Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Penodiadau - Dydd Mercher, 17eg Chwefror, 2021 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Virtual Meeting (at present members of the public are unable to attend)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd fel a ganlyn :-

 

·      Cofnodion diwygiedig a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2020.

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol ar gyfer eu cadarnhau:-

 

·      Cadarnhawyd cofnodion diwygiedig y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2020. 

 

·      Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2021 yn amodol ar y canlynol:-

 

Holodd y Cynghorydd K P Hughes am ganlyniad ei ymholiad mewn perthynas â chofnodion. Ymatebodd y Cadeirydd gan nodi ei fod wedi trafod y mater â’r Prif Weithredwr, y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a'i fod wedi’i gynghori y dylai’r Pwyllgor drafod y materion sydd ar yr Agenda a bod cofnodion yn adlewyrchu’r gweithredoedd sy’n codi. 

 

Roedd y Cynghorydd Aled M Jones yn ystyried y dylid hefyd cofnodi’r materion mwyaf sylweddol. 

 

Nododd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, os oes gan unrhyw Aelod o’r Pwyllgor unrhyw bryderon mewn perthynas â’r cofnodion y dylent gysylltu â’r Cadeirydd yn y lle cyntaf er mwyn mynegi unrhyw bryderon o’r fath a hynny cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard A Dew fod y cofnodion yn gofnod cywir ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgs.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor drwy bleidlais mwyafrif y Pwyllgor fod y cofnodion yn gofnod cywir.

 

Nododd y Cynghorydd Aled M Jones a K P Hughes nad oeddent yn cytuno â barn y mwyafrif mewn perthynas â’r cofnodion.  

 

 

3.

Cau allan y wasg a'r cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Adroddodd y Prif Weithredwr, yn unol ag Argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 7 Ionawr, 2021, yr hysbysebwyd y swydd hon ar sail barhaol.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr, o ganlyniad i ddadansoddiad rhestr fer annibynnol, ei fod yn cael ei argymell bod cam nesaf y broses recriwtio yn mynd rhagddo a bod rhestr fer yn cael ei llunio. Cafodd ei argymell i’r Pwyllgor Penodiadau y dylid dilyn yr un broses a gafodd ei dilyn â nifer o benodiadau eraill diweddar sef proses tri cham o:-

 

• Gynnal cyfweliad proffesiynol rhwng y Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol.

• Cyfweliad allanol gyda Gatenby Sanderson yn seiliedig ar broses brofi seicometrig

• Cyfweliad Pwyllgor Penodiadau er mwyn gallu gwneud dewis yn dilyn rhoi ystyriaeth i adroddiad llafar ar y cyfweliad proffesiynol a’r broses brofi seicometrig.

 

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gefnogi argymhelliad y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r rhestr fer ac i ddilyn y broses tri cham fel y nodwyd yn yr adroddiad i’r Pwyllgor mewn perthynas â’r mater.