Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Iau, 7fed Mehefin, 2018 10.15 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Gadeirydd.

2.

Etholiad Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yn Is-gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 17 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Mawrth, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth, 2018.

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei datgelu a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

6.

Apwyntio Staff

Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo

 

Cyflwyno adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo

 

Cafwyd adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr ar y swydd uchod.

 

PENDERFYNWYD hysbysebu’r swydd uchod yn fewnol ac yn allanol.