Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 28ain Mehefin, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 28 Mawrth, 2017 pdf eicon PDF 335 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol 

 

·         28 Mawrth, 2017

·         31 Mai, 2017 (Ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir - cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod -

 

           28 Mawrth, 2017

           31 Mai, 2017 (ethol Cadeirydd / Is-Gadeirydd)

3.

Datganiad o'r Cyfrifon 2016/17 a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r Datganiad o’r Cyfrifon drafft am 2016/17 a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 yn cynnwys drafft o’r Datganiad Cyfrifon (heb eu harchwilio) gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 ynghyd â'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft ar gyfer 2016/17.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i gymeradwyo a chyhoeddi Datganiad Cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Cyn y gellir cychwyn yr Archwiliad Allanol, rhaid i'r Swyddog Adran 151 arwyddo'r Datganiad o Gyfrifoldebau ar gyfer y Datganiad Cyfrifon cyn dyddiad cau statudol, sef 30 Mehefin bob blwyddyn. Er bod y Datganiad yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn i roi gwybodaeth i etholwyr, trethdalwyr lleol, Aelodau'r Cyngor, gweithwyr ac eraill sydd â diddordeb yng nghyllid y Cyngor, mae'n ddogfen dechnegol ar ffurf a ragnodir gan reoliadau ac arferion cyfrifeg.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at, ac ymhelaethodd ar, y datganiadau allweddol sydd yn y cyfrifon fel a ganlyn:

 

           Yr Adroddiad Naratif sy'n darparu canllawiau ar y materion mwyaf arwyddocaol yr adroddir arnynt yn y cyfrifon, gan gynnwys y prif ddylanwadau ar y datganiadau ariannol sydd cysylltu gweithgareddau a heriau’r Cyngor i’r modd y mae'r rhain yn effeithio ar ei adnoddau ariannol.

           Mae'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) - yn dangos y gost gyfrifyddol o ddarparu gwasanaethau yn ystod o flwyddyn yn unol ag arferion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol, yn hytrach na'r swm i'w ariannu o’r trethi. Mae rhai eitemau yn y Datganiad yn cael eu cynnwys oherwydd gofynion cyfrifyddu, e.e. dibrisiant ac wedyn yn cael eu tynnu wrth osod y Dreth Gyngor oherwydd fel eitemau cyfrifyddu, nid ydynt yn ymwneud â’r modd y caiff gwasanaethau eu hariannu ac nid ydynt yn gostau gwirioneddol sy'n effeithio ar falansau defnyddiadwy’r Cyngor. Mae'r CIES yn dangos diffyg o £ 8.548m mewn perthynas â darparu gwasanaethau.

           Dadansoddiad o Wariant a Chyllido - mae hwn yn dangos y wybodaeth yn y CIES ond gyda'r addasiadau cyfrifyddu wedi cael eu canslo allan (Nodyn 7); mae hyn o gymorth i nodi’r balansau defnyddiadwy sydd gan y Cyngor heb yr addasiadau cyfrifyddu. Mae colofn gyntaf y Dadansoddiad o Wariant a Chyllido yn dangos effaith wirioneddol perfformiad ariannol y flwyddyn ar y Cyngor a balansau a chronfeydd wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai. Pan gaiff yr addasiadau cyfrifyddu eu canslo allan, mae gwir effaith cost gwasanaethau’r Cyngor (gan gynnwys y Cyfrif Refeniw Tai) yn gostwng i £ 2.743m ar gyfer y flwyddyn sy'n rhoi golygu bod balans o £ 31.638m ar gael yn y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy. Mae hyn wedi gostwng o gymharu â 2015/16 oherwydd mae cronfeydd wrth gefn clustnodedig wedi cael eu defnyddio i gyllido’r costau y cafodd y cronfeydd wrth gefn gwreiddiol eu clustnodi ar eu cyfer.

           Mae'r Datganiad o Symudiadau mewn Cronfeydd wrth Gefn (MiRS) - yn dangos symudiad yn ystod y flwyddyn i ac o'r cronfeydd wrth gefn a ddelir gan y Cyngor ac fe wahaniaethir rhwng y cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy (h.y. y rhai y gellir eu defnyddio i gyllido gwariant neu leihau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2016/17 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol  y Gwasanaeth Archwilio Mewnol am 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2016/17. Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o berfformiad y gwasanaethau ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill, 2016 hyd at 31 Mawrth, 2017, ac mae'n cynnwys datganiad sicrwydd yn seiliedig ar waith yr Uned Archwilio Mewnol yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth, 2017.

 

Amlygodd y Rheolwr Archwilio Mewnol sylw at y prif ystyriaethau fel a ganlyn -

 

           Mae rhestr o berfformiad y Gwasanaeth yn erbyn targedau a sefydlwyd ar gyfer y flwyddyn (Atodiad A) yn dangos bod y Gwasanaeth wedi cyflawni 73.85% o'r Cynllun Blynyddol yn erbyn targed o 80% a dangosydd perfformiad Cymru gyfan o 85% ar gyfartaledd. Roedd 3 archwiliad yn parhau i fynd rhagddynt ar ddiwedd y flwyddyn ac ar ôl cwblhau’r rheini, fe welir bod 78.46% o'r Cynllun Blynyddol wedi cael ei gyflawni. Roedd y diffyg i’w briodoli i'r ffactorau a ddisgrifir yn adran 3.2.2 o'r adroddiad.

           Cwblhaodd y Gwasanaeth 48 o archwiliadau yn ystod y flwyddyn, 4 ohonynt heb eu cynllunio, yn erbyn targed a gynlluniwyd o 65 archwiliadau. Cwblhawyd 79.17% o’r archwiliadau o fewn yr amserlen a gynlluniwyd a hynny yn erbyn dangosydd perfformiad heriol o 90% ac o gymharu â ffigwr cyfartalog o 68% ar gyfer Cymru gyfan. Effeithiwyd ar allu’r gwasanaeth i gyflawni’r dangosydd hwn gan 7 o brosiectau a gymerodd fwy o amser na’r targedau a gynlluniwyd ac a oedd yn cyfrif am 97.62 diwrnod.

           Mae perfformiad o ran argymhellion a dderbyniwyd yn 98.57%. Allan o gyfanswm o 279 o argymhellion a gyhoeddwyd, methwyd â chytuno ar 4 a gawsant eu hasesu fel rhai effaith isel.

           Cafodd adroddiadau archwilio drafft eu cyhoeddi o fewn 3.59 diwrnod yn erbyn targed perfformiad o 7 niwrnod a chyfartaledd Cymru gyfan o 7.2 diwrnod.

           Cafwyd llithriad o 258 o ddiwrnodau yn ystod y flwyddyn gan olygu na fu modd cynnal 23 o archwiliadau a gynlluniwyd a hynny am y rhesymau a amlinellir ym mharagraff 3.2.2 yr adroddiad. Ni fedrir rhoi sicrwydd Archwilio mewn perthynas ag archwiliadau a dynnwyd o Gynllun 2016/17. Bydd y meysydd hyn yn cael blaenoriaeth o ran eu hadolygu yn ystod 2017/18. Ceir rhestr o'r llithriadau gwirioneddol a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn yn Atodiad B yr adroddiad.

           Mae pob un o'r archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn wedi arwain at lefelau sicrwydd cadarnhaol ac eithrio'r 7 archwiliad a restrir ym mharagraff 4.2.2. o'r adroddiad a gafodd eu hasesu fel rhai a oedd yn darparu Sicrwydd Cyfyngedig. Bydd y rhain yn cael eu dilyn i fyny yn ystod 2017/18.

           Cynhaliwyd adolygiad pellach o'r Fframwaith Rheoli Risg yn ystod 2016/17 a oedd yn dangos cynnydd rhesymol o ran ymgorffori rheoli risg yn gadarn yn yr Awdurdod.

           Nododd canlyniadau cyffredinol y gwaith Archwilio Mewnol di bod 81.08% o adolygiadau wedi arwain at farn sicrwydd cadarnhaol (Sylweddol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Safonau Archwilio Menwol y Sector Cyhoeddus - Adroddiad Asesu Allanol pdf eicon PDF 831 KB

Cyflwyno adroddiad asesiad allanol ynglyn â Gwasanaeth Archwilio Mewnol Ynys Môn ynghyd â’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori canlyniadau'r asesiad allanol o Wasanaeth Archwilio Mewnol Cyngor Sir Ynys Môn ynghyd â Chynllun Gweithredu i ymateb i'r meysydd a nodwyd fel rhai yr oedd angen eu gwella.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg raid i'r prif swyddog archwilio, yn unol â’r PSIAS, ddatblygu a chynnal rhaglen sicrhau ansawdd a gwella sy'n ymdrin â phob agwedd o’r gweithgaredd archwilio mewnol. Rhaid i'r rhaglen sicrwydd a gwelliant gynnwys asesiadau mewnol ac allanol. Rhaid i'r asesiad gael ei gynnal o leiaf unwaith bob pum mlynedd gan adolygydd annibynnol cymwys o'r tu allan i'r sefydliad, naill ai drwy gyfrwng asesiad allanol llawn neu hunanasesiad a ddilysir gan adolygydd allanol. Mae Grŵp Prif Archwilwyr Cymru (WCAG) wedi cydweithio i sefydlu dull adolygiad cymheiriaid o gynnal  asesiadau allanol gyda’r hunanasesiadau wedyn yn cael eu dilysu gan adolygydd allanol. Enwebwyd Pennaeth Archwilio Cyngor Sir Ddinbych Archwiliad Mewnol gan WCAG i gynnal yr asesiad o Wasanaeth Archwilio Mewnol Cyngor Sir Ynys Môn ac fe wnaed hynny ym mis Mawrth 2017.

 

Dywedodd y Swyddog bod canlyniadau'r asesiad allanol a gynhaliwyd gan Bennaeth Archwilio Mewnol Sir Ddinbych y ceir manylion amdano yn Atodiad A yr adroddiad yn rhoi sicrwydd bod gwasanaeth Archwilio Mewnol Ynys Môn yn gyffredinol yn cydymffurfio â'r Safonau. Serch hynny, tynnodd yr asesydd allanol sylw at dri maes lle yr oedd cydymffurfiaeth rannol yn unig ac at saith maes yr oedd angen eu gwella. Yr un pwysicaf yw absenoldeb fframwaith sicrwydd archwilio er mwyn sicrhau bod gwaith Archwilio Mewnol yn canolbwyntio ar feysydd allweddol. Bydd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cynnal adolygiad llawn o agwedd ac arferion y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol gyda golwg ar sefydlu fframwaith sicrwydd yn 2018/19. Yn ychwanegol at hyn ac er gwaethaf ei fod yn cydymffurfio'n llawn ar adeg yr asesiad allanol, roedd cyfrifoldebau ychwanegol y prif swyddog archwilio am reoli risg ac yswiriant o Ebrill 2017 wedi peryglu’r gallu i barhau i gydymffurfio â Safon 1100 o ran annibyniaeth a gwrthrychedd y swyddogaeth archwilio. Fodd bynnag, roedd y PSIAS hefyd wedi cael eu diwygio o Ebrill, 2017. Mae Safon 1112 sy’n ymwneud â Rolau’r Prif Swyddog Archwilio y tu draw i Archwilio Mewnol bellach yn cydnabod y gall prif swyddogion archwilio fod â chyfrifoldebau gweithredol yn ychwanegol at archwilio mewnol. Bydd y Siarter Archwilio Mewnol yn cael ei diweddaru i adlewyrchu'r trefniadau newydd a bydd y fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Medi, 2017.

 

Cadarnhaodd y Swyddog bod Cynllun Gweithredu wedi cael ei ddatblygu i fynd i'r afael â'r meysydd cydymffurfiad rhannol a’r meysydd ar gyfer gwelliant a nodwyd ac roedd y cynllun hwn ynghlwm wrth yr adroddiad ar yr asesiad allanol. Y bwriad ar gyfer y dyfodol yw y bydd y Cynllun Archwilio yn cael ei asesu’n barhaus ar gyfer risgiau yn y dyfodol fel mai dim ond y meysydd risg  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 385 KB

Cyflwyno adroddiad diweddariad Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yn unol â chais y Pwyllgor ac er ei ystyriaeth: Adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn nodi'r cynnydd hyd at ddiwedd mis Mai, 2017 mewn perthynas â'r adroddiadau Archwilio Mewnol a gyhoeddwyd ers 1 Ebrill, 2017; dilyn i fyny’r adroddiadau Archwilio Mewnol blaenorol; cynnydd o ran cyflawni Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2017/18 a diweddariad ar feysydd penodol.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg ar y materion canlynol -

 

           Roedd yr adroddiadau Archwilio Mewnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ymwneud ag Ynys Ynni (Ebrill 2017 a aseswyd fel un a oedd yn darparu sicrwydd Sylweddol) Gwirio Stoc, Uned Cynnal a Chadw Tai, Gaerwen (Mai 2017 a aseswyd fel un Sicrwydd Cyfyngedig); Uned Cynnal a Chadw Tai (Mai 2017 a aseswyd fel un Sicrwydd Cyfyngedig) a'r Brif System Gyfrifyddu (Mai 2017 a aseswyd fel un rhoi sicrwydd sylweddol). Cyfeiriodd y Swyddog at y canfyddiadau allweddol mewn perthynas â phob un o'r archwiliadau gan gyfeirio'n benodol at y diffygion a nodwyd yn y ddau archwiliad Sicrwydd Cyfyngedig. Cadarnhaodd y byddai’r Uned Archwilio Mewnol yn cadw llygad ar y ddau faes er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r argymhellion a wnaed ar gyfer gwella rheolaethau mewnol.

           Adolygiadau dilyn i fyny a gwblhawyd mewn perthynas â Ffioedd Rheoliadau Adeiladu - Archwiliad a Gorfodaeth ac Adfer TGCh ar ôl Trychineb. Yn achos y cyntaf, canfuwyd yn ystod yr archwiliad dilyn i fyny cyntaf ym mis Ebrill 2017 mai ychydig o gynnydd oedd wedi'i wneud o ran gweithredu'r camau y cytunwyd arnynt i fynd i'r afael â'r argymhellion archwilio mewnol. Cynhelir adolygiad dilyn i fyny pellach ym mis Awst 2017 ac adroddir ar y canlyniad i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi. Yn achos Adfer TGCh ar ôl Trychineb, canfuwyd yn ystod y trydydd adolygiad dilyn i fyny mai ychydig o gynnydd wedi'i wneud o ran gweithredu’r camau i fynd i'r afael â'r argymhellion archwilio mewnol a oedd yn parhau i fod angen sylw o’r ddau adolygiad dilyn i fyny blaenorol.  Cynhelir adolygiad dilyn i fyny pellach ym mis Awst, 2017. 

           Cynnydd o ran gweithredu argymhellion archwilio. Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth wrthi’n llunio adroddiad ar y perfformiad o ran gweithredu'r holl argymhellion sy'n weddill a bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2017.

           Cynnydd o ran cyflawni Cynllun Gweithredu Archwilio Mewnol 2017/18. Oherwydd y llithriad yn y gwaith o Gynllun Blynyddol 2016/17, mae gwaith Gynllun 2017/18 wedi bod yn araf. Fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo mewn 14 maes ar hyn o bryd a manylir ar y rhain ym mharagraff 6.2 yr adroddiad.

           Diweddariadau y gofynnodd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu amdanynt o ran Diogelu Corfforaethol a'r trefniadau ar gyfer gweithredu argymhelliad AGGCC yn dilyn ei arolygiad o’r Gwasanaethau Plant. O ran y cyntaf, mae arwyddion cynnar bod cynnydd rhesymol wedi ei wneud wrth weithredu'r camau y cytunwyd arnynt a chyhoeddwyd adroddiad drafft ar 14 Mehefin, 2014. Adroddir ar ganlyniad yr adolygiad dilyn i fyny i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Archwilio Allanol - Cyflwyniad ar y Fframwaith Reoleiddio pdf eicon PDF 1 MB

Derbyn cyflwyniad ar y fframwaith reoleiddio a gwaith Swyddfa Archwilio Cymru.

Cofnodion:

Gohiriwyd y mater hwn tan y sesiwn hyfforddi sydd wedi'i chynllunio ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar gyfer mis Medi 2017. Bydd manylion y sesiwn yn cael eu cadarnhau maes o law.

8.

Archwilio Allanol : Llywodraethu Da wrth Benderfynu ar Newidiadau Sylweddol i Wasanaethau - Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwyno adroddiad gan Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor – adroddiad yr Archwiliwr Allanol ar ganlyniad ei adolygiad o effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu'r Cyngor pan yn penderfynu ar newidiadau i wasanaethau.

 

Dywedodd Rheolwr Archwilio Perfformiad SAC y cynhaliwyd yr asesiad yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2016.  Fel sylfaen ar gyfer yr asesiad o drefniadau cyffredinol y Cyngor ar gyfer datblygu a phenderfynu ar newidiadau i wasanaethau, edrychwyd ar agweddau o’r trefniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag amrywiaeth o gynigion ar gyfer newid gwasanaethau’n sylweddol; roedd y rhain yn cynnwys yr adolygiad Gweithio’n Gallach, yr adolygiad a oedd yn ymwneud â Rheoli Gwastraff Gweddilliol a’r adolygiad Llyfrgelloedd. Yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn un cadarnhaol ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ddiffygion ym mhrosesau’r Cyngor ar gyfer gwneud penderfyniadau, dim ond meysydd y gellir eu gwella ymhellach. Daeth yr Archwiliwr Allanol i’r casgliad bod trefniadau llywodraethu'r Cyngor ar gyfer gwneud penderfyniadau ar newidiadau sylweddol i wasanaethau yn gyffredinol effeithiol, ond ei fod yn cydnabod y gellid eu cryfhau ymhellach. Gwnaed dau gynnig ar gyfer gwelliant, y naill mewn perthynas â chyflwyno asesiadau effaith ar gydraddoldeb yn gynnar yn y broses o wneud penderfyniadau ac i safon gyson, a'r llall mewn perthynas â datblygu trefniadau i fonitro effeithiau a manteision unrhyw newidiadau i wasanaethau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod y templedi ar gyfer yr Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb wrthi’n cael eu hadolygu a'u symleiddio er mwyn sicrhau gwell cysondeb ar draws y Cyngor ac, fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ar gyfer 2018/19, byddant ar gael i Aelodau Etholedig yn gynharach yn y broses, sef yn y gweithdai cyllideb i Aelodau.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r adroddiad Archwilio Allanol gan gynnwys y cynigion ar gyfer gwella.

 

DIM ANGEN GWEITHREDU YMHELLACH

9.

Archwilio Allanol : Adroddiad Gwella Blynyddol 2016/17 - Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 261 KB

Cyflwyno adroddiad gan Archwilio Mewnol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor - Adroddiad Gwella Blynyddol yr Archwilwyr Allanol ar gyfer 2016/17 mewn perthynas â Chyngor Sir Ynys Môn. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith a wnaed ers yr adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf, gan gynnwys y gwaith a wnaed gan y rheoleiddwyr perthnasol.

 

Dywedodd Mr Gwilym Bury, Arweinydd Archwilio Perfformiad - Swyddfa Archwilio Cymru bod y Cyngor yn cwrdd â’i ofynion statudol mewn perthynas â gwelliannau parhaus ac yn seiliedig ar, ac yn gyfyngedig i'r gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru a rheoleiddwyr perthnasol, roedd yr Archwiliwr Cyffredinol yn credu bod y Cyngor yn debygol o gydymffurfio â gofynion  Mesur Llywodraeth Leol (2009) yn ystod 2017/18. Yn ystod y flwyddyn, nid oedd yr Archwiliwr Cyffredinol wedi gwneud unrhyw argymhellion ffurfiol. Fodd bynnag, gwnaed nifer o gynigion ar gyfer gwelliant yn yr adroddiad. Bydd cynnydd yn erbyn y cynigion hyn yn ogystal â'r rhai a wnaed mewn adroddiadau cenedlaethol (Atodiad 3 yr adroddiad) yn cael ei fonitro gan yr Archwilwyr Allanol fel rhan o'u gwaith o asesu gwelliant.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r adroddiad gan yr Archwiliwr Allanol.

 

DIM ANGEN GWEITHREDU YMHELLACH

10.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno i’w hadolygu a’i diweddaru, Blaen Raglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor ac er mwyn ei adolygu - adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Rhaglen Waith y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod y rhaglen waith wedi cael ei datblygu i restru materion sy'n digwydd yn naturiol fel rhan o'r cylch archwilio a hefyd i alluogi'r Pwyllgor i gadw golwg ar faterion sydd wedi codi yn ystod y trafodaethau yn ei gyfarfodydd ac y mae’n dymuno cael sicrwydd pellach yn eu cylch; bydd y materion hyn yn cael eu cadw ar y rhaglen waith hyd nes y bydd y Pwyllgor yn fodlon eu bod wedi cael y sylw priodol.

 

Nododd y Pwyllgor yr eitemau isod fel rhai y dylid eu hychwanegu at y rhaglen waith yn codi o’r trafodaethau yn y cyfarfod hwn -

 

             Diweddariad ar ymateb y Gwasanaeth Tai o ran mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y ddau adolygiad Sicrwydd Cyfyngedig a oedd yn ymwneud â Gwirio Stoc a’r Uned Cynnal a Chadw Tai i fod ar gael yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2017.

           Bydd y Pwyllgor yn adolygu’r holl argymhellion archwilio mewnol sydd heb eu gweithredu yn ei gyfarfod ym mis Medi 2017.

 

Cytunwyd bod y drafodaeth ar gylch gorchwyl y Pwyllgor ac a oes angen ei ddiwygio i adlewyrchu’r cyfrifoldebau ehangach a nodwyd gan CIPFA yn cael ei chyfeirio yn y lle cyntaf i’r sesiwn hyfforddi.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Flaen Raglen Waith yn amodol ar gynnwys yr eitemau ychwanegol uchod.

 

CAMAU GWEITHREDU: Y Pennaeth Archwilio a Risg i ddiweddaru'r Rhaglen Waith yn unol â’r uchod.