Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Huw Jones
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 12 Rhagfyr, 2016 (Arbennig) • 15 Rhagfyr, 2016 • 2 Chwefror, 2017 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd, a chadarnhawyd eu bod yn gywir, gofnodion cyfarfodydd blaenorol Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-
· 12 Rhagfyr , 2016 (Arbennig) · 15 Rhagfyr, 2016 · 2 Chwefror, 2017 (Arbennig) |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Tîm Arweinyddiaeth Strategol ynghyd â’r Penaethiaid Swyddogaeth ar gyfer Adnoddau a Busnes y Cyngor ddiddordeb yn Eitem 10 – Datganiad Polisi Tâl 2017 - ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais ar y mater hwnnw.
Datganodd y Cynghorydd Peter Rogers ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 6 – Cyllideb 2017/18.
|
|
Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, neu'r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau canlynol :-
· Llongyfarchwyd y Cynghorydd Jeffrey M. Evans ar gwblhau ei daith feicio elusennol i’r Eidal. · Llongyfarchwyd Tîm Pêl Droed Cerdded Tref Amlwch ar ennill eu twrnamaint cyntaf yng Nghaer yn ddiweddar. Mae’r Cynghorydd Richard O. Jones, Is-Gadeirydd y Cyngor, yn aelod o’r Tîm. · Dymunodd y Cadeirydd yn dda i’w gyd Aelodau Etholedig yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol a gynhelir ym mis Mai.
Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod o’r Cyngor neu aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth. Safodd yr Aelodau a’r Swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch a chydymdeimlad.
|
|
Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau yn unol â’r rheol hon. |
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeisebau’n unol â Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd deiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. |
|
(a) Cyllideb Refeniw 2017/18
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
(b) Cyllideb Gyfalaf 2017/18
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
(c) Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2017/18
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
(ch) Gosod y Dreth Gyngor
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
(d) Newidiadau i’r Gyllideb
Cyflwyno unrhyw newidiadau i’r Gyllideb y derbyniwyd rhybudd yn eu cylch yn unol â Pharagraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad.
(Sylwer: Rhaid ystyried y cyfan o’r papurau uchod fel un pecyn). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2016/17, y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ac yn gosod y Dreth Gyngor fel y’i gwelir yn 6(a) i (ch) yn y Rhaglen. Roedd yn dymuno diolch i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’i staff am eu gwaith yn paratoi’r gyllideb. Diolchodd hefyd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am eu gwaith ac i’r holl Aelodau Etholedig a oedd wedi mynychu’r seminarau a’r cyfarfodydd amrywiol a gynhaliwyd mewn perthynas â’r gyllideb.
Yn ystod y broses ymgynghori ar y gyllideb, dywedodd y bu modd dod â’r cynnydd yn y Dreth Gyngor i lawr i 2.5% yn lle’r 3% a gynigiwyd yn wreiddiol; dyma un o’r codiadau lleiaf yn y Dreth Gyngor drwy Gymru. Mae lefel yr arian wrth gefn, £8m yn uwch nag erioed ac yn cymharu’n ffafriol gydag awdurdodau lleol eraill sy’n llawer mwy. Roedd y cydweithio cadarnhaol rhwng y grwpiau gwleidyddol yn y Cyngor dros y 4 blynedd diwethaf wedi arwain at y gyllideb ffafriol hon a gyflwynwyd gerbron y Cyngor yn y cyfarfod heddiw.
Roedd Arweinydd Grŵp yr Wrth-blaid, y Cynghorydd Llinos M. Huws hefyd yn dymuno diolch i Swyddogion yr Adran Gyllid am eu gwaith gyda pharatoi’r gyllideb. Fel yr Eiriolydd Pobl Ifanc, roedd yn dymuno diolch i’r Gyngor am ganiatáu i Fforwm Pobl Ifanc Llais Ni gael cyfrannu a mynegi eu barn yn ystod y broses o ymgynghori ar y gymuned.
Roedd aelodau’r Cyngor Sir yn dymuno diolch i’r Aelod Portffolio Cyllid am ei arweiniad mewn perthynas â’r gyllideb ac am ei waith dros y 4 blynedd diwethaf.
Yn dilyn ystyried y papurau fel un pecyn, PENDERFYNWYD :-
1. PENDERFYNWYD
(a) Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu’r Cynllun Ariannol Tymor Canol yn Adran 13 Cynllun Ariannol Tymor Canol ac Adran 10 y Gyllideb 2017/18, fel Strategaeth Cyllideb oddi mewn i ystyr a roddir yn y Cyfansoddiad, ac i gadarnhau y daw’n rhan o’r fframwaith cyllidebol gyda’r eithriad o’r ffigyrau a ddisgrifir fel rhai cyfredol.
(b) Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu cyllideb refeniw 2017/18 fel y gwelir honno yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2017/18.
(c) Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu cyllideb cyfalaf fel y gwelir hwnnw yn Papur Bidiau Cyfalaf 2017/18.
(ch) Dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y pŵer i wneud addasiadau rhwng penawdau yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2017/18 er mwyn rhoi effaith i benderfyniadau'r Cyngor.
(d) Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, ym mlwyddyn ariannol 2017/18, y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn:-
(i) pwerau dilyffethair i wario pob pennawd cyllidebol unigol yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2017/18yn erbyn pob gwasanaeth unigol, ar y gwasanaeth perthnasol;
(ii) pwerau i gymeradwyo’r defnydd o’r arian wrth gefn clustnodedig a rhai gwasanaeth i gyllido cynigion gwariant unwaith-ac-am-byth sy’n cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cyngor a gwella gwasanaethau;
(iii) pwerau i drosglwyddo o’r ffynonellau incwm newydd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Adolygiad Canol Blwyddyn - Rheoli Trysorlys 2016/17 PDF 594 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, er mwyn i’r Cyngor ei dderbyn, addroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 yn ymgorffori adolygiad o’r sefyllfa ganol blwyddyn mewn perthynas â gweithgaredd rheoli trysorlys.
PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad ar yr Adolygiad Canol Blwyddyn – Rheoli Trysorlys 2016/17. |
|
Newid i'r Cyfansoddiad PDF 229 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Portffolio - Busnes y Cyngor, Perfformiad, Trawsnewid, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol adroddiad i’r Cyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn amlinellu gwelliant i Gyfansoddiad y Cyngor.
Adroddodd yr Aelod Portffolio - Busnes Gweithredol, Perfformiad, Trawsnewid, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017, yn dilyn ystyried yr uchod, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor llawn bod y Swyddog Monitro’n derbyn yr awdurdod i wneud ac i gyhoeddi’r newidiadau canlynol i Gyfansoddiad y Cyngor:
· Bydd Paragraff 2.2.2 bellach yn darllen ‘Cynhelir etholiad rheolaidd Cynghorwyr ar ddyddiad ac ar gyfnodau i’w penderfynu arnynt gan Weinidogion Cymru. Bydd tymor Cynghorwyr yn eu swydd yn dechrau ar y pedwerydd diwrnod ar ôl cael eu hethol a bydd yn diweddu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl dyddiad yr etholiad rheolaidd canlynol’. · Bydd Paragraff 2.7.3.1 bellach yn darllen ‘Bydd tymor yr Arweinydd yn ei swydd yn parhau am dymor y Cyngor, yn amodol ar baragraff 2.7.3.3. isod’. · Unrhyw ddiwygiadau sy’n dilyn ac sy’n berthnasol i 1 a 2 uchod gan gynnwys y rhai hynny sy’n codi o Fesur Llywodraeth Cymru neu weithredu pwerau Gweinidog Cymru dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
PENDERFYNWYD awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud ac i gyhoeddi’r gwelliannau i Gyfansoddiad y Cyngor a nodir uchod. |
|
Asesiad Anghenion Poblogaeth PDF 8 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017, yn dilyn ystyried yr uchod, wedi penderfynu argymell i’r Cyngor llawn fel a ganlyn :-
· ‘Cymeradwyo’r adroddiad; · Bod Adran 3.2 y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio i gynnwys cymeradwyo Asesiad Anghenion Poblogaeth dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) fel swyddogaeth y mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn ei chyflawni. · Awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r materion sydd wedi eu neilltuo fel swyddogaethau y mae’n rhaid i’r Cyngor llawn eu cymeradwyo yn y Cyfansoddiad ynghyd ag unrhyw newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud o ganlyniad i adlewyrchu hynny.’
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad a’r argymhellion fel y’i nodir uchod.
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2017 PDF 327 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Portffolio - Busnes y Cyngor, Perfformiad, Trawsnewid, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol adroddiad y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd yr Aelod Portffolio - Busnes y Cyngor, Perfformiad, Trawsnewid, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol bod rhaid i awdurdodau, yn unol â Deddf Lleoliaeth 2011, ddatblygu a chynhyrchu polisi tâl ar gyfer holl agweddau Cydnabyddiaeth i Brif Swyddogion.
Roedd yn dymuno diolch i’r Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol a’i staff, ynghyd â staff yr Adran Gyllid, am eu gwaith ar gwblhau’r broses arfarnu swyddi yn yr awdurdod.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Polisi Tâl 2017/18.
|
|
Dyddiadau Cyfarfodydd 2017/18 PDF 554 KB Cyflwyno Dyddiadau Cyfarfodydd 2017/18 gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.
PENDERFYNWYD cymeradwyo amserlen Cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2017/18. |
|
Cynllun Cynefino a Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig - Ebrill 2017 - Mawrth 2018 PDF 481 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Cynllun Cynefino a Datblygu fel fframwaith ar gyfer Datblygu Aelodau yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017 ac i awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i wneud unrhyw addasiadau pellach fel sy’n briodol.
|
|
Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol PDF 289 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd D. R. Hughes fel Aelod o’r Cyngor Sir. Yn sgil hyn, mae angen adolygu cydbwysedd gwleidyddol ar Bwyllgorau’r Cyngor.
PENDERFYNWYD :-
Ataliodd y Cynghorydd A M Jones ei bleidlais mewn perthynas â’r eitem hon.
|
|
Mabwysiadu Datganiad ac Amcanion Llesiant y Cyngor PDF 610 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Trawsnewid.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Portffolio - Busnes y Cyngor, Perfformiad, Trawsnewid, Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol mewn perthynas â’r uchod. Dywedodd fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i fabwysiadu a chyhoeddi nodau ac amcanion llesiant lleol erbyn 31 Mawrth 2017.
PENDERFYNWYD mabwysiadu a chyhoeddi nodau ac amcanion llesiant lleol erbyn 31 Mawrth 2017.
|