Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Penodiadau - Dydd Mercher, 21ain Hydref, 2020 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

 

 Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 276 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gadwyd ar 10 Medi, 2020.

Cofnodion:

 

 Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2020 fel cofnod cywir.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddedf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

 

 PENDERFYNWYD:-

 

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Lle

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

Cofnodion:

 

Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Lle

 

Derbyniwyd 5 cais am y swydd.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ddadansoddiad manwl o’r ceisiadau a gafwyd i’r Pwyllgor, gyda chefnogaeth y Rheolwr Adnoddau Dynol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           peidio â rhoi’r ymgeiswyr ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio;

·           bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn ym mis Ionawr, 2021 ar yr opsiynau recriwtio ar gyfer llenwi’r swydd.