lety gwyliau yn gost ychwanegol i'r arfer oherwydd yr angen am offer arbennig, ond rydym yn fodlon buddsoddi er mwyn gallu darparu pobl anabl a’u teuluoedd gyda gwyliau braf yn y wlad a fydd yn rhoi cyfle iddynt ymlacio a mwynhau mewn lleoliad gwledig a diogel. Ein bwriad ydy creu llety gwyliau gyda adeiladau sy’n cynnwys cyfleusterau anabl gwych, gan gynnwys hoist a fydd yn hongian o’r to, a thoiled sy’n golchi a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 86 KB

13.1 – Adroddiad ar Siarad Cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1      Siarad Cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

Cyflwynwyd - adroddiad ar brotocol siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dywedodd  y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y protocol siarad cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi'i atal ar ddechrau'r pandemig Covid-19 wrth i arferion gwaith gael eu haddasu mewn ymateb i amgylchiadau newydd. Penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu i siarad cyhoeddus barhau mewn cyfarfodydd rhithwir ond trwy gyflwyniadau ysgrifenedig yn unig. Mae'r Cyngor wedi penderfynu caniatáu i gyfranogwyr siarad yn y Pwyllgorau Sgriwtini trwy ymuno â'r cyfarfod rhithwir ac mae protocol wedi'i gyhoeddi i lywodraethu'r broses hon. 

                                                                 

PENDERFYNWYD parhau gyda'r cyflwyniadau ysgrifenedig fel sy'n digwydd ar hyn o bryd a chyda'r bwriad o gyflwyno protocol ar gyfer cymryd rhan yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o fis Chwefror 2021 a rhoi pwerau dirprwyedig i'r Prif Swyddog Cynllunio (mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd) weithredu'r protocol unwaith y cadarnhawyd bod y trefniadau TG a threfniadau eraill yn foddhaol.