Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Committee Room, Council Offices, Llangefni
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Penodiadau. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Gary Pritchard ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.
|
|
Ethol Is-gadeirydd Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Penodiadau. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Ieuan Williams ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Penodiadau.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Cofnodion: Dim.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Apwyntio Staff Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. Cofnodion: Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r argymhellion sydd wedi eu cynnwys.
|