Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:-

 

Datganodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.3 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Eric W Jones ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.1 ar y rhaglen.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2020.

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim ymweliadau safle wedi eu cynnal.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chynhaliwyd yr un ymweliad safle ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd sylwadau gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr mewn perthynas â cheisiadau 7.2 a 11.2 a darllenwyd y sylwadau hyn yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 – 19C1231 - Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzFxcEAF/19c1231?language=cy

 

7.2 – FPL/2019/223 - Pen-Wal Bach,  Pen Lon, Niwbwrch.

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Jt1YBUAZ/fpl2019223?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod asiant yr ymgeisydd, y bore hwnnw, wedi cynnig darn o dir yn Mountain View, Caergybi i breswylwyr lleol barcio eu cerbydau ac i ymateb hefyd i bryderon priffyrdd yn yr ardal. Mae’r ymgeisydd a’r Awdurdod Priffyrdd wedi cytuno i ohirio’r cais er mwyn caniatáu trafodaethau pellach ar y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD gohirio gwneud penderfyniad ar y cais am y rhesymau a roddwyd yn y cyfarfod.

 

7.2  FPL/2019/223 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i fod yn faes gwersylla pebyll tymhorol ar dir ger Pen-Wal Bach, Pen Lon, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Adroddwyd y derbyniwyd llythyr yn gwrthwynebu’r cais gan Mr Richard Wyn Owen ar ran cymuned Pen Lon. Darllenwyd y llythyr yn y cyfarfod fel a ganlyn:-

 

‘Mae cymuned Pen Lon yn gwrthwynebu’n gryf y cais cynllunio uchod i newid defnydd y cae amaethyddol presennol i fod yn faes gwersylla. Mae’r Adran Gynllunio wedi derbyn dros 30 o lythyrau yn gwrthwynebu’r cynnig a derbyniwyd deiseb yn gwrthwynebu’r cais cynllunio hefyd gyda 46 o enwau arni. Mae Pen Lon yn bentrefan gwledig tawel sy’n adnabyddus am ei dawelwch. Mae safle’r cais wedi’i leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Llynedd, defnyddiodd perchnogion y tir y tir ar gyfer pebyll dan y rheol cynllunio dros dro 28 diwrnod. Methodd yr ymgeiswyr â chydymffurfio â’r rheol dros dro 28 diwrnod, gan ddefnyddio’r tir am dros 60 diwrnod. Roedd y sŵn o’r safle’n anhygoel a gellid clywed cerddoriaeth uchel, gweiddi a phobl yn yfed yn dod o’r safle rhwng 2 a 3 o’r gloch y bore. Roedd y traffig ychwanegol a gynhyrchwyd gan y maes pebyll y llynedd ar y lôn gul, ddi-ddosbarth gan y maes pebyll yn anhygoel. Mae’r cais cynllunio a gyflwynwyd yn datgan y bydd ceir yn cael mynediad i’r safle o’r briffordd ac yn gadael ar y lôn ddi-ddosbarth sydd union gyferbyn â’r eiddo o’r enw ‘Rushmead’. Mae lleoliad y safle hwn yn golygu y bydd pobl yn ddibynnol ar geir preifat i deithio gan nad oes cludiant cyhoeddus yn yr ardal. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar fwynderau’r eiddo hwn gan y bydd llif cyson o draffig yn gadael y safle, ynghyd â goleuadau prif lampau ceir yn y nos.

 

Yn ddamcaniaethol, fel enghraifft, os bydd 30 o wersyllwyr ar y safle ar unrhyw adeg, bydd hyn yn cynhyrchu hyd at 90 o deithiau mewn cerbydau bob dydd ar y lôn gul, ddi-ddosbarth, o ganlyniad i wneud nifer o deithiau bob dydd i’r siopau / y traeth / atyniadau lleol a theithiau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 2 MB

10.1 – VAR/2020/14 - Neuadd, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6rguUAB/var202014?language=cy

 

10.2 – 18C223M/VAR – Caerau, Llanfairynghornwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G5800000HzHJ6EAN/18c223mvar?language=cy

 

10.3 – VAR/2020/15 – Tithe Barn, Henblas, Bodorgan

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6snOUAR/var202015?language=cy

 

10.4 –VAR/2020/28 - Garreg Fawr, Lôn Garreg Fawr, Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffCLUAZ/var202028?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2020/14 – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (Cynlluniau wedi’u Cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2019/9 (Newid yr adeilad allanol i annedd) er mwyn newid deunydd y to o baneli metel i lechi yn Neuadd, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gwneir y cais dan Adran 73 mewn perthynas â newid y deunydd to a gymeradwywyd o fetel i lechi naturiol. Ystyrir fod y newid hwn yn dderbyniol ac y bydd yn welliant cyffredinol i’r cynllun a gymeradwywyd. Fodd bynnag, ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, caniateir trosi adeiladau traddodiadol i’w defnyddio fel eiddo preswyl dim ond os oes tystiolaeth na fyddai’n bosib defnyddio’r adeilad ar gyfer cyflogaeth a’i fod yn darparu uned fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Mae’r cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli i drosi’r adeilad allan yn annedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwy ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  18C223M/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) (manylion draenio) a (06) (manylion man pasio) o ganiatâd cynllunio rhif 18C223C (newid adeiladau allanol yn 8 bwthyn gwyliau) er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar ôl dechrau datblygiad yn Caerau, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn groes i Bolisi TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Fodd bynnag, y sefyllfa wrth gefn yw bod digon o amser ar ôl i weithredu’r caniatâd ac mae ymgyngoreion perthnasol yn ystyried bod y manylion a gyflwynwyd yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig

 

10.3  VAR/2020/15 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (03) (bydd y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 36C49H (Newid defnydd ysgubor yn annedd, addasu ac ymestyn yr hen fwthyn diffaith a’i newid yn garej ynghyd â gosod tanc septig) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Tithe Barn, Henblas, Bodorgan.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  HHP/2020/82 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu, codi anecs ynghyd ag estyniad i’r cwrtil yn Erw Goch, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol ac yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Ar ôl datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Eric W Jones y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio - Amgylchedd Adeiledig a Naturiol, y bydd yr estyniad arfaethedig i’r eiddo’n darparu anecs ar ran gogleddol a dwyreiniol yr annedd bresennol ac yn golygu ymestyn y cwrtil presennol i’r cae cyfagos y mae’r ymgeiswyr yn berchen arno. Er mwyn lliniaru effaith colli gwrych, bydd rhaid i’r datblygwr gyflwyno cynllun plannu ac wedyn rheoli’r gwrych newydd fydd yn sgrinio i leihau unrhyw effaith weledol ac yn darparu buddion bioamrywiaeth. Cyflwynwyd cynllun rheoli traffig gyda’r cais sy’n cadarnhau y trefnir bod nwyddau’n cael eu danfon i’r safle rhwng 9.00am a 3.00pm er mwyn osgoi amseroedd pan fo plant yn cyrraedd a gadael yr ysgol gynradd gyfagos. Y bwriad yw i’r ymgeiswyr symud i fyw i’r anecs arfaethedig ac y byddai eu merch a’i theulu’n symud i’r brif annedd. Mae gan wyres yr ymgeisydd anghenion arbennig ac mae’r ymgeiswyr yn cynorthwyo i ddarparu gofal bob dydd iddi ac yn cynorthwyo rhieni’r plentyn. Mae dyluniad a lleoliad y datblygiad yn dderbyniol dan bolisïau cynllunio ac mae’n debyg o ran maint i’r eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y Cyngor Cymuned lleol yn cefnogi’r cais a chynigiodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  OP/2019/17 – Cais amlinellol ar gyfer codi 30 annedd yn cynnwys manylion llawn y gosodiad a’r fynedfa yn Tre Angharad, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion ym mharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Darllenwyd llythyr gan asiant yr ymgeisydd yn cefnogi’r cais, fel a ganlyn:-

 

‘Mae’r cynnig yma yn gais amlinellol ar gyfer codi 30 annedd ynghyd â manylion y fynedfa i’r safle sydd wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Bodedern ac yn rhan o ddyfarniad tai T33 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Bydd chwech o’r anheddau arfaethedig yn gartrefi fforddiadwy ac mae’r Gwasanaeth Tai wedi cadarnhau eu bod yn diwallu’r angen a nodwyd. Yn ogystal â’r angen cyffredinol am dai fforddiadwy, trefnodd Hwylusydd Tai Gwledig y Cyngor ddigwyddiad ym Modedern ar 29 Ionawr 2020 fel rhan o arolwg o’r angen am dai fforddiadwy yn y pentref. Galwodd nifer o drigolion lleol yn y digwyddiad ac fe wnaethant gadarnhau bod galw sylweddol am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – VAR/2020/37 -  Clwb a Siop, Canolfan Hamdden Cae Annar, Ffordd Kingsland, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgBnKUAV/var202037?language=cy

 

12.2 – VAR/2020/24 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000IwgyiUAB/var202024?language=cy

 

12.3 – FPL/2020/29 – 24 – 99 Maes Llwyn, Amlwch

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000M6rh9UAB/fpl202029?language=cy

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1   VAR/2020/37 - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) o ganiatâd cynllunio rhif 19C845J/VAR (lleoli clwb a siop dros dro) ar gyfer adnewyddu’r caniatâd am 5 mlynedd arall yn y Tŷ Clwb a Siop y Clwb, Canolfan Hamdden Cae Annar, Ffordd Kingsland, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i’r Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer ymestyn y caniatâd ar gyfer lleoli’r portacabin a gymeradwywyd eisoes am 5 mlynedd arall. Mae’r caban presennol wedi’i leoli ar dir y clwb pêl droed. O dan y caniatâd cynllunio presennol bydd rhaid symud y caban oddi ar y safle erbyn 31 Gorffennaf, 2021. Ystyrir bod y cais yn cydymffurfio â gofynion Polisi ISA2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sydd yn annog cyfleusterau cymunedol. Ychwanegodd y dylai cywiriad i ddyddiad amod (01) yn yr adroddiad ysgrifenedig ddarllen ‘adfer y tir i’w gyflwr blaenorol erbyn 30/9/2025’.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

PENDERFYNWYD caniatau’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u rhestru yn yr adroddiad, ynghyd â chywiriad i’r dyddiad yn amod (01) a ddylai ddarllen ‘adfer y tir i’w gyflwr blaenorol erbyn 30/9/2025).

 

12.2  VAR/2020/24 – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) (Terfyn Amser) o gais 27C106E/FR/ECON (Cais llawn i wella’r briffordd gyfredol (yr A5025) rhwng y gyffordd ar yr A5 i’r dwyrain o’r Fali i’r Gyffordd wrth y Ffordd Fynediad i’r Orsaf Bŵer arfaethedig mewn wyth o leoliadau ar wahân ynghyd ag ailadeiladu a lledu’r pafin presennol a’r gorffenwaith ar yr arwynebedd mewn mannau, gweithredu compownd adeiladu dros dro gan gynnwys cyfleuster dros dro ar gyfer ailgylchu pafinau, creu dau bwll teneuo a mynedfa ar gyfer cynnal a chadw, creu llwybrau beicio a gwyro rhai eraill am gyfnod dros dro, creu cyfleusterau parcio eraill yn sgil colli culfan ,ynghyd â gwaith cysylltiedig arall gan gynnwys draenio, trin ffiniau, plannu, gosod arwyddion newydd a marciau ffordd) er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am dair blynedd arall (hyd at 13 Gorffennaf 2023) ar hyd yr A5024 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i Orsaf Bŵer Cemaes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn berchen arno.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cynnig ar gyfer amrywio Amod (01) cais cynllunio 7C106E/FR/ECON i ymestyn cyfnod gweithredu’r datblygiad am 3 blynedd arall (hyd at 13 Gorffennaf, 2023). Gohiriwyd Prosiect Wylfa Newydd ar 17 Ionawr, 2019 ac o’r herwydd nid yw’r ymgeisydd wedi gallu gweithredu’r caniatâd cyn iddo ddod i ben ar 13 Gorffennaf 2020. Disgwylir i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wneud penderfyniad ar Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) Wylfa Newydd ar 30 Medi 2020. Os caniateir y DCO ar 30 Medi, 2020, bydd gan yr ymgeisydd 6 mlynedd i weithredu’r caniatâd. Mae Strategaeth Fesul  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.