Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni/Yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 18fed Ionawr, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 289 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd 8 Rhagfyr 2022, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Datganiad o'r Cyfrifon 2021/22 ac Adroddiad ISA 260 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r canlynol 

 

·                    Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 – Datganiad o’r Cyfrifon 2021/22

 

·                    Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a ThrawsnewidDatganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22

 

·                    Adroddiad Archwilio Allanol ynghylch yr archwiliad o’r datganiadau ariannol (Adroddiad ISA 260)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, a oedd yn ymgorffori’r Datganiad Terfynol o’r Cyfrifon 2021/22 yn dilyn archwiliad, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y dyddiad cau statudol ar gyfer cwblhau’r cyfrifon archwiliedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 wedi’i ymestyn i 30 Tachwedd, 2021, i gyd-fynd â’r amodau gwaith mewn perthynas â phandemig Coronafeirws. Cafodd ei ymestyn ymhellach i 31 Ionawr, 2023 yn sgil dwy broblem dechnegol sylweddol a oedd yn effeithio ar bob cyngor yng Nghymru a Lloegr. Y broblem gyntaf oedd caniatáu gwerthusiadau ychwanegol ar gyfer asedau’r Cyngor nad ydynt wedi cael eu hailbrisio hyd at 31 Mawrth, 2022, a gallent fod wedi newid yn sylweddol mewn gwerth. Roedd yr ail yn berthnasol i ymdriniaeth o ran prisio a chyfrifo asedau seilwaith megis priffyrdd, celfi stryd, goleuadau stryd a llwybrau. Croesawodd crynodeb Archwilwyr Allanol a oedd yn nodi fod y cyfrifon wedi’u paratoi yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar Gyfrifon Awdurdod Lleol 2021/22; nid oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro, a bwriad yr Archwilwyr oedd datgan barn ddiamod ar gyfrifon 2021/22. Fodd bynnag, fe wnaeth y profion ar y cyfrifon ddod o hyd i rai newidiadau a oedd eu hangen, yn ogystal â rhai camgymeriadau, ac argymhellodd yr Archwilwyr Allanol eu bod yn cael eu cywiro i sicrhau bod y cyfrifon yn gywir yn eu hanfod. Ceir crynodeb o’r cywiriadau a wnaed yn Atodiad 3, adroddiad ISA 260 yr Archwiliwr; yn ogystal â hyn, mae rhai newidiadau bach eraill wedi’u gwneud ers cyflwyno’r datganiad ddrafft i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf, 2022, gan gynnwys tynnu peth o’r nodiadau eglurhaol nad oeddynt yn ychwanegu gwerth i’r cyfrifon, yn unol ag argymhelliad blaenorol a wnaed gan yr archwilwyr ynghylch symleiddio’r cynnwys. Ymhlith y newidiadau a materion eraill i’w nodi, mae -

·         O ran y Datganiad Gwariant ac Incwm Cynhwysfawr ac yn dilyn argymhelliad yr archwilwyr, dylid lleihau darpariaeth Safle Tirlenwi Penhesgyn o £228k yn unol ag adroddiad yr ymgynghorydd, a werthusodd y safle ac a argymhellodd darpariaeth o £4.411m yn hytrach na £4.639m, ac o ganlyniad i ailbrisio asedau. Mae’r gostyngiad yn narpariaeth Safle Tirlenwi Penhesgyn hefyd yn codi refeniw cronfa’r Cyngor ar gyfer 2021/22 i £5.026m ac yn codi arian wrth gefn cyffredinol Cronfa’r Cyngor I  £12.278m. Nid yw hyn wedi cael ei adrodd gan yr archwilwyr yn adroddiad ISA 260, gan nad yw’n werth sylweddol.

·         O ran y Fantolen, o ganlyniad i ailbrisio asedau’r Cyngor a oedd mewn perygl o gael eu tanbrisio’n sylweddol oherwydd cynnydd sylweddol mewn costau a chynnydd yng ngwerth eiddo ar y farchnad na chafodd eu hailbrisio hyd at 31 Mawrth, 2022. Mae’r prisiadau newydd wedi arwain at gynnydd o £24.6m i yng ngwerth asedau’r Cyngor o ddatganiad drafft y cyfrifon terfynol.

·           Mae’r newidiadau i’r ffigyrau yn y CIES a’r Fantolen a nodwyd uchod hefyd wedi effeithio ar ddatganiadau a nodiadau eraill yn y cyfrifon, gan gynnwys y Datganiad Llif Arian, ond mewn perthynas â phroses yn hytrach na’r lefel gwirioneddol o arian a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.