Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Penodiadau - Dydd Mawrth, 7fed Ionawr, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd, 2024.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd, 2024 yn gywir.

 

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 68 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni”.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni”.

 

5.

Apwyntio Staff

Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

 

·         Ystyried y ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

 

Mae copiau o’r Disgrifiad Swydd,  Manylion Personol a ffurflenni

cais ynghlwm.

 

·      Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

 

Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fod swydd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc wedi’i hysbysebu o 22 Tachwedd tan 17 Rhagfyr, 2024 yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau.

 

Argymhellwyd bod y Pwyllgor Penodiadau’n dilyn y broses recriwtio, fel y cytunwyd yn flaenorol:-

 

·         Bod y Pwyllgor yn cefnogi argymhelliad y Swyddog ar gyfer y rhestr fer.

·         Cynnal cyfweliad proffesiynol gyda’r Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

·         Bydd canlyniad y cyfweliad proffesiynol yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Penodiadau er mwyn llywio eu penderfyniad terfynol.

·         Fod yr ymgeisydd a argymhellwyd ar gyfer y rhestr fer yn cwblhau’r asesiad seicometrig annibynnol a’r asesiad MTQ48 ymlaen llaw fel nad oes angen eu cwblhau eto, ond, bydd rhaid cwblhau asesiad senario.

 

PENDERFYNWYD bod argymhellion y Swyddog ar gyfer y rhestr fer yn cael eu derbyn a bod y broses recriwtio, a nodwyd uchod, yn cael ei chefnogi.