Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 226 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  27 Medi, 2016

  18 Hydref, 2016 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 27 Medi 2016 a 18 Hydref 2016 (arbennig) a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd R. Meirion Jones ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 7 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Richard Dew ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 8 ar y rhaglen.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol:

 

  Llongyfarchwyd pawb a oedd yn llwyddiannus yn y Ffair Aeaf a gynhaliwyd ym Mona fis diwethaf a hefyd yn Llanfair ym Muallt.

  Llongyfarchwyd Ffermwyr Ifanc Ynys Môn a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc a gynhaliwyd yn Abertawe.

  Diolchwyd i staff a defnyddwyr gwasanaeth Blaen y Coed a Gerddi Heulfre am addurno Coeden Nadolig y Cyngor Sir yng nghyntedd Cyswllt Môn.

  Gyda thristwch y clywodd y Cyngor Sir am farwolaeth un o’i gyn aelodau, Mrs Bessie Burns, a oedd yn 89 mlwydd oed. Etholwyd Mrs Burns yn Gadeirydd y Cyngor Sir yn 2003/04 ac roedd yn cynrychioli etholaeth Llanfaethlu. Yn ystod ei gyrfa fel cynghorydd sir, dangosodd Mrs Burns ddiddordeb arbennig yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

  Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Safodd yr Aelodau a Swyddogion a oedd yn bresennol mewn tawelwch fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Cyngerdd Nadolig yng Nghanolfan Addysg y Bont y cafodd bleser mawr o’i fynychu, a diolchodd ar ran y Cyngor i staff a disgyblion Canolfan Addysg y Bont am eu gwaith caled. Dymunodd y Cadeirydd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd heddychlon i bawb a oedd yn bresennol.

4.

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau yn unol â’r rheol hon.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeisebau’n unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad, cyhoeddodd y Cadeirydd bod rhieni disgyblion Ysgol Talwrn wedi cyflwyno deiseb yn gwrthwynebu cau’r ysgol. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r ddeiseb yn cael ei throsglwyddo i Wasanaeth Dysgu Gydol Oes y Cyngor.

6.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2017/18 pdf eicon PDF 469 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyngoradroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r angen i fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor am 2017/18. Mae angen i’r Cyngor adolygu ei gynllun presennol neu ei ddisodli gyda chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor arall ddim hwyrach na 31 Ionawr yn y flwyddyn ariannol cyn y bydd y cynllun diwygiedig neu’r cynllun newydd yn dod i rym. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am adolygiad o’r cynllun presennol ar gyfer 2016/17 (Atodiad B) o ran ei effaith a’r sefyllfa mewn perthynas â’r disgresiwn lleol y mae gan y Cyngor yr hawl i’w ddefnyddio ac y mae’r Cyngor wedi’i roi.

 

Penderfynwyd

 

  Peidio adolygu na disodli’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth gyfredol gyda chynllun arall.

  Mabwysiadu’n ffurfiol y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol (gweler Atodiad A) am y flwyddyn ariannol 2017/18.

  Rhoi’r awdurdod i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 wneud trefniadau gweinyddol fel bod yr holl newidiadau blynyddol ar gyfer uwchraddio ffigyrau ariannol neu ddiwygiadau technegol mewn unrhyw reoliad neu reoliadau sy’n diwygio yn cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor y Cyngor am bob blwyddyn ddilynol.

7.

Mabwysiadu Pwerau gan y Cyngor a Dirprwyaeth i Swyddog pdf eicon PDF 486 KB

Cyflwyno adroddiad a baratowyd ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth - adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r pwerau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad ac i’r pwerau hynny gael eu dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd).

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y mater, nid oedd y Cynghorydd R. Meirion Jones yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad.

 

Penderfynwyd

 

  Mabwysiadu’r pwerau a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

  Diwygio’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i ddirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) ddefnyddio’r pwerau hyn.

  Awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r Cynllun Dirprwyo ac unrhyw newidiadau dilynol, er mwyn adlewyrchu mabwysiadu a dirprwyo’r pwerau hyn.

8.

Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r protocolau a’r gweithdrefnau angenrheidiol ar gyfer caniatáu Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol.

 

Penderfynwyd

 

  Cynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor i bwrpas caniatáu Rhyddid y Sir i Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol. Mae angen mwyafrif o ddwy ran o dair i gymeradwyo’r penderfyniad.

  Gwahodd cynrychiolwyr o Wasanaeth Llongau Tanfor y Llynges Frenhinol i’r cyfarfod arbennig.