Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 10fed Chwefror, 2021 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiadau o ddiddordeb gan y canlynol :-

 

Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.6 – Parc Garreglwyd, South Stack Road, Caergybi a gadawodd y cyfarfod tra bod aelodau’r cyfarfod yn trafod a phleidleisio ar y mater.

 

Bu i’r Cynghorydd T Ll Hughes MBE ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.6 – Parc Garreglwyd, South Stack Road, Caergybi a gadawodd y cyfarfod tra bod aelodau’r cyfarfod yn trafod a phleidleisio ar y mater.

 

Bu i’r Rheolwr Rheoli Datblygu ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yng nghais 11.1 – Parciau, Llanddaniel a gadawodd y cyfarfod tra bod y mater yn cael ei drafod.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 333 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod rhithiol blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2021. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021 yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 190 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle rhithiol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2021 yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni fu unrhyw siarad cyhoeddus.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un cais ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a

Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 628 KB

7.1 – FPL/2020/150 – Lôn Newydd, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiHp3UAF/fpl2020150?language=cy

 

7.2 – FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2020/150 – Cais Llawn i godi 9 annedd ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir yn Stryd y Bont, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd ymwelwyd rhithwir â'r safle ar 20 Ionawr 2021. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod hwn yn gais ar gyfer 9 annedd ynghyd â datblygiad cysylltiedig.  Dywedodd na fu unrhyw wrthwynebiadau i'r cais gan eiddo cyfagos fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus a bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig sy'n cynnwys cynllun tirweddu ynghyd â chreu 4 lle parcio i Ganolfan Ebenezer.  Yr argymhelliad yw caniatáu’r cais yn amodol ar gytundeb cyfreithiol adran 106 sy'n ymwneud â thai fforddiadwy. 

 

Dywedodd y Cadeirydd ac Aelod Lleol ei bod wedi galw'r cais i mewn oherwydd pryderon lleol ond mae'n fodlon bod ymgynghori digonol wedi’i gynnal â'r preswylwyr lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatau'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd ynddo.

 

7.2  FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir gerllaw Ystâd Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â'r safle ar 20 Ionawr 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts Aelod Lleol ei bod yn gefnogol i dai fforddiadwy mewn egwyddor gan fod pobl leol yn aml yn cael eu prisio allan o'u cymunedau eu hunain ond bod safle’r cais hwn wedi'i leoli ar dir corsiog gwlyb sy'n hanfodol i gynefin bywyd gwyllt.  Dywedodd  fod y datblygiad hwn hefyd y tu allan i ffin Benllech ac y bydd y cynnig hwn yn creu traffig ychwanegol a gorddatblygu o amgylch Benllech, yn ychwanegol at y datblygiad a ganiatawyd yn flaenorol yn yr ardal.  Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod yr ysgol leol yn agos at ei chapasiti ar hyn o bryd gyda dim ond 11 lle sbâr ar gael. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams Aelod Lleol mai ei wrthwynebiad ef i'r cais yw bod y safle wedi'i leoli o fewn ardal AHNE ac mewn parth bywyd gwyllt lleol a chyfeiriodd at bolisi cynllunio AMG 6 – diogelu safleoedd o arwyddocâd rhanbarthol neu leol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sy'n nodi y gwrthodir safle sy'n achosi niwed uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r safle bywyd gwyllt lleol neu safleoedd demograffig rhanbarthol.  Oni ellir profi bod angen amgylcheddol a/neu economaidd cymdeithasol pennaf am y datblygiad ac nad oes unrhyw safleoedd addas eraill a fyddai'n osgoi cael effaith andwyol ar safleoedd o natur leol neu werth cadwraeth neu bwysigrwydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a

Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a

Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 247 KB

10.1 – VAR/2020/60 – Ty Newydd, Llanfair yn Neubwll

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NA2fmUAD/var202060?language=cy

 

10.2 – FPL/2020/249 – Tyddyn Orsedd, Rhoscefnhir

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NB2X8UAL/fpl2020249?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2020/60 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (08 )(Cynllun tirweddu) a (09)(Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 32C128F (Codi annedd) er mwyn caniatáu dyluniad diwygiedig a chyflwyno cynllun tirweddu ar ôl i’r gwaith ddechrau ar dir yn Nhŷ Newydd, Llanfair yn Neubwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod rhan o'r annedd a'i gwrtil wedi'u lleoli y tu allan i ffin yr anheddiad a ddiffinnir o dan ddarpariaethau polisi PCYFF1 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a’i fod felly'n gwyro oddi wrth y cynllun datblygu presennol.  O ystyried bod caniatâd cynllunio ar gael ar gyfer annedd breswyl ar y safle, nid yw'n arwain at argymhelliad i wrthod yn unol â darpariaethau polisi PCYFF1.   Dywedodd hefyd nad yw'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 11 Chwefror, 2021 a gofynnodd i'r Swyddogion gael y pŵer i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus os na ddaw unrhyw sylwadau newydd i law.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi pŵer i'r Swyddog weithredu ar ôl i'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

10.2  FPL//2020/249 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio’r dyluniad a’r gosodiad a ganiatawyd o dan gais cyfeirnod 42C258A) ar dir y tu cefn i Dyddyn Orsedd, Rhoscefnhir

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn y dylid ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod gan y cais ganiatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes ac ystyrir y byddai'r diwygiadau i'r dyluniad yn welliant i'r cais a ganiatawyd yn flaenorol.  Bu gwrthwynebiad i'r cais gan drigolion lleol oherwydd hawliau preifat o ran draenio dŵr wyneb ond materion cyfreithiol y tu allan i'r cylch gwaith cynllunio yw'r rhain a byddai angen dod i gytundeb ynglŷn â’r rhain cyn datblygu'r safle.  Mae angen diwygio Amod 1 yn yr adroddiad i adlewyrchu y bydd y datblygiad yn dechrau erbyn 8 Rhagfyr 2022 fan bellaf gan fod gan y safle ganiatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn ddarostyngedig i’r amodau cynllunio sydd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac y dylid diwygio Amod 1 yn yr adroddiad i adlewyrchu y bydd y datblygiad yn dechrau erbyn 8 Rhagfyr 2022 fan bellaf oherwydd y sefyllfa wrth gefn gan fod gan y safle ganiatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes.

 

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  MAQ/2020/29 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2020/73 er mwyn diwygio dyluniad ynghyd â dileu amod (08) (draenio mewn perthynas â phriffyrdd) yn Parciau, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeiswyr yn swyddogion perthnasol.  Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad. 

 

Ar ôl datgan ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod a phleidleisio ar y mater.

 

Adroddodd y Rheolwr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol Cynllunio y bydd y cais hwn yn gwneud mân newidiadau i'r datblygiad a ganiatawyd ym mis Awst 2020.  Mae'r newidiadau'n cyfeirio at newid y ffenestri ar y stydi ar ddrychiad blaen y llawr gwaelod, drwy ddod â’r ffenestri yn unionlin â’r drychiad blaen, ac yn hytrach na drws deublyg, mae'r gwydrau'n cael eu newid am ffenestr gyda dyluniad mwy confensiynol gydag un drws gwydr yn agor.  Yn ogystal â hyn, mae'r ymgeiswyr am ddileu amod 8 yn y cais a ganiatawyd yn flaenorol o ran dŵr wyneb o fewn cwrtil y safle ac mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau bod dileu'r amod yn dderbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

11.2  VAR/2020/74 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (06) o ganiatâd cynllunio rhif 45C83E (addasu’r gweithdy presennol yn dri annedd) er mwyn ychwanegu 2 borth yn Nhre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol.  Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad.  Mae'r cais yn gwyro oddi wrth y cynllun datblygu y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer amrywio amod (06) caniatâd cynllunio 45C83E i ganiatáu ychwanegu 2 borth o flaen yr anheddau.  Dywedodd nad oedd gwrthwynebiad i'r cais gan yr ymgyngoreion statudol na thrigolion lleol ond ei fod yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor gan ei fod yn groes i bolisi cynllunio TAI 7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Dywedodd hefyd nad yw'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 18 Chwefror, 2021 a gofynnodd i'r Swyddog gael y pŵer i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus os na ddaw unrhyw sylwadau newydd i law.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dafydd Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi pŵer i'r Swyddog weithredu ar ôl i'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1 – OP/2020/6 Tir ger Stâd Roebuck, Llanfachraeth

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffC6UAJ/op20206?language=cy

 

12.2 – FPL/2020/264 –Yr Hen Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBhcKUAT/fpl2020264?language=cy

 

12.3 – FPL/2020/195 – Caffi Sea Shanty, Lon St Ffraid, Bae Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Mj7sXUAR/fpl2020195?language=cy

 

12.4 – HHP/2020/302 – 38 Lon Conwy, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBi1uUAD/hhp2020302?language=cy

 

12.5 – MAO/2020/31 – Bryn Meurig, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBevhUAD/mao202031?language=cy

 

12.6 – FPL/2020/258 – Parc Garreglwyd, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBCOPUA5/fpl2020258?language=cy

 

12.7 – VAR/2020/66 – Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAksnUAD/var202066?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  OP/2020/6 – Cais amlinellol ar gyfer adeiladu 31 o anheddau preswyl newydd yn cynnwys manylion llawn am ffordd ystâd newydd ar dir gerllaw Ystâd Roebuck, Llanfachraeth

 

Tynnwyd y cais yn ôl.

 

12.2  FPL/2020/264 – Cais llawn ar gyfer codi 8 uned fusnes (Dosbarth B1, B2 a B8),  ardloedd tirweddu meddal a chaled ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir yn hen Safle Heliport, Ystâd Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi

 

Tynnwyd y cais yn ôl.

 

12.3  FPL/2020/195 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yng Nghaffi Sea Shanty, Lôn St Ffraid, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r ymgeisydd ynglŷn â materion lliniaru ac ecolegol ynghyd â cholli ardaloedd twyni tywod a’r effaith bosibl ar fadfallod. Dywedodd fod Ymgynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol y Cyngor wedi bod mewn trafodaethau gyda'r ymgeisydd ynglŷn â symud rhai o'r twyni tywod gan fod rhwymedigaeth statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth; fodd bynnag, nid yw'r ymgeisydd yn berchen ar dir digonol i fodloni'r meini prawf.  Mae'r ymgeisydd wedi cynnig cynigion lliniaru o dan y decin ar y safle ond nid yw'r Cynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol o'r farn bod y mesurau hynny'n briodol nac yn effeithiol o ran y cais hwn.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, oherwydd y gwrthwynebiad fel y nodwyd gan y Cynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol, mai'r argymhelliad bellach yw gwrthod y cais a bydd angen gohirio'r cais er mwyn caniatáu i Swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith ohirio'r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4  HHP/2020/302 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 38 Lôn Conwy, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer addasiadau ac estyniadau i'r annedd gan gynnwys codi ystafell haul newydd ac ardal batio newydd yng nghefn yr eiddo.  Cafodd y cais ei alw i mewn i'r Pwyllgor gan aelod lleol oherwydd pryderon ynghylch goredrych a cholli preifatrwydd i erddi cyfagos.  Dywedodd fod elfen sylweddol o oredrych i erddi cyfagos eisoes gan fod y teras presennol yn uwch a bwriedir gosod amod i ddarparu sgrinio ar ddwy ochr yr ardd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  MAO/2020/31 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/7 (Codi ysgol gynradd) er mwyn newid y cladin a thynnu 2 ystafell ddosbarth ar dir gyferbyn i Fryn Meurig, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai'r Cyngor Sir yw'r ymgeisydd.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a

Gorchmynion.