Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Iau, 30ain Mai, 2019 8.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Gadeirydd.

2.

Ethol Is-gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yn Is-gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 22 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Mawrth, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2019.

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

6.

Apwyntio Staff

Cyflwyno adroddiad llafar gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad llafar gan y Swyddogion ar y strwythur Uwch Reolwyr.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Y bydd diweddariad ar ganlyniad y broses mewn perthynas â’r strwythur Uwch Reolwyr yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Panel Penodiadau a gynhelir ar 25 Mehefin, 2019;

·           Cytunwyd ymhellach y byddai dwy swydd wag yn yr ail-strwythuriad yn cael eu hysbysebu’n fewnol i’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan yr ail-strwythurol yn y lle cyntaf, a hynny’n unol â Pholisi’r Cyngor.  Oni cheir unrhyw geisiadau llwyddiannus, bydd unrhyw swyddi sydd ar ôl yn cael eu hysbysebu’n allanol.