Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 18 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 10 Ionawr, 2020.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2020.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno.”

 

 

 

4.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Lle, Llesiant a Chymunedol

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol

 

Derbyniwyd 3 chais am y swydd uchod.

Adroddodd y Prif Weithredwr fod y swydd wedi'i hysbysebu'n fewnol ac yn allanol am gyfnod o ddeunaw diwrnod. Bydd deilydd y swydd yn aelod o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a disgwylir iddo / iddi gyfrannu at nod y Cyngor o wella'n barhaus ac i darparu arweinyddiaeth, gweledigaeth a chyfeiriad strategol i'r Cyngor gyflawni ei flaenoriaethau a’i amcanion corfforaethol. Bydd swydd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol yn arwain y rhaglen cynllunio lle trwy gydlynu swyddogaethau llesiant economaidd, amgylcheddol, twristiaeth a chymunedol, gan ysbrydoli llesiant, gwytnwch ac ymgysylltiad cymunedol fel y gellir datblygu cynlluniau llesiant lleol.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod y swydd yn rôl arweinyddiaeth a strategol mewn gwasanaeth mawr yn yr Awdurdod.

Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o'r 3 chais a dderbyniwyd am y swydd ac argymhellwyd ailhysbysebu’r swydd. Roedd hi o'r farn y dylid parhau â rôl bresennol y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro a'r dyletswyddau ychwanegol a gyflawnir gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r Rhaglen Cynllunio Lleoedd ac y dylid ailhysbysebu’r swydd Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol ym Mehefin 2020.

Roedd Aelod o'r Pwyllgor o'r farn y dylid ymestyn y cyfnod hysbysebu am gyfnod o fis. Nododd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid nad yw hysbysebu swyddi am fis yn drefn arferol a fabwysiadwyd gan weithwyr proffesiynol yn y maes AD ​​ond pe bai'r Pwyllgor yn dymuno hysbysebu’r swydd am fis yna roedd modd gwneud hynny. Nodwyd hefyd na chafwyd unrhyw gostau hysbysebu oherwydd i'r swydd gael ei hysbysebu ar-lein.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      ailhysbysebu’r swydd Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol ym mis Mehefin 2020;

·      y bydd swydd bresennol y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro a'r dyletswyddau ychwanegol a gyflawnir gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn perthynas â'r Rhaglen Cynllunio Lleoedd yn parhau nes bod swydd y Cyfarwyddwr Lle a Llesiant Cymunedol wedi'i llenwi.

 

(Roedd y Cynghorydd A M Jones yn dymuno cofnodi ei fod wedi ymatal rhag pleidleisio).