Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Llun, 12fed Rhagfyr, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem fusnes.

2.

Ymgynghoriad Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru Grid Cendedlaethol pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas ag ymateb Cyngor Sir Ynys Môn I Ymgynghoriad Olaf y National Grid ar y Llwybr Cyfan rhwng Wylfa a Phentir (Adran 42).

 

Nodwyd cywiriad i fersiwn Gymraeg yr adroddiad, gan gyfeirio at bwynt bwled cyntaf (llinell olaf) llythyr ymateb y Prif Weithredwr ar dudalen 2 - ‘adnabod achosion ar gyfer tanddaearuyn llecanfodym mhle, o leiaf, y dylai rhannau eraill o’r llinell fod yn danddaearol’.

 

Rhoes Arweinydd y Cyngor gyflwyniad i’r Cyngor llawn a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:-

 

· Rhagwelir y bydd y National Grid yn cyflwyno cais Gorchymyn Caniatâd Cynllunio i’r

Arolygiaeth Gynllunio ym mis Hydref 2017;

· Fel rhan o’r Gorchymyn Caniatâd Cynllunio mae’n rhaid i’r National Grid ymgymryd ag

Ymgynghoriad Statudol; fel ymgynghorai statudol mae'n ofynnol bod y Cyngor ymateb i

gynigion y National Grid;

· Mae’r ymgynghoriad ffurfiol cyn cyflwyno cais cynllunio Adran 42 (a42) yn ymgynghoriad ffurfiol sy’n dilyn yr ymgynghoriad anstatudol a gynhaliwyd gan y National Grid ym mis Rhagfyr 2015. Mae cyfnod yr ymgynghoriad a42 yn ymestyn o 5 Hydref 2016 i 16 Rhagfyr 2016.

· Mae Adran 42 yn gofyn am ymateb ar lwybr terfynol y National Grid (Wylfa i Pentir); Is-orsaf

Pentir; Llinell Uwch Ben Newydd ar Ynys Môn (Adrannau A, B, C, D ac E); Her Croesi Afon

Menai; Llinell Uwch Ben Newydd yng Ngwynedd (Adran F) ac estyniad i is-orsaf Pentir.

· Y prif bryderon yw’r dull o ddatblygu’r dyluniad a mesurau lliniaru; diffyg strategaeth gynllunio eglur ar gyfer caniatáu’r Gwaith Cysylltu; diffyg eglurder yn y ddogfennaeth ynglŷn â’r dewis o leoliad ar gyfer croesi Afon Menai a’r pennau twnnel cysylltiedig a chost a chyflawniad yr ateb peirianyddol;

· Y thema a gynhwysir yn yr Adroddiad Strategol (Atodiad A ynghlwm i’r adroddiad) yw’r prif

themâu a adnabuwyd yn y ddau ymateb blaenorol sydd wedi cael eu cynnal a’u hehangu.

Mae’r rhain yn cynnwys Dyluniad y Prosiect a Lliniaru, Strategaeth Caniatadau, Ardal y Fenai, Costau, Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant, Effeithiau Cymdeithasol-Economaidd, Twristiaeth, Traffig a Thrafnidiaeth, Effeithiau Cronnus, Iechyd, Llesiant a Chydlyniad Cymunedau ac Ymgynghori;

· Mae strwythur yr Ymateb i Adran 42 yn dilyn strwythur ymatebion blaenorol : Llythyr eglurhaol gan y Prif Weithredwr yn cyfeirio at y prif faterion, sylwadau manwl yn yr Adroddiad Strategol lefel uchel (Atodiad A), Sylwadau ar yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol (PEIR) (Atodiad B), Adolygiad o’r holl Adroddiadau Eraill (Atodiad C). Mae’r ymateb yn strategol ac yn adeiladol ac wedi’i seilio ar wybodaeth a gyflwynwyd gan y National Grid, opsiynau amgen, diwygiadau a mesurau lliniaru arfaethedig i oresgyn effeithiau/heriau);

· Bydd yn Cyngor yn parhau i adeiladu sylfaen o dystiolaeth ynglŷn â’r effaith ar Dwristiaeth a

Thirwedd, Cymunedau ac Effeithiau Cronnus fel sail ar gyfer gwneud newidiadau i’r Prosiect a mesurau lliniaru ac er  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.