Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 422 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 1 Medi, 2020.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi 2020.

3.

Datganiad o'r Cyfrifon 2019/20 ac Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 3 MB

·        Cyflwyno Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20.

 

·        Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol ar y Datagniadau Ariannol (Adroddiad ISA 260)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlygu’r prif faterion yn codi ers cyflwyno’r Datganiad Cyfrifon drafft i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 1 Medi 2020. Nodir y prif ddiwygiadau i’r cyfrifon drafft yn Adroddiad yr Archwiliwr (Atodiad 3 yn yr adroddiad). Proseswyd yr holl ddiwygiadau y cytunwyd bod angen eu hailddatgan gan Deloitte ac maent wedi eu cynnwys yn y Datganiad o’r Cyfrifon. Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Datganiad o’r Cyfrifon wedi cael ei gyflwyno i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf ac yna ym mis Medi ac na wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i’r Datganiad o’r Cyfrifon.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau fel a ganlyn:-

 

           Gofynnwyd am eglurhad ynghylch Nodyn 34 – Cydnabyddiaeth Ariannol i Swyddogion yn y Datganiad o’r Cyfrifon ar dudalen 58. Mae’n dangos fod gweithiwr yn y categori cyflog dros £120k, o gymharu ag uchafswm o £85k yn y Cyfrifon y llynedd. Dywedodd Mr Ian Howse, Deloitte, fod y mater yn ymwneud â phecyn diswyddo ar gyfer Pennaeth ysgol.

           Nodwyd fod y llog a gafwyd wedi cynyddu £37k o gymharu â’r swm yn y Datganiad o’r Cyfrifon drafft, a gofynnwyd a fyddai hynny’n cael effaith ar y tabl incwm a gwariant cynhwysfawr neu ar y tanwariant a ddatganwyd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y gallai’r newid fod yn gamgymeriad yn Nodyn 44d ac efallai nad yw wedi’i gynnwys yn y Datganiad Cyfrifon ei hun. Nododd y byddai’n rhoi sylw i’r anghysondeb maes o law.

           Gofynnwyd a rannwyd arian o Ymddiriedolaeth Elusennol David Hughes i gynorthwyo pobl ifanc yn yr ysgolion uwchradd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth er bod cyfeiriad at Ymddiriedolaeth Elusennol David Hughes yn y Datganiad o’r Cyfrifon, bydd adroddiad llawn ar Gyfrifon Ymddiriedolaeth Elusennol David Hughes yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod swm o £276,400 wedi’i drosglwyddo i ysgolion yn 2019 tuag at gostau anogwyr dysgu a bod pob ysgol uwchradd wedi derbyn swm o £8,560 tuag at grantiau i ddisgyblion.

 

Roedd Mr Ian Howse, Deloitte, yn dymuno llongyfarch y Cyngor ar gyflawni’r amserlen statudol wreiddiol ar gyfer cyhoeddi’r cyfrifon drafft ac am wneud gwaith o safon uchel iawn yn ystod cyfnod anodd oherwydd y pandemig Covid-19. Nododd y bydd mân gamgymeriadau teipio’n cael eu cywiro cyn cyflwyno’r adroddiad i Gyngor Llawn yr Awdurdod. Dywedodd Mr Howse fod y lefelperthnaseddwedi ei osod ar £3.7m sy’n berthnasol i unrhyw awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn seiliedig ar wariant blynyddol. Nododd fod rhywfaint o waith angen ei gwblhau, y cyfeirir ato ym mharagraff 5 yr adroddiad, a dywedodd y byddai gwaith ar y Rhwymedigaethau Pensiwn yn cael ei gwblhau a’i adolygu ar ôl derbyn sicrwydd SCR19 gan yr Archwiliwr y Gronfa Bensiwn yn ogystal â chasgliad mewn perthynas ag achosion McCloud a Goodwin. Dywedodd Mr Howse  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.