Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol mewn perthynas â chais 7.3 ar yr agenda.

 

Bu i’r Cynghorydd Robin Williams ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.1 ar yr agenda.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod rhithiol blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 430 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio rhithiol a gynhaliwyd ar 26 Ionawr, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 26 Ionawr, 2022 yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.3.

 

6.

Ceisidau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 - FPL/2021/136 – Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKf7JUAT/fpl2021136?language=cy

 

7.2 – FPL/2021/302 - Bunwerth, Bae Trearddur, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbN4uUAF/fpl2021302?language=cy

 

7.3 – FPL/2021/304 - The Lodge, Capel Bach, Rhosybol

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbNP3UAN/fpl2021304?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/136 – Cais llawn ar gyfer addasu adeilad allanol yn llety gwyliau ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i 'swyddog perthnasol' fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor.  Craffwyd ar y cais gan Swyddog Monitro'r Cyngor fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2021, penderfynodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir â safle’r cais.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â'r safle ar 15 Rhagfyr, 2021.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2022, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd bod y datblygiad yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio PCYFF 1, PCYFF 2 a PCYFF 3 ac ystyriwyd na fyddai'r datblygiad yn arwain at orddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal.  Roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu yn awyddus i gofnodi bod fersiwn Gymraeg yr adroddiad yn nodi bod y cais wedi'i wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog yn hytrach na bod y cais wedi'i gymeradwyo’n groes i argymhelliad y Swyddog. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, ei bod yn ailadrodd ei sylwadau fel yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn bod y cais ar gyfer trosi adeilad allanol yng nghefn yr eiddo ar gyfer uned wyliau un ystafell wely.  Mae lleoliad yr adeilad allanol o fewn cwrtil yr ymgeisydd ac mae digon o le parcio i ddarparu ar gyfer datblygiad o'r fath.  Gofynnodd i'r Pwyllgor ailddatgan ei benderfyniad i gymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle'n gynaliadwy o fewn y pentref ac nad yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi codi unrhyw bryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y safle ac yn cytuno bod y safle mewn lleoliad addas, fodd bynnag, dim ond un ystyriaeth yw hon ar gyfer ystyried y datblygiad.  Dim ffactorau cynllunio eraill yn erbyn y cynnig – fel pryderon traffig.  Rhaid i gynigion datblygu fod yn dderbyniol gan roi sylw i holl bolisïau perthnasol y cynllun datblygu ac ystyriaethau cynllunio perthnasol.  Ni fydd datblygiad sy'n groes i bolisi neu faen prawf polisi penodol o reidrwydd yn dderbyniol dim ond am y gallai gydymffurfio â pholisïau perthnasol eraill.  Mae effeithiau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ar gymunedau yn hynod o ddadleuol a sensitif ar hyn o bryd, sydd wedi dwysáu ymhellach ers dechrau'r Pandemig; ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth a pholisi cynllunio newydd i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol perchnogaeth ail gartrefi a gwyliau tymor byr.  Yn y cyfarfod diwethaf, cyfeiriodd yr Aelodau at y ffaith fod y ddarpariaeth bresennol o 18.47% ond ychydig yn uwch na'r trothwy o 15% a gynhwysir yn y CCA ac mai dim ond datblygiad bach o un uned wyliau un ystafell wely yw hon a fyddai ond yn gynnydd bach yn y ddarpariaeth gyffredinol ac na fyddai'n cael effaith sylweddol nac yn tanseilio amcan polisi.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ohonynt ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un ohonynt ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 FPL/2021/335 – Cais llawn am ddiwygiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol i gynnwys addasiadau ac estyniadau i Gwm Deri, Dulas

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae'n un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr egwyddor o ddatblygu'r safle eisoes wedi'i sefydlu o dan gais cynllunio 44C34A lle rhoddwyd caniatâd i addasu adeiladau allan yn bedwar annedd yn 1993.  Mae caniatâd cynllunio wedi'i ddiogelu gan fod rhai o'r unedau ar y safle wedi'u cwblhau.  Y cynnig yw ychwanegu estyniad i ddrychiad blaen adeilad allan a newid y ffenestri ar y drychiad ochr.  Mae'r adeilad allanol presennol yn mesur 65 metr sgwâr, mae'r estyniad ond yn cyfateb i 19.24 metr sgwâr sydd, tua 29% yn gynnydd.  Er bod y CCA ar gyfer Addasu Adeiladau Gwledig yng Nghefn Gwlad yn nodi na ddylid ailadeiladu mwy na 10% o'r adeiladau allan, wrth ystyried y cynllun addasu yn ei gyfanrwydd ar gyfer y 4 adeilad allanol, ystyrir bod y cynnydd o 29% yn dderbyniol.   Cyflwynwyd arolwg strwythurol gyda'r cais cynllunio sy'n nodi bod waliau presennol yr adeilad presennol yn addas i gynnal strwythur y to. Ystyrir bod y newidiadau i ddeunydd y ffenestri yn dderbyniol gan fod y deunydd o ansawdd uchel a’u bod yn ffenestri o fath cadwraeth lliw llwyd tywyll sy’n efelychu ffenestri pren traddodiadol..  Dywedodd hefyd nad yw'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 2 Chwefror, 2022 a gofynnodd i'r Swyddogion gael pŵer i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus os na chafwyd unrhyw sylwadau newydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo cymeradwyo’r cais i Swyddogion ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 722 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1      MAH/2022/1 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio HHP/2021/315 (Addasu ac Ehangu) er mwyn diwygio dyluniad arfaethedig yn 37 Penlon, Porthaethwy

 

(Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, ni chymerodd y Cynghorydd Robin Williams ran yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais mae o law).

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn 'swyddog perthnasol' fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o'r Cyfansoddiad.    Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o'r Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer mân ddiwygiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio HHP/2021/315.  Y gwelliannau a gynigir yw newid edrychiad gwydr y ddau ddrws gwydr ar y drychiad Deheuol; cael gwared ar ddrws presennol y gegin a chau’r bwlch yn hytrach na gosod gwydr uchder llawn yn y

Blwch a gwneud y ffenestr bresennol yn llai, sydd bellach yn y lolfa, lleihau maint y llusern arfaethedig a newid y drysau deublyg arfaethedig i ddrysau llithro.  Ystyrir bod y newidiadau yn rhai ansylweddol. Ni fyddai graddfa’r newid arfaethedig yn cael effaith sy’n wahanol i’r hyn a achosir gan y caniatâd gwreiddiol. Ni fyddai’r cynnig yn arwain at effaith andwyol naill

ai’n weledol nac o ran amwynder lleol, ni fyddai’n creu anfantais i drydydd parti ac ni fyddai’r cynnig yn gwrthdaro â pholisïau cenedlaethol neu bolisïau’r cynllun datblygu.  Ystyrir bod y cais yn ansylweddol ac felly ei fod yn cael ei gymeradwyo o dan Adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei gymeradwyo, rhoi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth ychwanegu at, dileu neu newid/amrywio unrhyw amod(au) cyn rhoi’r caniatâd cynllunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – FPL/2021/158 - Tir ger Lon Y Bryn, Bae Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKwL1UAL/fpl2021158?language=cy

 

12.2 – FPL/2021/310 - Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbS2rUAF/fpl2021310?language=cy

 

12.3 – FPL/2021/289 - Ysgol Uwchradd Caergybi, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Qb9GHUAZ/fpl2021289?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 FPL/2021/158 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Lôn y Bryn, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Bae Trearddur yn cael ei ddyrannu fel pentref gwledig/arfordirol o dan bolisi TAI 5 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sy'n cefnogi codi tai fforddiadwy a thai marchnad leol ar yr amod bod maint yr unedau yn cydymffurfio â'r uchafswm diffiniedig ar gyfer y math penodol o uned a gynigir a bod trefniadau digonol ar gael i gyfyngu ar feddiannaeth unrhyw dŷ marchnad lleol.  Yr uchafswm maint a nodir o dan y polisi ar gyfer eiddo 3 ystafell wely, deulawr yw 100m2 o ofod llawr; mae gan y cynnig arwynebedd llawr o 100m2 a bydd ei ddefnydd yn cael ei gyfyngu i'r defnydd o gytundeb cyfreithiol S106.  Bwriedir i'r annedd gael ei meddiannu gan yr ymgeisydd ac mae gwybodaeth yn cael ei hasesu ar hyn o bryd mewn perthynas â chymhwysedd yr ymgeisydd am dŷ marchnad lleol.  Mae tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi byw yn yr ardal leol ers 2014, ond os nad yw'r ymgeisydd yn gymwys i breswylio yn yr eiddo, bydd ar gael i eraill mewn angen lleol.  Bydd hyn yn cael ei sicrhau gan gytundeb cyfreithiol Adran 106.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach at y cyflenwad tai dangosol ar gyfer Bae Trearddur fel yr amlinellwyd yn adroddiad y Swyddog Cynllunio.  Dywedodd hefyd fod datganiad wedi'i ddarparu gan asiant tai lleol yn cefnogi’r cais ac mae’n rhoi sicrwydd bod angen lleol yn bodoli eisoes ar gyfer yr eiddo, a’i fod felly’n cydymffurfio â’r polisi ac nad yw’r datblygiad yn un hapfasnachol.  Mae'r annedd arfaethedig yn eiddo deulawr sy'n cynnwys 3 ystafell wely a lle byw ar y llawr cyntaf.  Un o'r materion allweddol a godwyd fel rhan o'r cyhoeddusrwydd oedd dyluniad yr eiddo a'r effaith ar amwynder yr eiddo cyfagos.  Mae'r annedd, sydd wedi'i chyfyngu o ran ei maint oherwydd defnydd y farchnad leol, wedi'i lleoli i'r gogledd-orllewin o'r plot er mwyn sicrhau’r pellter angenrheidiol fel y nodir yng nghanllaw dylunio canllawiau cynllunio atodol yr awdurdod lleol rhwng ffiniau a ffenestri'r eiddo gerllaw.  Felly, ni ellir ystyried bod y cynnig yn arwain at effeithiau ar amwynder gerllaw i'r fath raddau y byddai’n cyfiawnhau gwrthod y cais.  Roedd nifer o’r llythyrau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r  cais yn codi pryder hefyd y byddai’r cynllun yn gorddatblygu’r safle ac y byddai’r datblygiad yn gyfyng.  Arwynebedd gardd yr annedd yw 92m2 fel y nodir ar y cynllun safle arfaethedig.  O dan y Canllawiau Cynllunio Atodol - Canllawiau Dylunio, rhoddir canllawiau

mewn perthynas â’r ardal amwynder a argymhellir ar gyfer eiddo, a’r argymhelliad yw 30m2 o ofod siâp rhesymol ynghyd â lle ychwanegol ar gyfer lein ddillad a siediau ac ati. Mae’r ardal yn mesur 92m2 ac  felly mae’r cynnig yn darparu digonedd o ardal amwynder sy’n llawer mwy na’r hyn y gofynnir amdano yng nghanllawiau cynllunio atodol yr awdurdod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 441 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 13.1 SCR/2021/72 – Barn sgrinio ar gyfer gwaith amddiffyn rhag llifogydd arfordirol yn Nhraeth Coch, Pentraeth

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er gwybodaeth yn unig.  Yn dilyn cais a gyflwynwyd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn am Farn Sgrinio ynghylch a oedd angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â chynigion ar gyfer gwaith amddiffyn rhag llifogydd arfordirol yn Nhraeth Coch, penderfynwyd nad oes angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.  Cyhoeddwyd y Farn Sgrinio ar 22 Ionawr, 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth yn unig.