Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol, Pwyllgor Penodiadau - Dydd Gwener, 9fed Medi, 2022 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddidordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir. 

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 199 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol  

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

 

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

4.

Diweddariad ar y Broses Recriwtio

Pennaeth Democratiaeth

 

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses recriwtio hyd yma mewn perthynas â’r swydd Pennaeth Democratiaeth ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

Nododd yr adroddiad ganlyniad y tri cam cyntaf o’r pum cam yn y broses recriwtio a gytunwyd gyda’r Pwyllgor Penodiadau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf, 2022 mewn perthynas â’r ymgeiswyr ar y rhestr fer. Cafwyd crynodeb gan y Rheolwr Adnoddau Dynol am ganlyniad y tri cham cyntaf a’r casgliadau y daethpwynt atynt.

Rhoddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ddiweddariad llafar yn y cyfarfod mewn perthynas â chanlyniad pedwerydd cam y broses recriwtio a oedd yn cynnwys cyfweliad proffesiynol. Yn seiliedig ar y broses hyd yma ynghyd â’r casgliadau a wnaethpwyd yn dilyn y cyfweliadau proffesiynol roedd y swyddogion o’r farn ac yn argymell y dylai’r ymgeiswyr ar y rhestr fer fynd ymlaen i bumed cam y broses recriwtio sef cyfweliad ffurfiol efo’r Pwyllgor Penodiadau. 

Penderfynwyd parhau yn unol ag argymhellion y Swyddogion y dylai’r ymgeiswyr ar y rhestr fer fynd ymlaen i gael eu cyfweld yn ffurfiol gan y Pwyllgor Penodiadau ar ddyddiad i’w gadarnhau.