Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 409 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft o’r cyfarfodydd Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

   8 Medi, 2020 (Cyfarfod Arferol)

   8 Medi, 2020 (Cyfarfod Blynyddol)

   27 Hydref, 2020 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfodydd canlynol y Cyngor Sir yn gywir: -

 

  • 8 Medi 2020 (Cyfarfod Cyffredin)
  • 8 Medi 2020 (Cyfarfod Blynyddol)
  • 27 Hydref 2020 (Arbennig)

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Derbyn unrhyw ddatganiadau gan y Cadeirydd, yr Arweinydd, neu'r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y cyhoeddiadau isod gan y Cadeirydd:-

 

·        Roedd y Cadeirydd yn dymuno diolch i'r staff am y gwaith diflino mewn blwyddyn anodd sydd wedi gweld sawl her a gobeithir yn ddiffuant y bydd pethau'n gwella yn ystod y misoedd i ddod.

·           Llongyfarchiadau i Ffermwyr Ifanc Ynys Môn sydd wedi derbyn gwobr yn ddiweddar am eu gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid o ganlyniad i drefnu Eisteddfod Môn 2019. 

 

 

*         *          *          *          *

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o'r Cyngor neu staff a oedd wedi cael profedigaeth.

 

4.

Rhybydd o Gynnig yn Unol â Rheol 4.1.13.1 y Cyfansoddiad

Cyflwyno Rhybudd o Gynigiad gan y Cynghorydd Bryan Owen, wedi’i gymeradwyo gan y Cynghorydd Aled Morris Jones:-

 

Rydym ni, Grŵp Annibynwyr Môn, yn gwneud cais bod Ynys Môn yn cymryd yr holl fesurau i sicrhau llesiant economaidd Ynys Môn yn yr hinsawdd economaidd yn dilyn Brexit ar ôl 1 Ionawr 2021. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - y Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Bryan Owen ac a gymeradwywyd gan y Cynghorydd Aled Morris Jones: -

 

‘Rydym ni, Grŵp Annibynwyr Môn, yn gwneud cais bod Ynys Môn yn cymryd yr holl fesurau i sicrhau llesiant economaidd Ynys Môn yn yr hinsawdd economaidd yn dilyn Brexit ar ôl 1 Ionawr 2021.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen fod Ynys Môn, fel llawer o awdurdodau lleol eraill, wedi elwa o arian gan yr UE dros y blynyddoedd. Holodd pa gamau y mae'r Awdurdod yn eu cymryd i sicrhau'r cyllid ffyniant y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei ragweld yn dilyn Brexit. Dywedodd y Cynghorydd Owen fod angen i Ynys Môn sicrhau cefnogaeth ariannol fel yr oedd yn ei dderbyn cyn gadael yr UE yn y cyfnod ar ôl Brexit.

 

Eiliodd y Cynghorydd Aled M Jones y Cynigiad a rhoddodd drosolwg o brosiectau sydd wedi cael cefnogaeth ar yr Ynys. Dywedodd  ymhellach: -

 

·        Bod angen cynnal adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd, a hynny ar fyrder, gan nad yw'r Cynllun yn gynaliadwy i ddatblygu cymunedau lleol Ynys Môn;

·        Rhagwelir canlyniad y Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer Wylfa Newydd erbyn diwedd eleni;

·        Mae statws Porthladd Rhydd o'r pwys mwyaf i ddyfodol Caergybi;

·        Mae angen cryfhau'r cysylltiadau rhwng yr Awdurdod hwn a Sir Benfro a Dun Laoghaire.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n ymateb i'r Cynigiad sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Cyngor. Ychwanegodd fod yn rhaid cydnabod bod yr Awdurdod wedi dangos gwytnwch wrth wynebu pandemig Covid-19 sydd hefyd wedi bod yn digwydd ar yr un pryd â Brexit. Mae'r Awdurdod wedi cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i hymgynghorwyr Grant Thornton UK LLP i lywio a dylanwadu ar adolygiad o effeithiau economaidd posib a fyddai'n dylanwadu ar lesiant ar Ynys Môn. Mae'r papur a gyhoeddwyd yn ymwneud â Chymru ac yn asesu dwy senario, sef gadael gyda chytundeb a gadael heb gytundeb o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Bydd y papur yn cynorthwyo i lywio prosesau cynllunio ariannol awdurdodau lleol er mwyn sicrhau, gyda gobaith, y gellir lleihau i'r eithaf unrhyw effeithiau negyddol ar les economaidd i'r dyfodol. Mae’r Byrddau  Pontio sy’n cael eu paratoi gan yr ymgynghorwyr Grant Thornton UK LLP yn diffinio meysydd pryder allweddol ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol. Mae cofrestr risg Brexit yr Awdurdod wedi rhoi sylw i risgiau i wasanaethau allweddol a nodi camau lliniaru lle bo angen i amddiffyn lles yr Ynys ac mae'n cael ei diweddaru a'i hadolygu bob wythnos. Mae Cydlynydd UE y Cyngor Sir yn parhau i weithio gyda'r holl wasanaethau i adolygu canllawiau a gwybodaeth newydd ac i sicrhau bod camau angenrheidiol yn cael eu cymryd. Canolbwyntiwyd yn arbennig ar y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg i asesu effeithiau ar danwydd gwresogi, bwyd; TG mewn perthynas â data; Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â Gwarchod y  Cyhoedd a busnesau lleol. Dywedodd yr Arweinydd ymhellach fod cryn ffocws ar gydweithredu amlasiantaethol i reoli’r effaith ar draffig ym Mhorthladd Caergybi oherwydd oedi posib a achosir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeisebau’n unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

 

6.

Mabwysiadu'r Ddogfen Cyflawni Blynyddol 2020-22 pdf eicon PDF 5 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol am y cyfnod o 18 mis rhwng Hydref, 2020 a Mawrth, 2022 i'w dderbyn gan y Cyngor. Mae'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn canolbwyntio ar y gwaith y bydd yr Awdurdod yn ei wneud i gyflawni dyheadau a osodwyd yng Nghynllun y Cyngor Sir am y cyfnod 2017-22.

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor yr adroddiad gan dynnu sylw at y ffaith bod y Ddogfen Gyflawni yn cwmpasu cyfnod o 18 mis yn hytrach na'r 12 mis arferol. Er bod drafftio’r ddogfen mewn cyfnod o newid ac ansicrwydd wedi bod yn heriol oherwydd y pandemig a Brexit, y nod fu datblygu rhaglen o waith sy’n realistig ac yn gyraeddadwy. Gan roi ei bersbectif personol, nododd yr Aelod Portffolio bod hyrwyddo economi'r Ynys trwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, cynyddu'r cyflenwad tai, moderneiddio ysgolion a datblygu cynllun gweithredu ar gyfer atal newid  hinsawdd yn feysydd allweddol. Mae'r Ddogfen hefyd yn cynnwys pedair rhaglen adfer thematig a fydd yn arwain y ffordd allan o'r pandemig tuag at adferiad economaidd, adfer cyrchfannau, adferiad cymdeithasol a chymunedol ac adferiad sefydliadol; bydd y rhaglenni manwl ar gael yn y Flwyddyn Newydd.

Cynigiodd y Cynghorydd Aled M Jones, os bydd amgylchiadau’n caniatáu yn y misoedd nesaf, a chan gydnabod bod misoedd anodd i ddod oherwydd y pandemig, fod cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ym mis Mai 2021 a bod gwasanaeth o ddiolch yn cael ei drefnu ar yr adeg briodol ar gyfer y rheini sydd wedi diogelu a chefnogi eu cymunedau yn ystod y pandemig. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod y Tîm Rheoli Ymateb i'r Argyfwng yn cyfarfod bob wythnos a bod y materion hyn wedi'u trafod; cynhelir cyfarfodydd yn Swyddfeydd y Cyngor pan fydd yn briodol gwneud hynny a hefyd bydd angen ystyried gwasanaeth o ddiolch.

Tynnwyd sylw'r Cyngor gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd at nifer o gyflawniadau yn ei bortffolio.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2020/2022.

 

(Ymataliodd y Cynghorwyr A M Jones, R Ll Jones, Bryan Owen a P S Rogers rhag pleidleisio).

 

7.

Cynllun Twf Terfynol pdf eicon PDF 8 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod carreg filltir arwyddocaol wedi’i chyrraedd yng Nghais Bargen Twf Gogledd Cymru sydd yn benllanw proses hir y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyfrannu’n llawn ati. Diolchodd i Swyddogion sydd wedi gwasanaethu ar yr ystod o fyrddau sy'n datblygu'r Cais ac sydd wedi arwain at yr achlysur hanesyddol hwn; y gobaith yw y bydd y rhaglen hon o fuddsoddiad economaidd mawr y mae gwir angen amdano yn rhanbarth Gogledd Cymru yn cynhyrchu canlyniadau a chyfleoedd cyflogaeth yn gyflym ar adeg pan fo pandemig Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar yr economi.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei bersbectif ef fel Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd a chroesawodd y cydweithrediad rhanbarthol a oedd yn sail i'r Cais  Bargen Twf ac a oedd wedi'i wneud yn bosib, a chydnabu hefyd waith Swyddogion a fu'n symud y Fargen ymlaen trwy wahanol gamau. Mae'r Cytundeb yn cynnig cyfleoedd ar raddfa na fyddai ar gael i'r awdurdodau yn gweithio ar eu pennau eu hunain ac yn cynnig y gobaith o adfywiad economaidd ar gyfer Ynys Môn yn ogystal â'r rhanbarth ar adeg dyngedfennol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·        Cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

·        Cymeradwyo’r darpariaethau yn y GA2 mewn perthynas â swyddogaethau anweithredol, ac yn benodol mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer Sgriwtini a amlinellir yn Atodiad 3 y ddogfen honno, fel sail ar gyfer cwblhau’r cytundeb terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

·        Awdurdodi’r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i arwyddo’r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid.

·        Cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo’r gost benthyca sydd ei angen er mwyn hwyluso’r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf ac i gynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu fel sydd wedi’i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 2.5. - 2.7 yn yr adroddiad).

·           Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151 i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau’r cytundeb.

8.

Diwygio'r Amserlen Gyfansoddiadol mewn perthynas â phennu Cyllideb y Cyngor pdf eicon PDF 307 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 30 Tachwedd, 2020 i'w dderbyn gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 9 o’r adroddiad, a

·           bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Swyddog Monitro wneud unrhyw newidiadau dilynol i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r diwygiadau a gymeradwywyd yn 10.1 o’r adroddiad.

 

9.

Adolygiad o Drefniadau Etholiadol Cyngor Sir Ynys Môn gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru pdf eicon PDF 288 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 23 Tachwedd 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w dderbyn gan y Cyngor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar 23 Tachwedd, 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o drefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.

 

(Ymataliodd y Cynghorwyr A M Jones, Bryan Owen a Peter Rogers rhag pleidleisio).