Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor , Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno’r canlynol –
· Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151- Datganiad o’r Cyfrifon 2023/24 · Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid – Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24 · Adroddiad Archwilio Allanol ynghylch yr archwiliad o’r datganiadau ariannol 2023/24 (Adroddiad ISA 260)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: · Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad Terfynol Cyfrifon 2023/24 yn dilyn archwiliad i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y dyddiad cau statudol ar gyfer cwblhau'r cyfrifon archwiliedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 wedi'i ymestyn i 30 Tachwedd, 2024 ar gyfer holl gynghorau Cymru. Cyflwynwyd Datganiad Cyfrifon drafft Cyngor Sir Ynys Môn 2023/24 i archwilwyr allanol y Cyngor, Archwilio Cymru i'w harchwilio ar 28 Mehefin 2024 a chânt eu hystyried gan y Cyngor Llawn ar 3 Rhagfyr cyn cael eu llofnodi. Cynhaliodd Archwilio Cymru adolygiad trylwyr o'r cyfrifon a'r trafodion ariannol mewn perthynas â 2023/24 a daeth i'r casgliad bod y datganiadau ariannol ym mhob agwedd berthnasol yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Cyngor ar 31 Mawrth 2024. Nododd y profion archwilio rai newidiadau a oedd eu hangen a chafodd yr holl wallau perthnasol yr argymhellodd y tîm archwilio eu diwygio i sicrhau bod y Cyfrifon yn sylweddol gywir. Ni effeithiodd yr un o'r diwygiadau i’r Datganiad Cyfrifon ar yr alldro sy'n parhau i fod ar danwariant o £1.732m fel yr adroddwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 23 Gorffennaf 2024. Mae'r rhan fwyaf o'r diwygiadau'n ymwneud â newidiadau ar y fantolen neu'r gwariant mewn perthynas ag incwm grant, ni chafodd effaith ar refeniw.
Arweiniodd Swyddog Adran 151 yr aelodau drwy'r diwygiadau i'r cyfrifon a amlinellwyd yn adran 3 yr adroddiad ac a nodir yn llawn yn adroddiad ISA 26O yr archwilwyr a gyflwynwyd ar wahân isod. Eglurodd sut yr oeddent yn effeithio ar y ffigurau yn y cyfrifon a'r nodiadau atodol. Diolchodd i staff cyfrifeg y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith i sicrhau bod y cyfrifon yn cael eu cwblhau'n brydlon ac i dîm Archwilio Cymru am eu dull proffesiynol a thrylwyr wrth gynnal yr archwiliad.
· Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023/24 i’w adolygu a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor cyn iddo gael ei gyflwyno i gael sêl bendith y Cyngor Llawn. Mae'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (cyflwynwyd y fersiwn ddrafft ohono i'r Pwyllgor roi sylwadau arno yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf, 2024) yn ceisio rhoi sicrwydd bod gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith yn ystod 2023/24 ar gyfer sicrhau bod ei fusnes yn cael ei gynnal yn unol â'r gyfraith a'r safonau priodol, bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu a bod cyfrif priodol ohono a'i fod yn cael ei ddefnyddio'n ddarbodus, yn effeithiol ac yn effeithlon. Bydd y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn rhan o Ddatganiad Cyfrifon terfynol 2023/24.
Diweddarodd y Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, Rhaglen a Pherfformiad y Pwyllgor ynghylch statws y materion llywodraethu a nodwyd yn Natganiad y flwyddyn flaenorol gan gadarnhau bod pedwar o'r pum cam gweithredu i roi sylw i’r gwendidau wedi'u cwblhau a bod y pumed ar y gweill. Cyfeiriodd at y materion llywodraethu a nodwyd yn natganiad 2023/24 a dywedodd, er mwyn rhoi sicrwydd, y byddai diweddariad ynglŷn â materion llywodraethu a'r ymateb ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |