Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Iau, 2ail Awst, 2018 9.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd R A Dew ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 o ganlyniad i’r ffaith ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr a oedd wedi cyflwyno cais hwyr ac fe adawodd yr ystafell yn ystod y drafodaeth am y ceisiadau hwyr.  Yn dilyn penderfyniad i beidio ag ystyried y ceisiadau hwyr, bu’r Cynghorydd R A Dew gymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlas a ddilynodd.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 17 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Gorffennaf, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfafod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2018 fel cofnod cywir. 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiad’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copȉau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a’r ffurflenni cais ynghlwm. 

Cofnodion:

Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo

 

Derbyniwyd 2 gais ar gyfer y swydd yn ogystal â 2 gais hwyr.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD y dylai 1 ymgeisydd fynd ymlaen i gam nesaf y broses benodi.