Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai. Croesawodd yr Aelodau Lleyg newydd i'r Pwyllgor hefyd.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni ddaeth yr un i law.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 326 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 19 Ebrill, 2022 · 31 Mai, 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a ganlyn a chadarnhawyd eu bod yn gywir:-
• Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 19 Ebrill, 2022. • Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 31 Mai 2022.
Materion yn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 19 Ebrill, 2022:-
• Eitem 4 - Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o Arfer Da
Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad ynghylch y cyfeiriad a wnaed gan y byddai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn elwa o gael Swyddog Gwasanaethau Democrataidd wedi'i neilltuo iddo. Nododd fod Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Democrataidd wedi cadarnhau yn y cyfarfod y byddai'n trafod y gofynion gyda'r Pennaeth Archwilio a Risg ac y byddai'n adolygu'r sefyllfa bresennol a’r capasiti yn y Gwasanaethau Democrataidd i weld a fyddai modd darparu'r gwasanaeth. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod trafodaethau wedi'u cynnal ar y mater hwn a chan fod swydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd, y byddai'n briodol aros am ganlyniad y broses recriwtio a chynnal trafodaethau wedi hynny fel bod modd penodi Swyddog Gwasanaethau Democrataidd penodedig i'r Pwyllgor hwn.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2020/21 - Adroddiad y Cadeirydd PDF 396 KB Cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor am 2021/22 (Adroddiad y Cadeirydd). Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2020/2021 – adroddiad y Cadeirydd.
Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu’r Cyngor. Ei swyddogaeth yw darparu adnodd annibynnol a lefel uchel i gefnogi gwaith llywodraethu da a rheolaeth ariannol gref a rhoi sicrwydd annibynnol i'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu bod y fframwaith rheoli risg, y gwaith rheoli mewnol a chywirdeb yr adroddiadau cyllido a’r prosesau llywodraethu’n ddigonol. Mae canllawiau CIPFA yn nodi y dylai pwyllgorau archwilio adrodd yn rheolaidd ar eu gwaith i’r ‘rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu’ a chyflwyno adroddiad blynyddol o leiaf ar asesiad o’u perfformiad. Bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn yn ei gyfarfod a gynhelir 13 Medi, 2022 er gwybodaeth. Nododd fod cyfansoddiad y Pwyllgor wedi newid, gyda thraean o'r Pwyllgor yn Aelodau Lleyg a'r Cadeirydd yn gorfod bod yn Aelod Lleyg. Mae adran cyfansoddiad a threfniadau’r adroddiad yn cyfeirio at Gylch Gorchwyl y Pwyllgor a’r eitemau y mae’r Pwyllgor wedi’u trafod yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor. Cyfeiriodd at Dudalen 8 yr adroddiad - Rheoli’r Trysorlys ac yma amlygir adroddiadau y mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi’u derbyn gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 er mwyn cyflawni ei swyddogaeth fel rhan o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. Mae'r Adroddiad Blynyddol yn amlygu testun adroddiadau a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, y cwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor a'r ymateb a dderbyniwyd wedi hynny gan y Swyddog a p’run a yw'r Pwyllgor wedi penderfynu derbyn yr adroddiadau.
Ychwanegodd y Pennaeth Archwilio a Risg ei bod yn ofynnol i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilwyr gyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. Cyfarfu’r Pwyllgor yn ffurfiol (cyfarfodydd rhithwir) ar naw achlysur, oedd yn cynnwys tri chyfarfod arbennig, i ystyried Datganiad Cyfrifon drafft a therfynol 2020/2021 ac adroddiad yr Archwilwyr Allanol ar y Datganiadau Ariannol (Adroddiad ISA 260). Mae aelodaeth a phresenoldeb mewn cyfarfodydd yn ystod 2021/2022 ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad. Cafodd aelodau'r Pwyllgor hyfforddiant ar ddeddfwriaeth newydd, arweiniad proffesiynol ac ymchwil a gellir gweld y presenoldeb yn Atodiad B yr adroddiad. Gofynnir i Aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gwblhau hunanasesiad o'u gwybodaeth a'u sgiliau a fydd o gymorth i ddatblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer anghenion hyfforddi a datblygu Aelodau'r Pwyllgor. Mae ystod eang o gyrsiau ar gael i’r Pwyllgor gyda rhai cyrsiau, yn orfodol yn unol â chyfrifoldeb Aelodau’r Pwyllgor h.y. Hyfforddiant Rheoli’r Trysorlys, GDPR. Nododd y cynhelir trafodaeth yn ystod yr haf gyda'r Cadeirydd ynghylch y sesiynau hyfforddi y cred sy’n orfodol i'r Pwyllgor.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Pwyllgor, sef a oedd yn rhaid i’r Pwyllgor hwn asesu effeithlonrwydd/effeithiolrwydd yr effaith y mae’n ei chael yn y Cyngor ac y byddai’n arfer da ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 20221/22 PDF 987 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg mewn perthynas â'r uchod. Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2021/22 i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith Archwilio Mewnol a wnaed yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth, 2022 ac, ar sail hynny, rhoddodd y Pennaeth Archwilio Mewnol a Risg ei barn gyffredinol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cyngor yn ystod y flwyddyn, sydd hefyd yn llywio Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor. Amlygodd y Pennaeth Archwilio a Risg y gwaith a wnaed gan Archwilio Mewnol a chyfeiriodd at archwiliadau’r Gofrestr Risg Strategol sy’n monitro’r adolygiad cynhwysfawr o risgiau’r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol. Yn ystod 2021/2022 graddiwyd 13 o risgiau’n rhai â sgôr risg weddilliol goch neu oren ac fe’u cofnodwyd mewn cofrestr risg strategol. Mae gwaith Archwilio arall a wnaed yn cynnwys pryderon a godwyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, y Prif Weithredwr a'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth. At ei gilydd, roedd yr Adain Archwilio yn gallu rhoi sicrwydd ‘Rhesymol’ neu uwch ar gyfer 67% (78% yn 2020/2021) o’r archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod 2021/2022. Cafodd chwe archwiliad (25%) sicrwydd ‘Cyfyngedig’ yn ystod y flwyddyn, o gymharu â phump (25%) yn 2020/2021. Cyflwynir yr adroddiadau sicrwydd ‘Cyfyngedig’ i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ynghyd â’r Cynllun Gweithredu sy’n amlygu bwriadau rheolwyr i reoli’r risgiau a godwyd gan Archwilio a bydd cyfle i’r Pwyllgor gwestiynu’r gwasanaeth perthnasol lle rhoddir sicrwydd ‘Cyfyngedig’. Ychwanegodd na chafodd unrhyw archwiliadau sicrwydd ‘Na’ ac ni chodwyd unrhyw ‘faterion/risgiau critigol’ (coch) yn ystod y flwyddyn. Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg at y dull modern o godi ‘Materion/Risg’ yn hytrach na gwneud argymhellion sy’n caniatáu i’r Gwasanaethau reoli eu risgiau eu hunain a datrys problemau. Cyfeiriodd at y ‘Camau Cyfredol a Hwyr’ ar dudalen 10 yr adroddiad a nododd fod yr Adain Archwilio’n monitro’r holl gamau gweithredu ac yn mynd ar eu trywydd gyda’r rheolwyr pan fyddant yn ddyledus i sicrhau y rhoddwyd sylw effeithiol iddynt. Fel y gwelir ar y siart ar dudalen 12 yr adroddiad, mae’r rheolwyr wedi rhoi sylw i 94% (90% yn 2020/21) o’r ‘Materion/Risgiau’ a godwyd. O bryd i'w gilydd, caiff dyddiadau targed eu hymestyn ar gyfer rhai gweithredoedd, ond dim ond os gall y gwasanaeth ddangos rheswm dilys dros yr estyniad. Oherwydd argyfwng Covid-19, estynnwyd nifer o derfynau amser targed i wasanaethau y mae eu blaenoriaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi canolbwyntio’n llwyr ar ymateb i’r pandemig. Ychwanegodd y Pennaeth Archwilio a Risg nad oedd unrhyw faterion o risg uchel sylweddol sy'n cyfiawnhau eu cynnwys yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac yn ystod 2021/2022 cafwyd bod uwch-reolwyr yn gefnogol ac yn ymatebol i'r materion a godwyd. Cyfeiriodd ymhellach at adolygiad o hunanasesiad o arfer da’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2020, gan Banel yn cynnwys Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor, Aelod Lleyg a’r Prif Archwilydd. Cyflwynai adolygiad lefel uchel oedd yn ymgorffori’r egwyddorion allweddol a nodir yn Natganiad Sefyllfa CIPFA a’r canllawiau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Strategaeth Archwilio Mewnol 2022/23 PDF 628 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd - Strategaeth yr Archwilwyr Mewnol 2022/2023.
Dywedodd y Pennaeth Archwilio Mewnol a Risg fod Safonau Archwilwyr Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pennaeth Archwilio a Risg sefydlu strategaeth yn seiliedig ar risg i bennu blaenoriaethau gwaith yr archwilwyr mewnol, sy’n gyson â nodau’r Cyngor. Wrth flaenoriaethu'r adnoddau cyfyngedig, mae angen gwneud digon o waith i’r Pennaeth Archwilio a Risg allu cyflwyno barn yr archwiliwyr mewnol blynyddol i'r Cyngor er mwyn llywio ei Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol. Defnyddir y Gofrestr Risg Strategol i bennu'r blaenoriaethau ar gyfer gwaith yr archwiliwyr mewnol ac, yn ogystal, cynhelir trafodaethau gyda'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth a Phenaethiaid Gwasanaeth i drafod eu barn ar y meysydd arfaethedig i'w hadolygu a'u meysydd pryder. Byddir yn adolygu’r blaenoriaethau yn ôl yr angen, eu haddasu mewn ymateb i newidiadau ym musnes, risgiau, gweithrediadau a rhaglenni’r Cyngor i sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol. Er mwyn sicrhau bod yr Archwilwyr Mewnol yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i'r Cyngor, mae mwyafrif y gwaith yn canolbwyntio ar adolygu'r risgiau coch ac ambr gweddilliol ar y gofrestr risg strategol. Ar hyn o bryd, mae'r gofrestr risg strategol yn cynnwys pum risg lle mae'r Cyngor wedi asesu'r risg gynhenid a gweddilliol yn goch fel y gwelir yn yr adroddiad. Wedi defnyddio holl alluoedd technegol TG, mae Archwilwyr TG Cyngor Dinas Salford wedi'u comisiynu i gynnal rhaglen waith i roi sicrwydd i'r Cyngor bod ei wendidau TG yn cael eu rheoli'n effeithiol. Yn ystod 2021/22, ar wahân i gefnogi Llywodraeth Cymru gyda’i Menter Twyll Genedlaethol, cynnal ymchwiliadau adweithiol a chynnal adolygiad o dwyll a llygredd ym maes caffael, lleihawyd y rhaglen atal twyll oherwydd problemau gyda chapasiti. Ymhlith y cynlluniau roedd darparu hyfforddiant a phecyn e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth a nodi’n rhagweithiol dwyll yn y sefydliad. Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg ymhellach at y gwaith adolygu Gweinyddu Pensiynau Athrawon a gafwyd yn sgil cwynion am fylchau yng nghofnodion gwasanaeth pensiynadwy rhai athrawon a drafodwyd, yn fanwl, yn yr eitem flaenorol. Nododd y penderfynwyd archwilio gweinyddiaeth Cynllun Pensiynau Llywodraeth Leol hefyd.
Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio a Risg at y 'Cronfeydd Ysgol Answyddogol' sydd yn gronfeydd y tu allan i gyllideb ddirprwyedig yr ysgolion ac mae'r Archwiliwyr Mewnol yn parhau i gefnogi'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i roi sicrwydd y cyfrifir yn briodol am incwm a gwariant o fewn ysgolion answyddogol a bod y trefniadau llywodraethu’n briodol. Bydd hyn yn cynnwys adborth a rhagor o hyfforddiant i Benaethiaid, ac yn sicrhau ansawdd tystysgrifau archwilio cronfeydd ysgol. Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y byddai rheolaeth ariannol mewn Ysgolion yn elwa o gael ei adolygu’n agosach. Parhau i fonitro'r system credydwyr i ddadansoddi data mewn perthynas â thaliadau dyblyg a thwyll. Ychwanegodd y byddai Gwaith Heb ei Wneud ers 2021/2022 yn cael ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Archwilio Allanol: Cynllun Archwilio 2022 - Cyngor Sir Ynys Môn PDF 969 KB Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol. Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yr Archwiliwyr Allanol oedd yn cynnwys y Cynllun Archwilio arfaethedig ar gyfer blwyddyn archwilio 2022. Roedd y Cynllun yn nodi'r gwaith y bwriedir ei wneud mewn perthynas â'r archwiliad ariannol, y rhaglen archwilio perfformiad am y flwyddyn, ynghyd â'r rhaglen o waith ardystio grantiau ac amserlen adrodd ar yr archwiliad. Dywedodd Ms Yvonne Thomas, Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru fod effaith pandemig Covid-19 yn dal i gael effaith na welwyd mo’i thebyg o’r blaen ar waith sefydliadau’r sector cyhoeddus ac efallai y byddai angen adolygu amserlen y gwaith. Bydd yr Archwilwyr Allanol yn cyhoeddi tystysgrif ac adroddiad ar waith Archwilio datganiadau ariannol. Cyfeiriodd at y risgiau fel y gwelir yn Nhabl ar Dudalen 6 yr adroddiad. Ychwanegodd yr amcangyfrifir y byddai'r ffi a nodir yn y Cynllun Ffioedd yn cynyddu 3.6%. Cyfeiriodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru, at y tabl ar Dudalen 10 yr adroddiad mewn perthynas â rhaglen archwilio perfformiad 2022/2023. Cyfeiriodd at yr Asesiad Sicrwydd a Risg a nododd mai'r pedwar maes prosiect fydd yn canolbwyntio ar Ynys Môn fydd: Sefyllfa ariannol; Rheoli’r Rhaglen Gyfalaf; Defnyddio gwybodaeth perfformiad – gan ganolbwyntio ar adborth a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth a gosod amcanion llesiant, ac Adolygiad thematig – gofal heb ei drefnu, a nododd mai’r bwriad yw cynnal adolygiad traws-sector yn canolbwyntio ar lif cleifion allan o’r ysbyty. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried sut mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda’i bartneriaid i roi sylw i’r risgiau sy’n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol i gefnogi pobl i gael gadael yr ysbyty, yn ogystal ag atal pobl rhag mynd i’r Ysbyty yn y lle cyntaf. Bydd y gwaith hefyd yn ystyried pa gamau sy'n cael eu cymryd i roi atebion yn y tymor canolig i’r tymor hwy. Ychwanegodd Mr Alan Hughes y cynhelir Adolygiad Lleol o'r gwasanaeth cynllunio. Mewn ymateb i gwestiwn mewn perthynas â diweddariad ar y 'Risg Archwilio' yn ymwneud â'r ffaith bod y Cyngor wedi rhoi gwybod y byddai'n symleiddio Datganiad Cyfrifon 2020/21, dywedodd Mr Gareth Evans, Arweinydd yr Archwiliwyr (Archwiliwyr Ariannol), mai mater i’r Cynghorau unigol yw’r hyn y maent yn ei gynnwys yn eu Datganiadau Ariannol. Nododd y gall symleiddio'r cyfrifon arwain at ansawdd uchel a gall fod yn haws i'w ddeall. Mae'r Cyngor wedi dweud ei fod wedi rhoi mesurau ar waith i wella ansawdd y datganiad cyfrifon drafft a'r papurau ategol. Ni fydd effaith effeithiolrwydd y mesurau hyn yn hysbys hyd nes y cyflwynir y wybodaeth i'w harchwilio yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Uwch-reolwr yn yr Adran Gyllid. Ychwanegodd y câi Adroddiad Diweddaru ar y Cyfrifon Drafft ei gyflwyno i gyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod yr argymhellion a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru wedi'u hystyried a bod mesurau wedi'u cymryd i wella'r Datganiad Cyfrifon ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Archwilio Allanol: Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru - Cyngor Sir Ynys Môn PDF 258 KB Cyflwyno diweddariad chwarterol Archwilio Allanol. Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor er gwybodaeth, adroddiad yr Archwilwyr Allanol yn ymgorffori Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru a ddiweddarwyd 31 Mawrth, 2022. Roedd y rhaglen yn amlinellu'r amserlen gyhoeddi a statws ariannol a pherfformiad cyfredol y gwaith archwilio ynghyd ag astudiaethau cenedlaethol Llywodraeth Leol ac adroddiadau cenedlaethol Archwilio Cymru sydd wedi'u cynllunio ac ar y gweill.
PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad chwarterol ar Raglen ac Amserlen Archwilio Cymru hyd at 31 Mawrth, 2022.
|
|
Cyngor Sir Ynys Môn - Cymhorthdal Budd-dal Tai PDF 303 KB Cyflwyno’r canlynol –
· Llythyr gan Archwilio Cymru
· Ymateb y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad yr Archwilwyr Allanol i'r Pwyllgor ei ystyried yn ymgorffori argymhellion Archwilio Cymru mewn perthynas â'r Cymhorthdal Budd-dal Tai.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod angen rhoi sylw i bedair elfen o'r Cymhorthdal Budd-dal Tai fel yr amlinellwyd yn yr ohebiaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor. Nododd fod yr Adain Budd-daliadau wedi wynebu problemau recriwtio a'r anawsterau a achosir gan staff yn gorfod gweithio o gartref. Yn ogystal, bu’n hynod oanodd cael staff asiantaeth ychwanegol, sydd â’r profiad angenrheidiol, ac sy’n gyfarwydd â system Northgate, i wneud y gwaith i Ynys Môn yn y tymor byr. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar adolygu gwallau a sefydlu rhaglen hyfforddi ar gyfer staff a hyfforddiant wedi'i dargedu er mwyn rhoi sylw i'r gwallau penodol a nodwyd a bod gwaith ailstrwythuro'r Tîm Budd-daliadau yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod trafodaethau wedi'u cynnal gydag Archwilio Cymru, bod y gwaith sy'n weddill ar gyfer y flwyddyn 2019/2020 i'w gwblhau erbyn Haf 2022; gwaith 2020/21 sy'n weddill i'w gwblhau erbyn Tachwedd/Rhagfyr 2022 a gwaith 2021/22 sy'n weddill i'w gwblhau erbyn dechrau 2023. Y gobaith yw y byddir yn ymdrin â'r Cymhorthdal Budd-dal Tai unwaith y bydd yr ôl-groniad presennol wedi'i glirio, a hynny mewn modd amserol a chyda gostyngiad yn lefel y profion archwilio sydd eu hangen.
Dywedodd y Cadeirydd y dylid cyflwyno adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor bob chwarter mewn perthynas â'r Cymhorthdal Budd-dal Tai. Dywedodd Mr Alan Hughes, Arweinydd Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru y bydd Adroddiad Diweddaru Chwarterol Archwilio Cymru i'r Pwyllgor yn rhestru'r hawliadau unigol sy'n weddill a bydd hyn yn rhoi syniad i’r Pwyllgor am y cynnydd yn ystod y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:- derbyn argymhellion Archwilio Cymru.
|
|
Adolygiad o'r Blaen Raglen Waith PDF 238 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg. Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn cynnwys adolygiad o’r Blaenraglen Waith ar gyfer 2022-23.
Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y rhaglen wedi’i datblygu ar ôl ystyried cyfrifoldebau newydd y Pwyllgor o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a’r diwygiadau yn sgil hynny i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. Roedd Aelodau'r Pwyllgor o'r farn bod llwyth gwaith cyfarfod mis Medi 2022 yn helaeth ac awgrymwyd y dylid galw cyfarfod ychwanegol rhwng Hydref/Tachwedd, 2022. Ystyriwyd hefyd bod angen ymgorffori yn y Blaenraglen Waith Sesiynau Hyfforddi a drefnwyd i drafod eitemau penodol y mae gofyn eu cynnwys.
PENDERFYNWYD:-
• derbyn y Blaenraglen Waith Ddangosol a gynigir ar gyfer 2022/23 fel un sy’n bodloni cyfrifoldebau newydd y Pwyllgor yn unol â Chylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor; • cynnwys cyfarfod ychwanegol yn y Blaenraglen Waith ar gyfer Hydref/Tachwedd, 2022. • cynnwys y Sesiynau Hyfforddi a drefnwyd yn y Blaenraglen Waith.
|