Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol, Pwyllgor Penodiadau - Dydd Mawrth, 12fed Gorffennaf, 2022 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 270 KB

Cyflwyno, i’w cadarhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 17 Mehefin, 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2022 ac fe gawsant eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 120 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y golygai ryddhau gwybodaeth a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12 o Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

4.

Diweddariad ar y Broses Recriwtio

Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried - adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn darparu diweddariad ar y broses recriwtio hyd yma mewn perthynas â’r swydd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Roedd yr adroddiad yn gosod allan canlyniadau tri cham cyntaf y broses recriwtio pum cam a gytunwyd â’r Pwyllgor Penodiadau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2022 mewn cysylltiad â’r ymgeiswyr ar y rhestr fer. Rhoddodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ddiweddariad llafar yn y cyfarfod am ganlyniad y pedwerydd cam yn y broses recriwtio a oedd yn cynnwys cyfweliad proffesiynol. Bu i’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid gynghori, yn seiliedig ar y broses hyd yma, yr argymhellir fod yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn mynd yn eu blaenau i’r bumed cam o’r broses recriwtio h.y. cyfweliad ffurfiol gyda’r Pwyllgor Penodiadau.

Penderfynwyd symud ymlaen yn unol ag argymhelliad y Swyddog bod yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld yn ffurfiol gan y Pwyllgor Penodiadau mewn cyfarfod a gynhelir ar 20 Gorffennaf, 2022.