Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datgan Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 5 Rhagfyr, 2017 pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. 

 

Materion yn codi -

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd, fel y nodwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod Rhagfyr, 2017, bod cyfarfod rhyngddo ef, y Swyddogion a’r ddau Aelod Lleyg ar y Pwyllgor wedi ei drefnu er mwyn ystyried y ffordd orau o hwyluso rôl yr Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor. Roedd y ddau Aelod Lleyg wedi mynegi yn y cyfarfod blaenorol y byddai cael yr holl adroddiadau archwilio mewnol, yn hytrach na dim ond y rhai hynny â barn Sicrwydd Cyfyngedig, yn eu helpu nhw i ddeall sut y mae casgliadau archwilio yn cael eu llunio a’r farn sy’n cael ei rhoi gan felly wella effeithlonrwydd eu trosolwg a’u rolau fel aelodau sgriwtini. Dywedodd y Cadeirydd bod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror gyda Mr Dilwyn Evans, un o’r Aelodau lleyg, wedi profi’n ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth. Canlyniad y cyfarfod oedd y byddai’r broses bresennol yn parhau ond y byddai’r Pennaeth Archwilio a Risg yn edrych i ddarparu ychydig mwy o fanylder ar archwiliadau a oedd wedi’u cwblhau yn yr adroddiadau diweddaru a gyflwynir i’r Pwyllgor.   

3.

Diweddariad Archwilio Mewnol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn nodi’r gwaith a gyflawnwyd gan yr Adran Archwilio Mewnol hyd at 26 Ionawr, 2018, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Darparodd yr adroddiad grynodeb o’r adroddiadau archwilio mewnol a gyflwynwyd ers 17 Tachwedd, 2017; canlyniadau’r adolygiadau dilynol o archwiliadau archwilio mewnol blaenorol; gweithrediad camau rheoli; cynnydd ar ddarparu’r Cynllun Archwilio Blynyddol ar gyfer 2017/18 ynghyd â’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r adolygiad a gynlluniwyd o gylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg ar y prif faterion fel a ganlyn ac wrth wneud hynny fe gadarnhaodd ei bod wedi ceisio cadw cydbwysedd rhwng darparu’r adroddiadau archwilio llawn, sy’n cynnwys llawer mwy o wybodaeth na sydd ei angen yn ymarferol ar y Pwyllgor er mwyn gallu herio ac at ddibenion sicrwydd, a chynyddu lefel y manylion am bob archwiliad -

 

Nodwyd fod pum adroddiad adolygu Archwilio Mewnol wedi eu cwblhau yn ystod y cyfnod dan sylw a oedd yn ymdrin â’r meysydd isod. Canlyniad yr holl adolygiadau oedd graddfa sicrwydd Rhesymol neu Sylweddol:

 

           Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) (Rhesymol) – 3 o risgiau lefel gymedrol wedi eu codi

           Gwariant Cyfalaf (Sylweddol) – dim risgiau na materion wedi eu codi

           Rhenti Tai – Parodrwydd ar gyfer Credyd Cynhwysol (Rhesymol) – 3 risg sylweddol, 7 cymedrol ac 1 mân fater/risg wedi eu codi.

           Rhaglen Cefnogi Pobl (Sylweddol) – dim risgiau na materion wedi eu codi

           Atgyfeiriad – Gordaliad Cyflogres – adolygiad ymgynghorol 

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Archwilio a Risg ar ganfyddiadau’r adolygiadau hynny lle'r oedd risgiau a/neu faterion wedi codi, natur a graddau’r risgiau a oedd wedi eu hadnabod, y camau cywirio sydd/a fydd yn cael eu cymryd, a’r rhesymeg ar gyfer y casgliad archwilio y daethpwyd iddo. Cyfeiriodd y Swyddog yn benodol at yr adolygiad archwilio o Renti Tai lle'r oedd 3 risg sylweddol wedi eu nodi. Er hynny fe gadarnhaodd y Swyddog, o ganlyniad i’r gwaith paratoi a oedd wedi’i wneud gan y Gwasanaethau Tai mewn parodrwydd ar gyfer cyflwyniad Credyd Cynhwysol, bod Archwilio Mewnol yn gallu darparu Sicrwydd Rhesymol ar gyfer y maes hwn.  

           Bod 6 adolygiad dilynol o adroddiadau Sicrwydd Cyfyngedig wedi eu cwblhau yn ystod y cyfnod gyda’r canlyniadau canlynol – 

 

           Mynediad Rhesymegol ac Arwahanu Dyletswddau ( Logical Access and Segregation of Duties (Dilyn i fyny am yr ail waith) - daethpwyd i’r casgliad, o ganlyniad i’r cyfnod o amser y mae’r risgiau/materion a gafodd eu hadnabod yn yr archwiliad gwreiddiol yn 2014/15 ac yn dilyn hynny yn yr adolygiad dilynol cyntaf ym mis Ionawr 2015 wedi bod yn disgwyl am sylw, mai ychydig iawn o gynnydd a wnaed gan y Cyngor o ran gweithredu’r argymhellion a gytunwyd er mwyn mynd i’r afael â’r holl argymhellion archwilio. O ganlyniad, ac oherwydd natur y risgiau sydd heb eu penderfynu sy’n ymwneud â staff yn derbyn polisïau TGCh a materion yn ymwneud â gwahaniad dyletswyddau yn y system Gyflogres, mae lefel y sicrwydd yn parhau i fod yn Gyfyngedig. Eglurodd y Pennaeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Argymhellion Archwilio Mewnol, Materion a Risgiau sy'n parhau i fod angen sylw pdf eicon PDF 643 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor - Adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg sy’n nodi’r holl argymhellion a risgiau sy’n weddill ac a godwyd ers Ebrill, 2014.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg, ar 26 Ionawr, 2018, allan o gyfanswm o 745 o argymhellion/risgiau/materion oedd â dyddiad targed ar gyfer eu gweithredu o 31 Rhagfyr, 2017 bod y Cyngor wedi gweithredu neu ddatrys 695 neu 93% gyda 50 ar ôl heb eu gweithredu / datrys. Y canran perfformiad ar gyfer mynd i’r afael â materion a oedd wedi’u graddio’n Uchel neu’n Goch / Ambr oedd 98%; ar gyfer materion a raddiwyd yn Ganolig a Melyn roedd yn 94% ac ar gyfer materion a raddiwyd yn Isel neu’n Wyrdd roedd yn 90%. Cafodd manylion y materion sy’n weddill ynghyd â dyddiad y codwyd pob mater ei nodi yn Atodiad A yr adroddiad.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd ac fe nododd fod nifer o faterion yn ymwneud â’r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor a Budd-daliadau Tai 2016/17 yn parhau i fod yn weddill. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) fod y Gwasanaeth Budd-daliadau Tai wedi mynd trwy broses o ailstrwythuro yn ystod 2017 a chanlyniad hynny oedd bod gan y gwasanaeth bellach gyflenwad llawn o staff; mae ganddo well trefniadau goruchwylio yn ogystal â gwell adborth ar faterion perfformiad staff. Ar yr un pryd, mae gwaith wedi bod yn parhau ar wella systemau, yn enwedig ar integreiddio ffurflenni hawlio budd-daliadau electronig i mewn i’r System Budd-daliadau; cafwyd peth oedi mewn perthynas â hyn oherwydd materion yn ymwneud â throsglwyddo data. Fodd bynnag, ar ôl ei weithredu fe ddisgwylir y bydd y newid hwn yn gwella cywirdeb y data a fewnbynnir. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ar gyflwyno system reoli dogfennau electronig a fydd yn disodli’r system bresennol lle bydd ffurflenni hawlio budd-daliadau’n cael eu ffeilio â llaw gan olygu eu bod yn fwy tebygol o gael eu colli. Disgwylir y bydd y gwelliannau hyn yn mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r materion archwilio mewnol a godwyd. Mae’r dyddiad targed ar gyfer gweithredu wedi ei basio oherwydd yn achos y system rheoli dogfennau yn electronig, mae’r feddalwedd hefyd yn un y bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn ei defnyddio i uwchraddio’r system gynllunio er bod y Gwasanaeth Cynllunio ar fersiwn wahanol - mae’r gwaith wedi cynnwys cymodi’r ddau er bod y Gwasanaeth Cynllunio ar fersiwn wahanol. Mewn perthynas â methu’r dyddiad targed, byddai’r broses wedi bod angen i’r Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau hysbysu’r adran Archwilio Mewnol o’r rhesymau dros weithrediad hwyr ac i ddod i gytundeb ar ddyddiad targed newydd.  

 

Yn dilyn yr eglurhad a ddarparwyd gan y Swyddog uchod, fe’i nodwyd gan y Pwyllgor ac roedd yn fodlon â’r gwelliannau mewn perfformiad mewn perthynas â gweithredu’r argymhellion archwilio mewnol yr oedd yr adroddiad yn eu hadlewyrchu a rhoddwyd sicrwydd pellach bod Archwilio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Archwilio Allanol - Diweddariad Rhaglen Waith Perfformiad pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd diweddariad yr Archwilwyr Allanol ar y gwaith cyfredol a’r gwaith sydd wedi ei gynllunio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar statws y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad yn 2016/17 a 2017/18 yn ogystal â rhaglen archwiliadau gwerth am arian cenedlaethol yr Archwilydd Cyffredinol.  

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi statws y rhaglen waith perfformiad Archwilio Allanol fel y’i cyflwynwyd.  

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

6.

Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg, a oedd yn cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol arfaethedig a’r Cynllun ar gyfer 2018/19 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg bod Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn nodi bod angen i’r prif weithredwr archwilio sefydlu cynlluniau seiliedig ar risg er mwyn penderfynu ar flaenoriaethau’r gweithgaredd archwilio mewnol, sy’n gyson â nodau’r Cyngor. Wrth flaenoriaethu adnoddau, disgwylir i Archwilio Mewnol ymgymryd â gwaith digonol fel y gall y prif swyddog archwilio ddarparu barn archwilio mewnol flynyddol ar gyfer y Cyngor er mwyn hysbysu ei Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol. Yn hanesyddol, mae Archwilio Mewnol wedi cynllunio ei waith ar sail strategaeth Cynllunio tair neu bum mlynedd. Fodd bynnag, amlygodd yr Asesiad Archwilio Ansawdd Allanol a gafodd ei gynnal ym Mawrth 2017, er bod y fethodoleg hon yn cydymffurfio â’r PSIAS, dylid ystyried a yw’r dull hwn yn effeithiol gan ystyried ei bod yn anodd rhagweld beth fydd yn bwysig i’r Cyngor ymhen tair blynedd. Nododd yr asesydd bod cyflymder newid mewn mewn llywodraeth leol yn awgrymu na ddylid ond cynllunio flwyddyn ymlaen llaw. Gan ystyried hyn, mae Archwilio mewnol wedi mabwysiadu agwedd newydd tuag at ddatblygu’r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2018/19 gan ddefnyddio’r gofrestr risg gorfforaethol er mwyn penderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer gweithgareddau Archwilio Mewnol tra hefyd yn ystyried y Strategaeth Archwilio ar gyfer 2017/18 i 2019/20. Yn ogystal, cynhaliwyd cyfarfodydd â Swyddfa Archwilio Cymru, y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r rhan fwyaf o Benaethiaid Gwasanaeth er mwyn ceisio eu safbwyntiau ar y meysydd arfaethedig ar gyfer eu hadolygu. Canlyniad hyn yw cynllun â llawer mwy o ffocws, mwy perthnasol sy’n seiliedig ar risg ar gyfer 2018/19. Mae’r cynllun hefyd yn gynllun deinamig a bydd yn cael ei adolygu a’i addasu yn ôl yr angen mewn ymateb i newidiadau yn rhaglenni, gweithrediadau a risgiau’r Cyngor er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol. Bydd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau.         

 

 

Ystyriwyd yr adroddiad gan y Pwyllgor a gwnaed y pwyntiau canlynol

 

           Nododd y Pwyllgor fod strwythur y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn eithaf cul ac nad oes unrhyw gapasiti sbâr yn bodoli. Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd felly bod y gwasanaeth yn hyderus fod ganddo’r adnoddau staffio er mwyn gallu darparu’r Cynllun Archwilio ar amser. Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg y bydd yr ymagwedd newydd tuag at archwilio a’r ffordd fwy cryno o adrodd yn lleihau llawer iawn o’r baich gweinyddol a nifer y dyddiau a dreulir yn anghynhyrchiol. Hyd yn oed os nad yw’r adolygiadau archwilio a gynhelir yn rhai manwl byddant yn ddigonol er mwyn adnabod unrhyw risgiau/materion sylweddol neu faterol yn y maes sy’n cael ei archwilio; gall Archwilio Mewnol wedyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adrtoddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, yn cynnwys y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2018/19, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi agwedd arfaethedig y Cyngor tuag at fuddsoddiadau a threfniadau benthyca presennol a’r rhai a ragwelir ar gyfer 2018/19.  

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn y sefyllfa economaidd a gan fod y rhagolygon yn parhau i fod yn ansicr, bydd agwedd Rheoli Trysorlys y Cyngor yn parhau i fod yn seiliedig ar y canlynol - 

 

           Ni fydd y Cyngor yn benthyca mwy na’r hyn sydd ei angen arno er mwyn ceisio elwa o fuddsoddiad ar y symiau ychwanegol a fenthycir gan fod yr elw ar y buddsoddiadau yn debygol o fod yn is na’r gost o fenthyca.  

           Bydd y Cyngor yn cynnal ymagwedd hyblyg tuag at fenthyca mewnol ac allanol gan roi ystyriaeth i’r ffactorau a ddisgrifir yn adran 3.3.1 o’r strategaeth. Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn tan-fenthyca sy’n golygu nad yw’r angen benthyca cyfalaf (y Gofyniad Ariannu Cyfalaf) wedi ei ariannu’n llawn â dyled benthyciadau gan fod arian parod sy’n cefnogi arian wrth gefn y Cyngor, balansau a llif arian wedi ei ddefnyddio yn lle hynny. Mae hon yn ymagwedd synhwyrol gan fod adenillion ar fuddsoddiadau yn isel ac mae risg gwrth-barti yn fater sy’n parhau fod angen sylw. Bydd y Gofyniad Ariannu Cyfalaf (y rhagolygon o’r angen i fenthyca er mwyn ariannu’r rhaglen gyfalaf) ar ddiwedd y flwyddyn yn £138.1m gan olygu y bydd y Cyngor yn benthyca’n fewnol (defnyddio arian wrth gefn y Cyngor a’r balansau er mwyn helpu i ariannu’r rhaglen gyfalaf) £20.1M erbyn diwedd y flwyddyn. 

           Rhoddir ystyriaeth i ail-drefnu dyledion yn ogystal â’r potensial i wneud arbedion drwy redeg buddsoddiadau i lawr er mwyn talu dyledion yn gynnar. Yn ychwanegol at hynny, ble bo hynny’n bosibl, bydd y Cyngor yn osgoi benthyca newydd i ddisodli dyledion allanol sy’n aeddfedu a bydd yn defnyddio balansau ariannol yn lle hynny.

           Bydd blaenoriaethau buddsoddi’r Cyngor yn parhau i roi diogelwch yn gyntaf, hylifedd yn ail ac yna elw. Bydd y Cyngor yn buddsoddi â gwrthbartion yn unol â’r polisi credyd a nodir yn adran 4.2 o’r strategaeth.

           O ran diweddariadau i’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys, yr unig ddiwygiad arfaethedig i’r egwyddorion craidd a’r polisïau o Ddatganiad 2017/18 yw i ddiwygio’r Polisi Isafswm Arian wrth Gefn (MRP) er mwyn i’r gost MRP yn y dyfodol fod yn gyson ar gyfer benthyca â chymorth a benthyca heb gymorth ac mae’n seiliedig ar fywyd economaidd defnyddiol yr ased.

           Dim ond un newid arfaethedig sydd i Arferion Rheoli Trysorlys yr Awdurdod sef cynyddu isafswm y balansau arian parod o £6m i £6.5m

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol

 

           Nododd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Rhagfyr, 2018 ar gyfer ystyriaeth a’i adolygu.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Blaen Raglen Waith heb unrhyw newidiadau. 

 

9.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 121 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y gall olygu datgelu  gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir hynny yn Atodlen 12A i’r Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.

10.

Y Gofrestr Risg Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, a oedd yn cynnwys y Gofrestr Risg Gorfforaethol fel y’i hadolygwyd a'i diweddarwyd hyd at ddiwedd Chwarter 2 2017/18 gan yr Uwch Dîm Rheoli, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd y Rheolwr Yswiriant a Risg fod y sefyllfa fel a ganlyn ar ddiwedd Chwarter 2 –

 

           Nid oes unrhyw risgiau wedi eu tynnu oddi ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ers iddi gael ei chyflwyno i’r Pwyllgor ym Medi, 2017.

           Ni chafwyd unrhyw newid yn lefel risg weddillol unrhyw risg gyfredol ers cyflwyno’r Gofrestr Risg Gorfforaethol i’r Pwyllgor diwethaf.

           Mae pedair risg gorfforaethol newydd wedi eu hadnabod yn ystod Chwarter 2. Mae manylion y rhain ar gael yn adran 5 yr adroddiad.

           Mae’r risgiau uchaf (Coch) i’r Cyngor wedi eu nodi fel y rhai hynny a restrir yn adran 6 yr adroddiad. 

 

Hysbysodd y Swyddog y Pwyllgor fod yr Uwch Dîm Rheoli wedi adolygu sefyllfa Chwarter 3 2017/18 yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2018 a bod y canlyniad fel a ganlyn - 

 

           Ni ychwanegwyd unrhyw risgiau newydd i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol

           Ni chafodd unrhyw risgiau eu tynnu oddi ar y Gofrestr

           Cafodd lefel pedair risg ei gostwng. Mae un o’r risgiau hynny (YM22) yn parhau i fod yn Ambr tra bo’r tair arall (YM29, YM33 a YM40) wedi eu gostwng o Ambr i Felyn. Mae lefel y risg weddilliol o ran y tebygolrwydd y bydd yn digwydd wedi lleihau mewn perthynas â’r pedair risg. 

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd. Gofynodd y Pwyllgor am sicrwydd bod yr ymagwedd tuag at reoli risg YM43 (yn ymwneud â’r Gwasanaethau Plant) yn parhau’n ddigon cadarn.  Cafodd y Pwyllgor ei sicrhau bod y gweithredoedd lliniaru a'r trefniadau adrodd a monitro mewn perthynas â’r risgiau sydd wedi’u hadnabod yn y maes gwasanaeth hwn yn gadarn ac yn parhau.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad ac i nodi hefyd bod y Pwyllgor yn cymryd sicrwydd bod y risgiau i nodau ac amcanion y Cyngor yn cael eu hadnabod a'u rheoli gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

NI CHYNIGWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL