Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol, Pwyllgor Penodiadau - Dydd Gwener, 17eg Mehefin, 2022 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Apwyntiadau.

Cofnodion:

 

 Etholwyd y Cynghorydd Llinos Medi yn Gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Apwyntiadau.

Cofnodion:

 

 Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

 

 Dim wedi’u derbyn.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 293 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 29 Mawrth, 2022.

Cofnodion:

 

 Cadarnhawydbod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth, 2022 yn gywir.

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

‘O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

 

 PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

6.

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid mewn perthynas â’r swydd wag Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ac argymhellion y Swyddog gydag un ychwanegiad o ran marchnata sef defnyddio’r safle recriwtio Lleol.net.

7.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 19 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

‘O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

 

 PENDERFYNWYD:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

8.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

 

·       Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd, y Manylion Personol a ffurflenni cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

 

Adroddodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid bod y swydd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl ifanc wedi cael ei hysbysebu’n allanol rhwng 6ed Mai a 30ain Mai 2022, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhellion y Swyddog o ran llunio rhestr fer a chefnogi’r broses recriwtio a amlinellir yn yr adroddiad.