Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 277 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·           23 Ebrill, 2021

·           29 Ebrill, 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-

 

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2021.

·       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2021.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gweithredu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r

cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeedig.”

 

4.

Apwyntio Staff

Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

 

Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copïau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

Cofnodion:

Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

 

Cafodd 3 ymgeisydd ar y rhestr fer, ar gyfer y rôl Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, eu cyflwyno ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Penodiadau.

 

Rhoddodd yr ymgeiswyr gyflwyniad, ateb cwestiynau ar y cyflwyniad ac yna ateb cyfres o gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Darparwyd adborth gan y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar y broses asesu a oedd yn cynnwys prawf seicometreg a chyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gan y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Yn dilyn y broses gyfweld ffurfiol, PENDERFYNODD y Pwyllgor Penodiadau benodi Mr Arwel Wyn Owen i’r swydd yn amodol ar dderbyn tystlythyrau derbyniol.