Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Cyffredinol, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 23ain Mai, 2017 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 570 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2017.

2.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau Etholedig newydd i'w cyfarfod cyntaf o'r Cyngor Sir. 

 

Wedi hynny, cafwyd y cyhoeddiadau canlynol gan y Cadeirydd: -

 

·         Llongyfarchwyd Côr Ieuenctid Môn ar ei lwyddiant yn ennill 'Gwobr y Gwylwyr’  rownd derfynol cystadleuaeth Côr Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn ddiweddar;

·         Llongyfarchwyd y Cynghorydd Alun Mummery ar gael ei urddo i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir ym Modedern yn Awst 2017.  ‘Roedd y Cadeirydd hefyd yn dymuno llongyfarch trigolion eraill yr Ynys sydd wedi derbyn yr anrhydedd;

·         Llongyfarchwyd Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern a enillodd y Rali Ffermwyr Ifanc a gynhaliwyd yn ddiweddar;

·         Dymunwyd yn dda i Dîm Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn a fydd yn cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd yn Gotland ym mis Mehefin;

·         Dymunwyd yn dda i bawb fydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Sioe Amaethyddol Frenhinol a Sioe Môn yn ystod y misoedd i ddod;

 

Cydymdeimlwyd â Mrs. Janette Jones o'r Adran Gwasanaethau Democrataidd a'i theulu ar golli ei mab yn ddiweddar, Alun Môn. 

 

Cydymdeimlwyd â theulu cyn-Brif Weinidog Cymru, Mr Rhodri Morgan, a fu farw'n sydyn yn ddiweddar.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y digwyddiad erchyll ym Manceinion y diwrnod cynt pan gollodd 22 o bobl ifanc eu bywydau a lle cafodd llawer o bobl anafiadau a fyddai’n newid eu bywydau.

 

Cydymdeimlwyd ag unrhyw Aelod Etholedig neu aelod o staff oedd wedi cael profedigaeth.  Safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch a chydymdeimlad.

 

4.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau

5.

Cyflwyniad i’r Aelodau a oedd wedi dweud eu bod yn bwriadu ymddeol cyn etholiadau’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Cyngor Sir dlws i’r Aelodau hynny a oedd wedi datgan eu bwriad i ymddeol cyn Etholiadau’r Cyngor ym mis Mai.  Roedd yn dymuno diolch i Mr. Jim Evans, Ann Griffith, T. Victor Hughes, H. Eifion Jones, Raymond Jones ac Alwyn Rowlands am eu cyfraniad i’r Cyngor Sir.

 

Anerchodd Mr. Jim Evans, Mr. T. Victor Hughes, Mr. H. Eifion Jones a Mr. Alwyn Rowlands y Cyngor, gan ddiolch i’r Cyngor a’r staff am y gefnogaeth yn ystod eu cyfnod yn y swydd.  Nodwyd nad oedd Ms. Ann Griffith a Mr. Raymond Jones yn gallu mynychu’r cyflwyniad.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd y cyflwynwyd tlws i Mr. Derlwyn R. Hughes a oedd wedi ymddeol o’r Cyngor am resymau iechyd ym mis Ionawr 2017.

6.

Newid i’r Cyfansoddiad – Gwneud newidiadau i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu gofynion ar y Pwyllgor Cynllunio yn unol â Rheoliadau Diweddar pdf eicon PDF 303 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 24 Ebrill 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith, wedi iddo roi sylw i’r uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill, 2017, wedi penderfynu fel a ganlyn:-

 

“argymell i’r Cyngor llawn ei fod yn gwneud y newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor a nodir ym mharagraff 3.3.1 yr adroddiad”.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn y cyswllt hwn.

7.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2016/17 pdf eicon PDF 12 MB

Cyflwyno adroddiad gan Mr Michael Wilson, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2016/17 gan Mr Islwyn Jones, sef Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd Mr Jones nad oedd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Mr. Mike Wilson yn gallu bod yn bresennol yn y Cyngor llawn.  Crynhodd Mr Jones y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Safonau yn erbyn yr amcanion yn ei Raglen Waith ar gyfer 2016/17 fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad.  Nododd bod yna sedd wag achlysurol ar gyfer aelod annibynnol o'r Pwyllgor Safonau ar hyn o bryd ac y bydd y swydd hon yn cael ei llenwi drwy broses agored a chystadleuol a gynhelir gan Banel y Cyngor ar gyfer Dewis Aelodau o’r Pwyllgor Safonau. 

 

Diolchodd Cadeirydd y Cyngor i’r Pwyllgor Safonau am ei waith dros y  deuddeng mis diwethaf.

 

PENDERFYNWYD: -

 

·         Nodi'r Rhaglen a gyflawnwyd  gan y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2016/17;

·         Cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2017/18 fel yr amlinellwyd yn Atodiad B sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

 

8.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2016/17 pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2016/17 gan y Cynghorydd Vaughan Hughes, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2016/17.

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Sgriwtini ar gyfer 2016/17 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Sgriwtini ar gyfer 2016/17 gan y Cynghorydd R. Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r gwaith a wnaed gan y ddau bwyllgor sgriwtini

 

Cyfeiriodd at rôl esblygol y pwyllgorau sgriwtini ac at effeithiolrwydd defnyddio panelau canlyniad i gynnal adolygiadau manwl o feysydd penodol, yn ogystal â sgriwtini cyn penderfyniad i helpu gyda siapio a llywio'r broses o wneud penderfyniadau.  

 

PENDERFYNWYD: -

 

·         Cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Sgriwtini ar gyfer 2016/17;

·         Nodi'r cynnydd a wnaed wrth weithredu canfyddiadau adolygiad annibynnol a gynhaliwyd yn ddiweddar o'r trefniadau trosolwg a sgriwtini;

·         Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fel 'Hyrwyddwr Sgriwtini’ am y cyfnod Mai 2017 i Mai 2018.