Rhaglen a chofnodion

Hefyd Ymateb y Cyngor Sir i Ail Ymgynghoriad Cyn-Ymgeisio Horizon - Cam 2 wedi'i drafod yn gyhoeddus, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 18fed Hydref, 2016 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyflwyniad - Pencampwriaeth Pêl-droed Ewro 2016

 

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor Sir mai anrhydedd a braint oedd cael cydnabod a dathlu llwyddiant Tîm Pêl-droed Cymru yn ystod Pencampwriaethau Ewro 2016 ac yn enwedig Mr. Osian Roberts, Rheolwr Cynorthwyol Tîm Cenedlaethol Cymru a Mr. Wayne Hennessey, gôl-geidwad Cymru. Ganwyd Mr. Osian Roberts yn Ynys Môn ac fe'i magwyd ym Modffordd.  Ganwyd Mr. Wayne Hennessey ym Mangor ond cafodd ei fagu ym Miwmares.

 

Croesawodd y Cadeirydd blant o Ysgol Gynradd Bodffordd a Mr. Elfed Jones a oedd wedi bod yn allweddol wrth gynorthwyo’r Cyngor Sir i anrhydeddu Osian Roberts a Wayne Hennessey. 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyflwyniad hefyd i staff y Cyngor Sir sy'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd dlws i Mr. Osian Roberts i gydnabod y rhan a chwaraeodd yn llwyddiant Tîm Pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaethau Ewro 2016. Diolchodd Mr. Osian Roberts i Gadeirydd ac Aelodau'r Cyngor Sir am yr anrhydedd o dderbyn y tlws.  Talodd deyrnged i'w deulu a chymuned Bodffordd am y gefnogaeth a gafodd ganddynt drwy gydol ei blentyndod ac yn ystod ei yrfa.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd dlws i Mr. Maurice Hennessey, sef ewythr Mr. Wayne Hennessey.  Derbyniodd Mr Maurice Hennessey y tlws ar ran Wayne am ei ran yn llwyddiant Tîm Pêl-droed Cymru gan nad oedd Wayne yn gallu bod yn bresennol oherwydd ymrwymiadau pêl-droed.  Diolchodd Mr. Maurice Hennessey i Gadeirydd ac Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn am yr anrhydedd o dderbyn y tlws ar ran Wayne.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd dlws i’r Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes am ei ymroddiad a'i gyfraniad i bêl-droed yng Nghymru. Mae’r Cynghorydd Hughes wedi bod yn was ffyddlon i Gymdeithas Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru a bu’n Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru rhwng 2012 a 2015. Diolchodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes i Gadeirydd ac Aelodau'r Cyngor Sir am yr anrhydedd o dderbyn y tlws. Talodd deyrnged i Dîm Cymru a dywedodd hefyd ei fod yn falch bod dros 1,500 o blant yn cymryd rhan mewn Cynghreiriau Pêl-droed Iau ar yr Ynys.  Talodd y Cynghorydd Hughes deyrnged hefyd i'w deulu am y gefnogaeth a gafodd ganddynt dros y blynyddoedd.

 

Talodd y Cynghorydd T V Hughes a'r Cynghorydd Alwyn Rowlands deyrnged i lwyddiant Osian Roberts a Wayne Hennessey ym Mhencampwriaethau Ewro 2016.  Soniwyd hefyd am gefndir blentyndod Osian a Wayne a’r gefnogaeth a gafodd y ddau gan eu teuluoedd a'u hymrwymiad i’w llwyddiant yn y gamp.  

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Arolwg Seneddol pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag Arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol - Cynigion Cychwynnol gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.

 

Mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi gostwng nifer yr etholaethau Seneddol yng Nghymru o 40 i 29.  Ni fyddai unrhyw etholaeth yn aros yr un fath o dan y cynigion cychwynnol.  Mae Ynys Môn yn un o saith o brif gynghorau Cymru sydd o dan uchafswm yr ystod etholwyr statudol ac y gellid eu cynnwys felly yn gyfan gwbl o fewn etholaeth newydd.  Oherwydd nifer yr etholwyr ychwanegol y byddai eu hangen, a bod rhaid i’r Comisiwn gymryd i ystyriaeth ffiniau llywodraeth leol, dylai'r etholaeth gwmpasu'r wardiau o gwmpas Bangor a chynnwys tref Caernarfon a’r wardiau hynny sydd i'r dwyrain o Gaernarfon yn uniongyrchol.  Opsiwn arall fyddai  cynnwys wardiau etholiadol i'r gogledd o Fangor, ond yn enwedig o ystyried maint daearyddol 'Gogledd Clwyd a Gwynedd’  ac etholaeth 'Colwyn a Chonwy ', ystyriwyd y byddai hynny’n cael effaith andwyol ar yr etholaethau cyfagos a fyddai'n llai dymunol.  Yr enw a awgrymwyd ar gyfer yr etholaeth yw 'Ynys Môn ac Arfon' a'r enw arall a awgrymwyd yw 'Isle of Anglesey and Arfon'. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac ‘roedd y mwyafrif o'r Aelodau o'r farn bod angen cadw  Etholaeth Seneddol Ynys Môn o gofio cyd-destun hanesyddol cynrychiolaeth Seneddol a’r angen i ddiogelu hunaniaeth unigryw’r Ynys a'i ffiniau gweinyddol naturiol.  Roedd yr Aelodau yn ystyried y dylid cymharu Ynys Môn gydag Ynys Wyth.  Yn Lloegr, cynigiwyd bod 2 Aelod Seneddol yn cynrychioli Ynys Wyth oherwydd bod yno dros 110,000 o etholwyr.

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD gwrthwynebu awgrym y Comisiwn Ffiniau i Gymru y dylai etholaeth Ynys Môn gynnwys y wardiau o gwmpas Bangor a thref Caernarfon a’r wardiau yn union i'r dwyrain o Gaernarfon.

 

3.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2015/16 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Medi, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol ar Berfformiad Blynyddol 2015/16.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Trawsnewid Perfformiad, y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol) fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a waned gan y Cyngor yn erbyn ei Amcanion Gwella ar gyfer 2015/16 fel yr amlinellir trwy’r 7 maes allweddol a nodir yn Nogfen Gyflawni Flynyddol 2014/15.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2015/16 i'w gyhoeddi erbyn y terfyn amser statudol, sef 31 Hydref, 2016.

4.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 102 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

"Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y rhesymau a nodwyd yn y Prawf Budd y Cyhoedd i gau allan y wasg a’r cyhoedd ar gyfer yr eitem.  ‘Roedd un rheswm yn cyfeirio at y ffaith nad oedd Aelodau wedi cael cyfle i ystyried yr ymateb drafft i PAC 2 ac y gallai hyn effeithio ar y penderfyniad a wneir yn y pen draw.  ‘Roedd y rheswm arall yn cyfeirio at y posibilrwydd o effeithio unrhyw gais cynllunio dilynol.  Fodd bynnag, nododd bod yr Aelodau Etholedig yn dymuno trafod yr eitem mewn sesiwn gyhoeddus ac, ar yr amod eu bod yn cyfyngu eu sylwadau i faterion strategol, cyffredinol, gellid trafod yr eitem yn gyhoeddus .

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol gan yr aelodau i drafod y mater yn gyhoeddus.

 

5.

Ymateb y Cyngor Sir i'r Ymgynghoriad cyn cyflwyno cais gan Horizon - Cam 2 pdf eicon PDF 1 MB

Y Prif Weithredwr i adrodd ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Prif Weithredwr yn cynnwys ymateb yr Awdurdod i Ail Gam Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio Horizon Nuclear Power (PAC 2) ynghylch y prosiect Wylfa Newydd.

 

Adroddwyd bod rhaid cyflwyno cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (GCD) ar gyfer y brif orsaf bŵer a’r datblygiadau cysylltiedig hanfodol oddi ar y safle mewn perthynas â’r bwriad i adeiladu Gorsaf Niwclear Wylfa Newydd.  Mae Pŵer Niwclear Horizon yn rhagweld cyflwyno'r cais GCD i'r Arolygiaeth Gynllunio ym mis Mai 2017.  Yn dilyn archwilio'r cais, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cyflwyno argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol a fydd yn penderfynu ar y cais a'r amodau terfynol (a elwir yn ofynion) a osodir ar unrhyw ganiatâd os cymeradwyir y cais. O dan y drefn statudol yng Nghymru, ni fydd y gwaith galluogi megis gwelliannau priffyrdd, gwaith paratoi’r safle a datblygiadau cysylltiedig yn cael ei gynnwys yn y cais GCD ond bydd yn destun 10 cais ar wahân dan y Deddf Cynllunio Gwlad a Thref. Cyflwynir y ceisiadau hyn i'r Awdurdod Cynllunio i’w penderfynu dros y misoedd nesaf. 

 

Mae ail gam yr ymgynghoriad cyn ymgeisio (PAC 2) yn dilyn PAC1 a gynhaliwyd ym mis Medi 2014 ac ymgynghoriad interim a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2016.  PAC2 yw'r ymgynghoriad ffurfiol terfynol cyn cyflwyno'r GCD ac mae’n cynnwys y prif safle niwclear, y  datblygiadau oddi ar y safle a datblygiadaucysylltiedig.  Mae gan PAC2 gyfnod ymgynghori o 8 wythnos a ddechreuodd ar 31 Awst, 2016 ac a fydd yn dod i ben ar 25 Hydref, 2016.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor gyflwyniad gan nodi bod y prosiect yn cynnwys y canlynol: -

 

·           Prif safle'r orsaf bŵer a datblygiadau annatod oddi ar y safle (e.e. MEEG) yn y GCD;

·           Gwaith galluogi (priffyrdd a pharatoi safle);

·           Datblygiadau cysylltiedig (e.e. Llety Gweithwyr) mewn 10 o geisiadau dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref a gyflwynir i’r Cyngor Sir.

 

Dywedodd fod y brif ddogfen ymgynghori yn cynnwys 22 o benodau ar wahân; Dogfen Trosolwg Ymgynghori; Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol (AGAR) (29 o benodau ar wahân); Atodiadau penodol i'r AGAR (6 dogfen); Dogfennau technegol (5 adroddiad) h.y. Asesiad o’r Effaith Ieithyddol, Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, Cynllun Tystiolaeth Ddrafft Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, Asesiad Cynaliadwyedd; Adroddiadau Pwnc (15 adroddiad ar wahân); Uwchgynlluniau (4 adroddiad); Cwestiynau Strategol (11 cwestiwn); Cynllun Budd Cymunedol a Chynllun Lliniaru Sŵn Lleol.

 

Wrth baratoi’r ymateb i PAC 2 dywedodd yr Arweinydd y ceisiwyd atborth gan Swyddogion ym  meysydd gwasanaeth y Cyngor Sir, gan Aelodau Etholedig mewn sesiynau briffio a mewnbwn arbenigol gan ymgynghorwyr proffesiynol a chyfreithiol (a gyllidir gan Pŵer Niwclear Horizon drwy'r Cytundeb Perfformiad Cynllunio a gytunwyd gyda'r Cyngor Sir). Mae'r Awdurdod yn parhau i fod yn gefnogol, mewn egwyddor, i brosiect Wylfa Newydd ond mae angen manylion pellach mewn perthynas ag Addysg, Sgiliau a Swyddi, y Gadwyn Gyflenwi, Tai / Llety Gweithiwr, yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig, Twristiaeth, Iechyd a Lles a’r Methodoleg ar gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.