Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mawrth, 1af Rhagfyr, 2020 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Oherwydd bod yr Is-gadeirydd, a oedd yn cadeirio’r cyfarfod yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Peter Rogers, yn cael anhawster i gysylltu, cafodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ei ethol yn Gadeirydd i gychwyn y cyfarfod. Wedi hynny, ar ôl datrys y broblem gysylltu, cafodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ei ethol yn ffurfiol i weithredu fel Is-gadeirydd drwy gydol y cyfarfod.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 13 Hydref, 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod arbennig blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, gyda’r newidiadau a ganlyn -

 

           Yn y fersiwn Saesneg rhoi “two” yn lle “to” yn llinell gyntaf y pwynt bwled cyntaf dan eitem 3.

           Yn y fersiwn Saesneg rhoi “interest received” yn lle “interest incurred” yn ail linell yr ail bwynt bwled dan eitem 3.

           Yn y fersiwn Saesneg rhoi “distributed” yn lle “distrusted” yn llinell gyntaf y trydydd pwynt bwled dan eitem 3.

           Nodi nad yw’r frawddeg yn y pedwerydd paragraff o dan eitem 3 sy’n dechrau “Mr Howse reported the External that a level of materiality was set at £3.7m which would apply to any local authority in Wales...” yn darllen yn dda a’i bod yn anghyflawn.

 

Materion yn codi –

 

Dywedodd Mr Dilwyn Evans, Aelod Lleyg, ei fod wedi gofyn yn y cyfarfod diwethaf am eglurhad ynghylch y Datganiad Cyfrifon mewn perthynas â’r llog a dderbyniwyd, ac yn benodol ynghylch y gwahaniaeth yn y ffigwr ar gyfer y llog a dderbyniwyd yn y Datganiad Cyfrifon drafft a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 1 Medi 2020 a’r ffigwr a welir yn y Datganiad Cyfrifon a gyflwynwyd yn y cyfarfod ar 13 Hydref, a’i fod wedi gofyn pam nad oedd y Cyfrif Incwm a Gwariant Cynhwysfawr yn adlewyrchu’r newid yn swm y llog a dderbyniwyd. Rhoddwyd sicrwydd y byddai esboniad am yr anghysondeb yn cael ei roi maes o law ond ni chafwyd ymateb. Ymddiheurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 am yr amryfusedd a chadarnhaodd y byddai’n darparu’r eglurhad y gofynnwyd amdano ar ôl y cyfarfod.

3.

Cyngor Sir Ynys Môn - Ymateb ac Adfer yn Sgîl Covid 19 - Sicrwydd Dros Dro pdf eicon PDF 144 KB

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad Archwilio Allanol yn ymgorffori canfyddiadau’r gwaith a wnaed o bell gan Archwilio Cymru i asesu ymateb y Cyngor i’r argyfwng Covid-19 a’i ymagwedd mewn perthynas ag adfer.

 

Adroddodd Mr Jeremy Evans, Archwilio Cymru, fod canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar gyfarfodydd pwyllgor yr oedd Archwilio Cymru wedi eu harsylwi, dogfennau a adolygwyd a oedd yn cynnwys papurau agenda a dogfennau mewnol a ddarparwyd gan y Cyngor, a chyfarfodydd a gynhaliwyd ar-lein gyda swyddogion a chynghorwyr allweddol. Roedd rhai o’r prif gasgliadau y daethpwyd iddynt yn cynnwys y canlynol -

 

           Mae’r Cyngor wedi cymryd camau i gadw ei staff a’r cyhoedd yn ddiogel gan roi ei drefniadau cynllunio argyfwng ar waith ym mis Mawrth 2020. Wrth symud ymlaen, mae’r Cyngor yn defnyddio cymysgedd o weithio gartref, yn y swyddfa ac ar safle. Wrth i fwy o wasanaethau’r Cyngor gael eu hailgyflwyno, cymerwyd camau ychwanegol i ddarparu amgylchedd diogel i’r cyhoedd a staff.

           Wrth edrych ymlaen, mae’r Cyngor wedi cydnabod bob amser fod technoleg gwybodaeth yn chwarae rhan bwysig o ran darparu gwasanaethau ac mae cyllideb 2020/21 yn nodi buddsoddiad pellach mewn TG i gefnogi darpariaeth gwasanaeth.

           Er y bu ambell enghraifft o anawsterau ar y cychwyn wrth drosglwyddo cyfarfodydd democrataidd ffurfiol i lwyfan digidol, mae’r Cyngor wedi addasu’n dda i’r amgylchedd cyfarfodydd newydd ac wedi dangos ymrwymiad i sicrhau fod y trefniadau newydd yn gweithio.

           Mae parodrwydd aelodau staff i gael eu hadleoli ac i wneud gwaith neu rolau gwahanol wedi cefnogi cymunedau ar yr Ynys ac wedi cyfrannu at wytnwch gwasanaethau’r Cyngor.

           Mae’r Cyngor wedi gwneud ymdrechion sylweddol i gyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd.

           Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi derbyn adroddiadau manwl sy’n amcangyfrif effaith ariannol gynnar y pandemig Covid-19, yn ogystal â nodi pwysau ar wasanaethau’r Cyngor yn y dyfodol.

           Mae’r Cyngor yn parhau i weithio ag ysgol lawn o bartneriaid er mwyn cynorthwyo cymunedau’r Ynys a’r rhanbarth ehangach.

 

Derbyniodd y Pwyllgor sicrwydd o ganfyddiadau dros dro Archwilio Cymru a nodir yn glir yn yr adroddiad a ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau ynghylch y cynnwys.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi canfyddiadau dros dro Archwilio Cymru fel y’u cyflwynir yn yr adroddiad.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL.

4.

Diweddariad ar Strategaeth a Blaenoriaethau Archwilio Mewnol 2020/21 pdf eicon PDF 307 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn rhoi diweddariad, fel ar 16 Tachwedd 2020, ar y gwaith Archwilio Mewnol ers yr adroddiad diwethaf i’r pwyllgor ar weithgareddau Archwilio Mewnol ym mis Medi 2020, ynghyd â’r blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a’r tymor canol. Roedd yr adroddiad yn fyrrach na’r adroddiad diweddaru chwarterol, yn unol â gofynion y Strategaeth Cyfarfodydd yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Cafwyd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol a Risg fel a ganlyn -

 

           Rhoddwyd diweddariad i’r Pwyllgor ynghylch y gwaith sicrwydd a gwblhawyd ers y diweddariad diwethaf, gan gyfeirio at y tabl ym mharagraff 6 yr adroddiad. O’r archwiliadau a restrwyd, rhoddwyd cyfradd Sicrwydd Sylweddol i dri ohonynt; Sicrwydd Rhesymol i ddau ohonynt a rhoddwyd graddfa Sicrwydd Cyfyngedig i ddau archwiliad arall - Rheoli Cronfeydd Answyddogol Ysgolion a Phroses Gadawyr. (Rhoddwyd copi ar wahân o’r adroddiadau Sicrwydd Cyfyngedig i aelodau’r Pwyllgor a’r Aelodau Portffolio perthnasol.) Ni restrwyd dau archwiliad arall yn y tabl, yn ymwneud â Grantiau Addysg - roedd un yn ymwneud â Grant Datblygu Disgyblion 2019/20 a’r llall mewn perthynas â’r Pwysau Ariannol yn gysylltiedig â’r Dyfarniad Cyflog i Athrawon - wedi cael eu cwblhau hefyd a rhoddwyd Sicrwydd Sylweddol i’r ddau.

 

Wrth fanylu ar y Cynllun Gweithredu a statws y risgiau/materion a nodwyd yn yr archwiliad Sicrwydd Cyfyngedig Rheoli Cronfeydd Answyddogol Ysgolion, dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg, er mai cyfrifoldeb cyrff llywodraethu ysgolion yw goruchwylio cronfeydd answyddogol ysgolion, bod risg i enw da yn gysylltiedig â chronfeydd o’r fath ac y cafwyd achosion o dwyll a chamreoli ar lefel genedlaethol a lleol. Gan fod cronfeydd answyddogol ysgolion yn gysylltiedig â gweithgareddau codi arian ac y gall symiau sylweddol o arian fod ynghlwm â nhw, ystyrir bod y posibilrwydd o dwyll yn uchel. O ystyried y cefndir hwn felly, penderfynodd y gwasanaeth Archwilio Mewnol asesu’r sefyllfa ar Ynys Môn a chynhaliwyd yr archwiliad ar y cyd â’r Gwasanaeth Dysgu. Amlygodd y Swyddog yr archwiliad fel enghraifft dda o’r diwylliant archwilio cydweithredol y bu’r Gwasanaeth Archwilio yn ceisio ei ddatblygu – ymatebodd y Gwasanaeth Dysgu yn ragweithiol i’r risgiau/materion a godwyd, gan olygu y cafodd llawer iawn o gynnydd ei wneud wrth fynd i’r afael â nhw. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Addysg fod lefel y cydweithio wedi bod yn rhagorol ac y byddai’r Gwasanaeth yn parhau i roi sylw i’r materion yn ystod y misoedd nesaf. Diolchodd yr Aelod Portffolio Addysg i’r ddau wasanaeth hefyd ac anogodd aelodau, yn rhinwedd eu rôl fel llywodraethwyr ysgol, i fynychu’r hyfforddiant a gynlluniwyd ynghylch rheoli cronfeydd ysgol yn effeithiol (roedd diffyg hyfforddiant yn un o’r risgiau/materion a godwyd) pan gadarnheir y trefniadau.

 

Yn yr un modd, cafodd y Pwyllgor ei dywys trwy’r adroddiad archwilio Sicrwydd Cyfyngedig Proses Gadawyr gan y Pennaeth Archwilio a Risg a chadarnhawyd fod Adnoddau Dynol wedi bod yn rhagweithiol hefyd wrth ymateb i’r risgiau a’r materion a godwyd gan yr archwiliad.

 

           Adroddwyd ar y gwaith ar y gweill, fel y gwelir yn y tabl ym mharagraff 9  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Gwerthuso Diogelu Data yn Ysgolion Ynys Môn - Ymweliad Gwerthusiad Cyntaf i Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Ynys Môn gan y Swyddog Diogelu Data Ysgolion Gorffennaf 2020 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Diogelu Data Ysgolion.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Swyddog Diogelu Data Ysgolion a oedd yn darparu dadansoddiad o sefyllfa ysgolion mewn perthynas â chydymffurfio â gofynion o dan ddeddfwriaeth diogelu data, ac yn bennaf y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau’r Swyddog Data Ysgolion yn dilyn yr ymweliad cyntaf ag ysgolion cynradd ac uwchradd, ac yn amlinellu’r camau nesaf i’w cymryd i sicrhau fod pob ysgol yn cydymffurfio â gofynion diogelu data cyn gynted â phosib.

 

Rhoddodd y Swyddog Diogelu Data Ysgolion wybodaeth gefndirol am yr ymweliadau gwerthuso i 45 o’r 46 ysgol gynradd ac uwchradd ar Ynys Môn a gynhaliwyd rhwng mis Hydref 2019 a mis Chwefror 2020 a chyfeiriodd at ganlyniadau’r ymweliadau gan roi crynodeb o’r canfyddiadau fel a ganlyn -

 

           Yn gyffredinol, mae arferion rheoli gwybodaeth dydd i ddydd mewn ysgolion yn dderbyniol ond nid yw’r mwyafrif o ysgolion wedi mabwysiadu polisïau a dogfennau allweddol cyfredol gan nad oedd nifer o’r dogfennau hyn wedi cael eu creu ar gyfer ysgolion cyn penodi’r Swyddog Diogelu Data Ysgolion. Mae’n hanfodol fod y polisïau a dogfennau craidd cyfredol yn cael eu mabwysiadu cyn gynted â phosib.

           Mae angen sicrhau bod prosesau diogelu data penodol, effeithiol a chadarn ar waith yn unol â pholisïau a dogfennau allweddol.

           Mae angen sicrhau bod gan ysgolion Gofnod o Weithgareddau Prosesu (ROPA), gan gynnwys mapiau llif data a Chofrestr Gwybodaeth sy’n cael eu diweddaru.

           Mae angen sicrhau fod gan ysgolion Hysbysiadau Preifatrwydd priodol sydd wedi cael eu diweddaru a’u bod ar gael ac yn cael eu rhannu ag unigolion.

           Mae angen cael trefniadau priodol ar waith gyda phroseswyr data lefel uwch a hefyd gydag ysgolion unigol.

           Mae angen gwneud mwy o waith ar y defnydd o ganiatâd.

           Mae angen diweddaru’r cynllun hyfforddi ac mae angen i ysgolion sicrhau bod eu staff wedi cwblhau’r uned ar-lein.

           Mae angen gwneud gwaith i sicrhau fod yr holl gyrff llywodraethu ysgolion yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu data a sut i sicrhau bod ysgolion yn cydymffurfio.

 

Gan fod y broses o gael polisïau, prosesau ac arferion ar waith i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data wedi cychwyn mewn ysgolion, roedd y Swyddog Diogelu Data yn gallu darparu Sicrwydd Rhesymol yn ei hasesiad o’r sefyllfa. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau fod yr holl ysgolion ar yr un lefel ac yn gweithredu’n gyson ar draws yr Ynys. O gofio bod Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar weithredu’r camau sydd angen eu cymryd a’r rhaglen waith ar gyfer cymeradwyo a mabwysiadu’r polisïau, yn ogystal â hyfforddiant yn gysylltiedig â chodi ymwybyddiaeth, rhoddodd y Swyddog ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed ers mis Gorffennaf 2020. Yn ogystal, amlinellodd y camau nesaf a nodwyd ganddi (y manylir arnynt yn adran 26 yr adroddiad hir ynghlwm i’r adroddiad) i sicrhau bod yr holl  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa ganol blwyddyn mewn perthynas â Rheoli Trysorlys 2020/21.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 grynodeb o’r prif bwyntiau mewn perthynas â gweithgareddau benthyca a buddsoddi ar ganol blwyddyn gan gyfeirio’n benodol at effaith Covid-19 a chadarnhaodd y cydymffurfiwyd â’r dangosyddion trysorlys a darbodus a nodir yn Natganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor 2020/21.

 

Roedd y pwyntiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol

 

           Bod y Cyngor yn parhau i roi blaenoriaeth i sicrhau diogelwch cyfalaf a hylifedd ac i dderbyn lefel briodol o enillion sy’n gyson ag archwaeth risg y Cyngor. Lle bo’n bosib, mae’r Cyngor yn defnyddio ei gronfeydd arian ei hun i ariannu gwariant cyfalaf ac nid yw’n benthyca mwy nag sydd ei angen nac yn benthyca cyn i’r angen godi. Fodd bynnag, mae’r gallu i fenthyca’n allanol i ad-dalu’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau os oes angen yn bwysig.

           Roedd gan y Cyngor £42.244m o fuddsoddiadau ar 30 Medi 2020 (£20.208m ar 31 Mawrth 2020). Oherwydd y grantiau mawr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddelio ag argyfwng Covid a’r ffaith bod cyfrifon galw ar gael i’r Cyngor, mae hyn wedi golygu bod y balansau yn y cyfrifon galw yn uwch na’r terfynau a gymeradwywyd yn y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol sydd wedi ei chynnwys yn y DSRhT am 2020/21. Er nad oedd modd rhagweld hyn, bydd terfynau gwrth bartïon yn cael eu hasesu a’u hadolygu wrth gynhyrchu’r DSRhT ar gyfer 2021/22.

           Oherwydd mai diogelwch yr arian yw dangosydd allweddol y Cyngor, ystyrir mai buddsoddiadau gydag awdurdodau lleol eraill yw’r ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian ac mae hyn yn rhoi enillion uwch na’r mwyafrif o gyfrifon galw gyda banciau. Mae’r tabl ym mharagraff 5.9 yr adroddiad yn dangos rhestr o fuddsoddiadau gydag awdurdodau eraill yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol.

           Er na fenthycwyd arian yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, rhagwelir y bydd angen benthyca yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Bydd angen benthyca i gyllido rhan o raglen cyfalaf 2020/21 a gwneir hynny trwy fenthyca mewnol a benthyca allanol. Mae’r benthyca allanol mewn perthynas â chyllido cost cyfalaf o £4.449m ar gyfer cerbydau newydd yn unol ag amodau’r contract gwastraff a ddyfarnwyd i Biffa. Mae’r Cyngor wedi rhagweld y bydd wedi cael benthyg £128.9m ar ddiwedd y flwyddyn a bydd wedi defnyddio £11.7m o gronfeydd llif arian yn lle benthyca.

           Nid oes unrhyw ddyledion wedi cael eu haildrefnu yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol hyd yma.

           Mae rhai newidiadau i sut y cyllidir y rhaglen gyfalaf oherwydd y disgwylir tanwariant sylweddol yn 2020/21 mewn cynlluniau cyfalaf, yn bennaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Cyfrif Refeniw Tai. Fel ar 30 Medi 2020, cafwyd gwariant cyfalaf o £11.471m yn erbyn cyllideb wreiddiol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Llythyr Archwilio : Cronfeydd Cyfun Rhanbarthol mewn perthynas â Lleoedd i Bobl Hyn mewn Cartrefi Gofal pdf eicon PDF 163 KB

Cyflwyno adroddiad gan Archwilio Allanol. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad Archwilio Allanol ynghylch cronfeydd cyfun rhanbarthol mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad ar ffurf dau lythyr, sef y llythyr at Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn a’r llall at y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn codi materion ynghylch gwerth am arian mewn perthynas â’r trefniadau cyllidebau cyfun presennol yng Ngogledd Cymru yn ymwneud â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal.

 

Adroddodd Mr Jeremy Evans, Archwilio Cymru, fod Archwilio Cymru wedi cwblhau dau adolygiad yn ddiweddar yn edrych ar ofal preswyl a gofal nyrsio yng Ngogledd Cymru, yn benodol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Wrecsam. Er bod yr adolygiadau’n edrych yn bennaf ar drefniadau lleol, roeddent yn ogystal wedi codi rhai pryderon penodol ynglŷn â chronfa gyfun ranbarthol Gogledd Cymru mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal sydd yn bartneriaeth rhwng pob un o’r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Daeth yr adolygiad i’r casgliad nad yw’r trefniant presennol lle mae arian gan y sefydliadau perthnasol yn cael ei drosglwyddo i gronfa gyfun a weinyddir gan Gyngor Sir Ddinbych a’i ddychwelyd i bob cyfrannwr 24 awr yn ddiweddarach, er ei fod yn bodloni’r gofynion sylfaenol o ran cydymffurfio â safonau Llywodraeth Cymru, yn cynnig gwerth am arian nac yn sicrhau unrhyw un o’r manteision a fwriadwyd drwy gronfa gyfun. Er nad yw Archwilio Cymru wedi profi’r trefniadau mewn rhanbarthau eraill, mae’n deall fod trefniadau cyffelyb ar waith. Mae’r wybodaeth a’r cynigion ar gyfer gwella trefniadau’r gronfa gyfunol wedi cael eu rhannu â Chyngor Môn fel un o bartneriaid y gronfa. Hysbyswyd Llywodraeth Cymru am y pryderon hyn a gofynnwyd am sicrwydd ganddynt ynghylch y camau y bwriadant eu cymryd i gefnogi cyflawniad cronfeydd cyfun yng Nghymru’n well.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud cytundeb cronfa gyfun ar gyfer llety cartref gofal i bobl hŷn. O ystyried gwerth cronfa gyfun ranbarthol Gogledd Cymru (oddeutu £100m), mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i wneud cytundeb o’r fath ac mae angen asesu’r risgiau a chytuno ar weithdrefnau ymlaen llaw. Gan na chynhaliwyd ymgynghoriad ymlaen llaw â’r cynghorau, ac oherwydd bod diffyg eglurder ynghylch amcanion y gronfa gyfun mewn perthynas â gwasanaethau llety cartref gofal ar gyfer pobl hŷn, trafododd y chwe awdurdod lleol a BIPBC eu hoblygiadau o ran cwrdd â’r gofynion technegol sylfaenol o dan y Ddeddf ac, yn seiliedig ar fodel a weithredwyd gan ranbarth Caerdydd, daethpwyd i’r trefniant a ddisgrifir yn Llythyr yr Archwiliwr lle mae cyfraniadau’n cael eu trosglwyddo i gronfa gyfun a’u dychwelyd ar yr un diwrnod. Er bod yr awdurdod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol, fel rhan o drafodaethau sydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 176 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at Ebrill 2021 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Penderfynwyd derbyn y Blaen Raglen Waith heb unrhyw newidiadau.

9.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 738 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol  

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

Pendefynwyd, o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

10.

Adroddiad Blynyddol Diogelwch Seibr 2019/20

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Blynyddol Diogelwch Seibr 2019/20 i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r bygythiadau seibr sy’n wynebu’r Cyngor ac yn darparu trosolwg o rai o’r camau lliniaru sydd ar waith gan y Cyngor i atal y bygythiadau hyn.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth TG a Rheoli Perfformiad bod rhwydwaith y Cyngor, fel unrhyw sefydliad arall sydd wedi cysylltu â’r rhyngrwyd, yn agored i ymosodiad a bod y wybodaeth helaeth y mae’r Cyngor yn ei chadw, gan gynnwys data sensitif, yn golygu ei bod yn hanfodol fod y risg o ymosodiad seibr llwyddiannus yn cael ei leihau cyn belled ag sy’n rhesymol bosib. Mae ymosodiadau seibr yn amrywio o ran eu dull a’u cymhlethdod ond maent yn gyson o ran eu bwriad i amharu, difrodi neu ddwyn. Mae’r Cyngor yn cydnabod y risg o ymosodiad seibr ac mae’n cael ei gofnodi felly yn y Gofrestr Risg Gorfforol sy’n cael ei monitro gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

Aeth y Rheolwr Gwasanaeth TG a Rheoli Perfformiad drwy’r adroddiad blynyddol gyda’r Pwyllgor a chyfeiriodd at y gwahanol fathau o ymosodwyr seibr a’r hyn sy’n eu cymell a’r gwahanol ffurfiau o ymosodiad seibr ac amlinellodd mewn termau cyffredinol y camau lliniaru sydd ar waith gan y Cyngor i leihau pa mor agored yw’r sefydliad i ymosodiadau seibr a digwyddiadau diogelwch ynghyd â’r sicrwydd y maent yn eu darparu.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor -

 

           Pwysigrwydd hyfforddiant diogelwch seibr wrth i fwy o wasanaethau gael eu darparu yn ddigidol ac wrth i gyfran sylweddol o’r gweithlu weithio ar-lein. Cyfeiriwyd yn benodol at unigolion megis yr aelodau Lleyg/Cyfetholedig ar bwyllgorau’r Cyngor sydd â mynediad at wybodaeth ond nad ydynt o reidrwydd yn cael eu cynnwys ym mhrotocolau neu hyfforddiant diogelwch seibr y Cyngor. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth TG a Rheoli Perfformiad y byddai’n codi’r mater ynghylch darparu hyfforddiant i unigolion nad ydynt yn gynghorwyr nac yn swyddogion gyda’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol.

           A gynhaliwyd unrhyw asesiad meintiol o lwyddiant y camau lliniaru a gymerwyd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth TG a Rheoli Perfformiad mai bwriad yr adnodd ychwanegol a ddarparwyd i’r gwasanaeth oedd gwella’r capasiti adrodd a dod ag amrywiol dechnegau ar gyfer nodi digwyddiad ynghyd er mwyn cyflwyno darlun cyflawn.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r sicrwydd y mae’n ei ddarparu.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL.

11.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 116 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol 

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Cofnodion:

Penderfynwyd, o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

12.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori’r Gofrestr Risg Gorfforaethol ddiwygiedig i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Adroddodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant fod y pandemig Covid-19 wedi achosi newid digynsail i fywyd bob dydd a’i fod wedi arwain at addasu’r blaenoriaethau ac o ganlyniad effeithiau’r lefel o risg rhagdybiedig. Adolygwyd yr holl risgiau corfforaethol ers i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol gael ei chyflwyno ddiwethaf i’r Pwyllgor ym mis Chwefror 2020 gyda phwyslais arbennig ar unrhyw effaith y gallai’r pandemig Covid-19 ei gael ar y risgiau hynny. Yn yr un modd, adolygwyd cofrestr risg pob gwasanaeth yng ngoleuni effaith Covid-19 ac mae unrhyw newidiadau sylweddol yn y risgiau sy’n deillio o hynny wedi cael eu hadlewyrchu yn y gofrestr risg gorfforaethol.

 

Amlygodd y Swyddog y newidiadau/diwygiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol yn sgil yr adolygiad ac maent yn cael eu crynhoi fel a ganlyn -

 

           Mae risg YM10 (effaith diwygio budd-daliadau ar y galw am wasanaethau) wedi cael ei gau a YM45 (Effaith tlodi ar y galw am wasanaethau) wedi ei roi yn ei le i gydnabod y ffaith nad yw tlodi wedi’i gyfyngu i’r rhai hynny sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.

           Yn ogystal ag YM45 uchod, ychwanegwyd pedwar risg newydd i’r gofrestr – YM43 (cysylltiedig â Covid-19) a YM44 (cysylltiedig â’r economi ymwelwyr), YM46 (cysylltiedig â thwyll) a YM47 (cysylltiedig â rheoli coed).

           Oherwydd newid mewn amgylchiadau a/neu gynnydd/lleihad mewn gweithgarwch rheoli, mae lefel y risg gweddilliol a/neu gynhenid wedi newid ar gyfer YM4 (iechyd a diogelwch), YM9 (effaith digwyddiad mawr), YM11 (diogelu), YM13 (newid demograffig), YM15 (moderneiddio ysgolion), YM29 (Sipsiwn a Theithwyr) a YM38 (gwytnwch TG) wedi newid.

           Nodwyd y prif risgiau (coch) i’r Cyngor fel YM9 (effaith digwyddiad mawr), YM28 (diogelwch seibr), YM38 (gwytnwch TG), YM40 (cysylltiedig â Brexit) a YM41 (cysylltiedig â Chyllido), YM43 (cysylltiedig â Covid-19)

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, eglurodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant y rhesymeg dros ailddiffinio YM10 trwy gyflwyno’r risg newydd YM45 ac esboniodd for YM44 yn gysylltiedig â gwella seilwaith, cyfleusterau a darpariaeth amwynderau mewn ymateb i gynydd mewn nifer ymwelwyr a oedd yn fater a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr haf.

 

Penderfynwyd nodi’r newidiadau i’r Gofrestr Risg Gorfforaethol fel rhan o drefniadau’r Cyngor ar gyfer rheoli ei risgiau ac i dderbyn sicrwydd bod yr Uwch Dîm Rheoli wedi cydnabod y risgiau mewn perthynas â chyflawni blaenoriaethau’r Cyngor a’i fod yn eu rheoli.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL.